Cost of Living Support Icon

16, Coed Y Ffynnon, Dinas Powis

Perchentyaeth Cost Isel:  Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy

  • Ydych chi’n brynwr tro cyntaf yn dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun? 

  • Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad? 

  • Does dim gofyn mynd dim pellach, gall perchentyaeth fod o fewn cyrraedd

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gynnig ar y cyd â Harmoni Homes Cymdeithas Tai Unedig Cymru, tŷ canol teras 3 ystafell wely yn Dinas Powis fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Eiddo sy’n cael ei ailwerthu ym Mand Treth Gyngor C yw hwn.

 

Mae'r llety yn cynnwys:

  • Cyntedd/Toiled lawr llawr

  • Lolfa

  • Cegin

  • Ystafell Ymolchi

  • Dwy Ystafell Wely 

  • Gardd Cefn Amgaeedig

  • 2 le parcio yn i cefn

 

Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.  

 

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad £199,500 (y pris 100% yw £285,000)

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ac i wneud trefniadau i weld yr eiddo, cysylltwch â:

  • 01446 709433 / 01446 709476

 

Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.

Bydd ymgeiswyr cymwys:

  • Yn prynu am y tro cyntaf 
  • Yn gallu codi morgais ar gyfer gwerth yr eiddo
  • Â modd o gael blaendal
  • Â chysylltiad â'r ardal leol

Sylwch: Mae meini prawf o ran cymhwysedd yn berthnasol, manylir ar y rhain yn y Cwestiynau Cyffredin.

Aspire-2own logo

Gwneud Cais am Eiddo

Peidiwch ag anghofio, cyn gwneud cais am eiddo bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Aspire2Own.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu'r eiddo hwn darllenwch yr hysbyseb a chwblhewch ffurflen gais: 

 

 

Cofrestrwch gydag Aspire to Own i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd Perchentyaeth Cost Isel eraill.