Cost of Living Support Icon

Clirio Eira

Yn ystod cyfnodau o eira, rydyn ni’n clirio ac yn aredig y prif lwybrau graeanu yn y Fro, yn cynnwys ffyrdd A a B, priffyrdd a mynediad i ysbytai, gorsafoedd tân a gwasanaethau pwysig eraill. 

 

Yn ystod y tywydd gwaethaf, ni allwn ni warantu y bydd pob ffordd yn cael ei chadw’n agored. Dim ond pan fydd y prif heolydd yn glir y byddwn ni’n gweithio ar heolydd eraill. 

 

 

 Snow plough

Rydyn ni’n canolbwyntio’n hymdrechion ar rwydwaith diffiniedig o brif heolydd (ac yn blaenoriaethu yn unol ag amodau’r tywydd):

  • Y prif heolydd rhwng trefi a ffyrdd strategol ar y rhwydwaith diffiniedig
  • Heolydd dosbarthu sy’n arwain o’r rhwydwaith diffiniedig i drefi llai a phentrefi
  • Yr heolydd sy’n weddill ac ymateb i achosion brys ar ffyrdd di-ddosbarth
  • Llwybrau troed mewn ardaloedd siopa

 

Efallai na fydd yn bosibl i glirio pob heol, a bydd gofyn i ni adael i rai heolydd ddadmer yn naturiol.

 

Mae erydr eira dim ond yn gweithio’n effeithlon pan fo’r eira’n fwy na 5cm (dwy fodfedd) o ddyfnder. Yn ogystal, ni allan nhw glirio heolydd sydd â thympiau na mesurau rheoli traffig tebyg arnynt, na heolydd cul a cheir wedi’u parcio arnynt.

 

Mae gennym rwydwaith clirio llwybrau troed cymeradwy sy’n cael ei drin pan fo angen clirio eira. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys lleoliadau â’r nifer uchaf o gerddwyr, fel ardaloedd siopa. Mae’r gwasanaeth hwn yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael, gan mai ein blaenoriaeth yw clirio prif rwydwaith yr heolydd.