Cost of Living Support Icon

Terfynau cyflymder diofyn 20mya yng Nghymru 

 

Ynglŷn â'r terfyn cyflymder diofyn 20mya

Mae deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn yn gostwng o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig. Bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym ledled Cymru ar 17 Medi 2023.  O’r dyddiad hwnnw, ni chewch deithio’n gyflymach na 20mya ar y ffyrdd hyn yn ôl y gyfraith.

 

‘Ffyrdd gyda goleuadau stryd nad ydynt yn fwy na 200 llath ar wahân, fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig’ yw ffyrdd cyfyngedig.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y newid hwn am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • lleihau nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol o ganlyniad iddynt

  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau

  • helpu i wella ein hiechyd a’n lles

  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel; a

  • diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

 

Mae mwy o wybodaeth am 20mya a rhai cwestiynau cyffredin ar y polisi ar gael ar llyw.cymru.

 

 

Cynlluniau peilot ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn 20mya

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i dreialu terfynau cyflymder o 20mya mewn wyth anheddiad ledled Cymru i helpu i oresgyn unrhyw faterion annisgwyl cyn cyflwyno’r cynllun yn genedlaethol.

 

Mae wyth ardal beilot wedi treialu’r terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig:

  • Y Fenni, Sir Fynwy

  • Canol Gogledd Caerdydd 

  • Glannau Hafren, Sir Fynwy

  • Bwcle, Sir y Fflint

  • Pentref Cilfriw, Castell-nedd a Phort Talbot

  • Llandudoch, Sir Benfro

  •  

    Saint-y-brid, Bro Morgannwg 

  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Bydd cynlluniau peilot yn cael eu monitro'n barhaus i gasglu data cydymffurfiaeth,  damweiniau, a theithio llesol hirdymor, yn ogystal ag effeithiau economaidd, amgylcheddol ac iechyd cyn ac ar ôl y newid yn y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol.

 

Eithriadau i'r terfyn 20mya diofyn

Ar rai ffyrdd, ni fyddai terfyn cyflymder 20mya yn briodol nac yn ymarferol.  Bydd y ffyrdd hyn yn cael eu galw'n eithriadau, a gall y terfyn cyflymder o 30mya barhau.  Byddwn yn dilyn y broses Gorchmynion Rheoli Traffig statudol i wneud eithriadau. Bydd y broses GRhT hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer parthau pontio 30mya. Bydd y parthau hyn yn gweithredu fel mannau pontio o'r terfyn uwch i'r terfyn diofyn 20mya newydd.

 

Ymgynghoriad Eithriadau Terfyn Cyflymder 20mya

Rydym wedi nodi nifer o 'ffyrdd eithriad' 20mya ym Mro Morgannwg yn unol â meini prawf eithriadau Llywodraeth Cymru.

 

Gallwch weld y 'ffyrdd eithriad' arfaethedig a'r Gorchmynion Rheoli Traffig  cysylltiedig ar:

 

neu'n bersonol yn nerbynfa’r Swyddfeydd Dinesig lle bydd copïau papur o'r amserlen a'r cynlluniau cysylltiedig ar gael i'w gweld tan ddydd Mercher 19 Gorffennaf, rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9am a 4pm ar ddydd Gwener.

 

Gallwch rannu eich barn ar y 'ffyrdd eithriad' arfaethedig 30mya o ddydd Iau 22 Mehefin 2023 tan hanner nos ddydd Mercher 19 Gorffennaf 2023:

 

Ymgynghoriad Eithriadau Terfyn Cyflymder 20mya

 

Gallwch lenwi ein harolwg ar-lein ar gyfer pob un o'r ardaloedd yr hoffech wneud sylwadau arnynt.  Neu gallwch ysgrifennu atom: Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai, Cyngor Bro Morgannwg, Depo’r Alpau, Gwenfô, CF5 6AA.

 

Bydd eithriadau yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac ni fyddant yn cael eu gweithredu tan ar ôl 17 Medi 2023.

 

 

Gwaith cyn y terfyn cyflymder 20mya diofyn

Rydym eisoes wedi dechrau gweithio i baratoi ar gyfer y newidiadau ar 17 Medi 2023. Rydym yn:

  • Tynnu’r arwyddion 20mya nad oes eu hangen mwyach gan ddechrau gyda marciau cylchol lonydd cerbydau a phyrth arafu a gorffen gyda'r arwyddion terfyn cyflymder 20mya statudol

  • Gosod polion newydd mewn mannau lle bydd angen arwyddbyst newydd ar gyfer ffyrdd cyfyngedig

Rydym yn datblygu strategaeth i osod yr arwyddion ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn 20mya newydd a safleoedd eithrio ar neu ar ôl y dyddiad gweithredu o 17. Medi 2023. Bydd gwaith i newid arwyddion yn debygol o barhau ar ôl 17 Medi oherwydd maint y rhwydwaith ffyrdd yr effeithir arno a nifer yr arwyddion i'w newid.