Cost of Living Support Icon

20mph painted on the roadMesurau Arafu Traffig

Rydym yn derbyn llawer o gwynion ynghylch cerbydau’n goryrru mewn ardaloedd preswyl ac rydym yn ymchwilio i bob cais trwy gynnal arolygon cyflymder.

Gweithredir cynlluniau ar sail blaenoriaeth gan ystyried:

  • damweiniau niwed personol wedi’u cofnodi
  • llif y traffig
  • gwybodaeth bwysig arall

Gwneir cynigion i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn am arian i weithredu cynlluniau diogelwch a elwir yn 'Llwybrau Diogel mewn Cymunedau' yn ogystal a cheisiadau i’n cyllideb refeniw ein hunain. 

 

Mesurau posibl:

  • twmpathau 
  • rhwystrau igam-ogam
  • culhau ffyrdd
  • arwyddion
  • marciau ffordd


Cyswllt