Cost of Living Support Icon

Gwrychoedd a Gordyfiant

Gwybodaeth, canllawiau a chyfrifoldebau tirfeddianwyr y mae eu gwrychoedd a'u coed yn hongian dros briffyrdd cyhoeddus. 

 

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg ddyletswydd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 i sicrhau nad yw'r briffordd yn cael ei rhwystro. Gall hyd yn oed gordyfiant bach fod yn beryglus, yn enwedig i bobl ddall a phobl â nam ar eu golwg sy'n aml yn defnyddio ffiniau eiddo fel canllaw, neu pan fo llwybr troed yn gul.

 

Mae'n ofynnol i unrhyw beth sy'n bargodi fod o leiaf:

  • 2.3m uwchben y droedffordd, y llwybr beicio neu'r llain ymyl

  • 5.3m uwchben wyneb y ffordd

 Welsh Overgrowth

 

Mae gwrychoedd sydd wedi gordyfu wrth ymyl llwybrau troed a ffyrdd yn berygl gwirioneddol i bobl sy'n anabl neu sydd â nam ar eu golwg a phlant bach neu gerddwyr eraill, sydd mewn perygl o gael anaf i'w hwynebau neu ddifrod i’w dillad o ddrain a changhennau. Os yw'r palmant yn gul neu os yw'r rhwystr yn ormodol, gallent gael eu gorfodi i mewn i'r ffordd. 

 

Ar gyffyrdd a chorneli, gall gwrychoedd sydd wedi gordyfu rwystro llinellau golwg gyrwyr. Gallant hefyd guddio arwyddion traffig neu oleuadau stryd, gan gynyddu'r risg o ddamweiniau.

 

Cyfrifoldeb Tirfeddiannwr

Cyfrifoldeb perchennog yr eiddo neu’r tir yw sicrhau bod gwrychoedd yn cael eu torri’n ôl ddigon i sicrhau nad oes gordyfiant yn tyfu i mewn i'r droedffordd neu'r lôn gerbydau fabwysiedig. 

 

Cyfrifoldeb perchennog yr eiddo neu’r tir hefyd yw sicrhau bod popeth sy’n cael ei dorri’n cael ei waredu.

 

Os bydd angen i Gyngor Bro Morgannwg drefnu i gontractwr trydydd parti gael gwared ar unrhyw doriadau, bydd unrhyw gostau y mae’r Cyngor yn eu talu’n cael eu hailgodi ar berchennog yr eiddo / tir.


Sylwer: Os yw torri gwrychoedd preifat yn debygol o darfu ar adar gwyllt, mae’n bosib y gallwn ganiatáu i'r perchnogion ohirio'r gwaith nes bod y tymor nythu ar ben. Mae hyn gan fod cyfreithiau yn erbyn tarfu ar nythod adar gwyllt.

Arolygiadau Priffyrdd

Mae ein harolygwyr priffyrdd yn adolygu ffyrdd yn rheolaidd drwy ddilyn amserlen a bennir ymlaen llaw (gan gynnwys dosbarthiad ffyrdd a phwysigrwydd llwybrau) ac maent yn nodi pob math o ddiffyg neu berygl, megis gwrychoedd a gordyfiant.  Mae hyn er mwyn cadw'r briffordd yn ddiogel. 

 

Os oes angen, bydd llythyrau’n cael eu hanfon at breswylwyr lle darganfyddir gordyfiant. Yn y rhan fwyaf o achosion, unwaith y bydd llythyr yn dod i law, bydd y perchennog yn torri'r gordyfiant yn ôl.  Fodd bynnag, os na chaiff y goeden neu'r gwrych sydd wedi gordyfu ei dorri'n ôl gan y perchennog, gallwn, pan fetho popeth arall, roi rhybudd iddo wneud y gwaith o dan Adran 154 Deddf Priffyrdd 1980.

Angen help?

Os cewch drafferth yn trefnu i wrychoedd neu goed gael eu torri, cysylltwch â ni i egluro eich amgylchiadau ac efallai y gallwn drefnu'r gwaith angenrheidiol am gost resymol.