Cost of Living Support Icon

113, Picca Close, Gwenfo, 

Mae’n bleser gan Gyngor Bro Morgannwg gynnig ar y cyd â Harmoni Homes gyda Chymdeithas Tai Unedig Cymru, tŷ dwy ystafell wely yn Gwenfo fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

  • Ydych chi’n brynwr tro cyntaf sy’n dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun? 

  • Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad? 

  • Does dim angen edrych ymhellach, gallai perchentyaeth fod o fewn eich cyrraedd

Mae’n bleser gan Gyngor Bro Morgannwg gynnig ar y cyd â Harmoni Homes yn United Welsh Housing, tŷ dwy ystafell wely yn Llandochau fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Band Treth Gyngor:  D

 

Ffioedd Rheoli Ystadau = £149.48 y flwyddyn

 

 

Mae'r llety yn cynnwys:

  • Cyntedd a Thy Bach ar y Llawr Gwaelod

  • Lolfa/Ystafell Fwyta

  • Cegin 

  • Ystafell ymolchi 

  • 2 Ystafell Wely 

  • Gardd gefn 

  • 1 man parcio penodol

 

 Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.  

 

 

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad £164,500 (y pris 100% yw £235,000)

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ac i wneud trefniadau i weld yr eiddo, cysylltwch â:

  • 01446 709433 / 01446 709476

 

 

Mae meini prawf o ran cymhwysedd yn berthnasol.

Bydd ymgeiswyr cymwys:

  • Yn prynu am y tro cyntaf

  • Yn gallu cael morgais am werth yr eiddo

  • Â modd o gael blaendal

Sylwch: Mae meini prawf cymhwyster yn berthnasol, manylir ar y rhain yn y Cwestiynau Cyffredin. 

Aspire-2own logo

Gwneud Cais am Eiddo

Peidiwch ag anghofio, cyn gwneud cais am eiddo bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Aspire2Own.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu'r eiddo hwn darllenwch yr hysbyseb a chwblhewch ffurflen gais: