Hafan >
Byw >
Gwaith Trin Arwyneb Micro Asffalt
Gwaith Trin Arwyneb Micro Asffalt
Mae Micro Asffalt yn gymysgedd o emwlsiwn bitwmen wedi'i addasu gan polymer, gro mân a sment.
Bydd Micro asffalt yn selio'r wyneb, gwella gwead yr wyneb ac yn estyn hyd oes y ffordd am flynyddoedd lawer.
Rhoddir y micro asffalt ar yr arwyneb ddwywaith: bydd y tro cyntaf yn rheoleiddio'r arwyneb presennol, a'r ail yn rhoi'r arwyneb terfynol.
Mae'n ddull cyflym, effeithlon ac economaidd o gynnal a chadw ataliol a gwneud mân ailbroffilio ar arwynebau lonydd cerbydau.
Yn gyffredinol, bydd gwaith yn mynd rhagddo rhwng 7.00am a 6.00pm, 7 diwrnod yr wythnos.
Bydd y deunydd yn aros yn wlyb am unrhyw faint rhwng 15 a 30 munud ar ôl ei osod, yn dibynnu ar y tymheredd a lleithder yr aer. Pan gaiff ei osod am y tro cyntaf, mae'r deunydd yn frown. Wrth iddo galedu mae'n troi yn llwyd tywyll/du. Mae gyrru ar ei hyd yn gwella'r arwyneb sydd newydd ei osod ac yn rheoli cyflymder y caledu.
Gall gweddillion cerrig rhydd gronni ar y ffordd am gyfnod ar ôl y gwaith, sy'n arferol ar gyfer y broses hon ac a gaiff eu symud gan beiriant sugno a sgubo pan fo angen. Gyrrwch yn araf ac edrychwch ar yr arwyddion dros dro a fydd wedi'u gadael yn eu lle.
Sylwch: Mae’n bosibl y cyfyngir ar fynediad cerbydau i eiddo yn ystod y gwaith. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd.
Gwaith sydd ar y gweill:
Caiff hysbysiadau eu gosod ar ddodrefn stryd yn eich ffordd yn nodi pryd bydd y gwaith yn debygol o ddechrau. Cadwch olwg am yr hysbysiadau hyn er mwyn sicrhau na chaiff y gwaith ei ohirio oherwydd bod cerbydau wedi'u parcio ar y ffordd.
-
Y Barri
-
Denbigh Way
-
Radnor Green
-
Winston Road
-
Carmathen Close
-
Clive Road
-
Y Bont-faen
-
Millfield Drive
-
Grays Walk
-
Slade Close
-
St Quentins close
-
Dinas Powys
-
Cardigan Road
-
Elm Grove Lane
-
Elm Grove Road
-
Penarth
-
Hasting Place
-
Meliden Road
-
The Paddocks
-
Cherry Close
-
Thorn Grove
-
Birch Lane
-
Rowan Close
-
Baron Road
-
Baroness Place
-
Countess Place
-
Westbourne road
-
Dyserth Place
-
Mountjoy crescent
-
Fairfield Road
-
West Terrace
-
Grove Terrace