Cost of Living Support Icon

Marciau Sicrhau Mynediad 

Mae marciau sicrhau mynediad (H-nod) yn cael eu nodi â llinell wen sengl a marciau bar bob pen iddi, wedi’i lleoli ar draws y fynedfa sydd i’w gwarchod. 

 

Nid yw parcio ar y marciau’n drosedd nac yn agored i wŷs gyfreithiol, maen nhw wedi llwyddo yn y rhan fwyaf o lefydd drwy leddfu problemau rhwystro am eu bod yn tynnu sylw gyrwyr at bresenoldeb rhodfa, mynediad neu ymyl ffordd isel.

 

Cais am H-Nod 

Os ydych chi’n dymuno gwneud cais am osod marc, bydd cost o £400 yn daladwy. 

 

Os ydych chi’n ddeiliad Bathodyn Glas, gellir gosod y marc am ddim (yn amodol ar argaeledd cyllid). Unwaith bydd eich cais wedi cael ei archwilio a’i gymeradwyo, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu’r taliad (neu i ofyn am dystiolaeth o’r Bathodyn Glas) er mwyn i ni gyflawni’r gwaith.


Anfonwch geisiadau at: 

Cyngor Bro Morgannwg 

Depo’r Alpau 

Gwenfô 

CF5 6AA

 

Nodwch: Heddlu De Cymru sy’n gyfrifol am ddelio â cherbydau sy’n rhwystro mynediad i mewn ac allan i rodfa breifat, a gellir cyfeirio’r achosion yma i’r heddlu er mwyn iddynt eu gweithredu. I ddweud wrth yr Heddlu, cysylltwch ar rif ffôn 101 neu rhowch wybod i’ch swyddog cefnogaeth gymunedol leol.