Cost of Living Support Icon

Gritting-VehicleGraeanu 

Rhwng mis Hydref a mis Ebrill, rydyn ni’n darparu gwasanaeth gaeaf cynnal a chadw priffyrdd. Fel arfer, mae graeanu’n digwydd rhwng 6.30pm a 7.00am, y tu hwnt i oriau brig traffig. 

 

Caiff y penderfyniad i raeanu heolydd â halen y graig sych ei seilio ar dymheredd arwyneb y ffordd ac nid tymheredd yr aer. Mae wyth gorsaf iâ wedi’u gosod mewn mannau strategol i ddarparu data cyfredol wrth i ni ystyried y penderfyniad.

 

Lleoliad y rhain yw: yr A4226 Five Mile Lane, yr A4231 Heol Gyswllt Dociau’r Barri, yr A48 yn Nhregolwyn, yr A48 yn Sain Siorys, yr A48 ar Draphont y Bont-faen, y B4265 yr y Wig a’r B4270 yn Llandŵ. 

 

Llwybrau Graeanu 

  • Heolydd strategol a phrif heolydd 
  • Heolydd diwydiannol a masnachol bwysig 
  • Heolydd mynediad i ac o bentrefi a threfi
  • Heolydd dan risg 

 

Grit-bin

Cynwysyddion Halen 

Caiff cynwysyddion eu darparu er mwyn i drigolion ddefnyddio’r halen ar heolydd a phalmentydd sydd o dan ofal y Cyngor.

 

Nid yw’r halen at ddefnydd personol na masnachol; mae halen ar gael i’w brynu at y pwrpas hwnnw. Pan gaiff ei wasgaru, mae’n helpu i arbed iâ rhag ffurfio ac yn meddalu eira cyn iddo gael ei glirio. Rydyn ni’n llenwi cynwysyddion halen dwywaith yn ystod y gaeaf fel arfer, ac mor aml â phosibl mewn cyfnod o dywydd garw. 

 

Peidiwch â’ch peryglu eich hun pan fyddwch chi’n gwasgaru halen nac yn symud eira, sy’n waith corfforol llafurus. Rydyn ni’n argymell eich bod yn gofyn i’ch cymdogion am help os yw’n ymarferol, gan na fydd y Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anafiadau. 

 

 

Cais i Ail-lenwi Cynhwysydd Halen