Cost of Living Support Icon
Pothole

Tyllau yn y ffordd 

Ceir twll yn y ffordd pan fod arwyneb y ffordd yn cael ei erydu ac mae pant yn ffurfio. Nid yw pob twll yn ddigon dwfn i ni ei ystyried yn ddifrifol ar raddfa swyddogol. 

 

Mae ein harolygwyr yn archwilio ffyrdd yn unol ag amserlen benodol (sy’n cynnwys dosbarthiad y ffordd a phwysigrwydd yr heol).

 

Cofnodir pob nam a welir, ac fe’u gosodir o fewn amserlen atgyweirio benodol. 

 

Yn unol â’n polisi arolygu diogelwch, ystyrir peryglon posibl pob achos, er enghraifft:

 

  • Safle'r twll yn y ffordd
  • Maint a dyfnder y twll
  • Dosbarthiad y ffordd a phwysau, cyflymder a chyfaint y traffig

 

Dweud wrthon ni am dwll yn y ffordd 

Gallwch chi ddweud wrthon ni ymhle mae tyllau yn y ffordd drwy lenwi’n ffurflen ar-lein.

Er mwyn bod yn gymwys i’w atgyweirio, rhaid i’r twll fod o leiaf 40mm (1.5 modfedd) o ddyfnder, ac estyn o leiaf 300mm (12 modfedd; maint darn o bapur A4) i unrhyw gyfeiriad. Peidiwch â mesur tyllau yn y ffordd ar unrhyw gyfrif – mae’n beryglus iawn.

 

 

Ffurflen ar-lein

 

Nodwch: Ein nod yw atgyweirio pob twll yn y ffordd a adroddir i ni o fewn 28 diwrnod gwaith (gall hyn fod yn hirach yn amodol ar ganlyniad asesiad o’r safle). Fodd bynnag, os ceir twll yn y ffordd mewn man sy’n cael ei ystyried yn risg uchel, bydd yn cael ei lenwi o fewn 24 awr.

 

Cofiwch na fydd pob twll yn y ffordd yn ddigon dwfn i gymhwyso i gael ei atgyweirio. Fydd trwsio twll sy’n rhy fas yn dda i ddim, a gall yr arwyneb dreulio eto o fewn ychydig ddyddiau. Os oes sawl twll ar hyd un ffordd benodol, mae’n bosib y bydd y rhan hon o’r ffordd yn cael ei hatgyweirio o dan delerau ein cynllun tair blynedd i adnewyddu arwyneb y ffyrdd.