Cost of Living Support Icon

Gorchmynion Rheoli Traffig Dros Dro (GRhTDD)

Gorchymyn Rheoli Traffig Dros Dro (GRhTDD) yw'r broses gyfreithiol a ddefnyddir i stopio neu gyfyngu ar gerbydau neu gerddwyr ar y briffordd dros dro.

 

Gall GRhTDD bara hyd at 18 mis a gellir ei ddefnyddio ar gyfer ffyrdd, llwybrau troed neu Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

 

Defnyddir GRhTDD gan amlaf ar gyfer y canlynol:

  • Caniatáu i waith hanfodol neu frys gael ei wneud yn ddiogel ar y briffordd, megis cywiro diffygion peryglus, gwaith gosod neu gynnal a chadw i wasanaethau nwy, trydan a dŵr

  • Ar gyfer digwyddiadau amrywiol, er enghraifft cau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, cymdeithasol ac elusen* (*Mewn rhai achosion gellir lleihau'r ffi ar gyfer digwyddiadau elusennol)

  • Ar gyfer gwaith wrth ymyl y briffordd megis datblygiadau mawr

Gwneir GRhTDD o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a gellir eu gwneud i gwmpasu sefyllfaoedd arfaethedig neu gellir cyhoeddi hysbysiad brys os oes angen y rheoliad ar gyfer sefyllfa frys.

 

Gall GRhTDD gymryd rhwng 8 a 12 wythnos i’w brosesu oherwydd bod yn rhaid i ni:

  • Ddweud wrth yr heddlu, gwasanaethau brys a phobl eraill fel gweithredwyr bysiau a gwasanaethau gwastraff gan fod cau ffyrdd yn aml effeithio ar eraill

  • Rydym yn hysbysu'r cyhoedd drwy hysbysebion (hysbysiadau) yn y wasg leol cyn i ni wneud y Gorchymyn Rheoleiddio Dros Dro (GRhTDD)

  • Bydd swyddogion cyfreithiol yn ysgrifennu'r gorchymyn a bydd yn cael ei roi ar y safle cyn i unrhyw un gau

 

Bydd angen i chi gadw at y canlynol:

  • Hysbysu pob preswylydd ac eiddo masnachol i sicrhau eu bod yn gwybod am eich gwaith/digwyddiad arfaethedig

  • Bod ag arwyddion dwyieithog rheoli traffig dros dro priodol ar waith y mae'r tîm Rheoli Rhwydwaith wedi'u cymeradwyo.  Mae'r rhain i'w darparu ar eich cost eich hun a'u tynnu'n brydlon yn unol â’r dyddiad dod i ben

 

Cost

Y gost ar hyn o bryd yw £618.70, ac mae'r gost hon yn talu am  amser swyddogion yn adolygu, trafod a phrosesu eich cais gyda chydweithwyr o’r Gwasanaethau Cyfreithiol, gan gynnwys rhannu'r holl fanylion â rhanddeiliaid allanol. Bydd y gost yn cynyddu ychydig flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gweld ar dudalen ffioedd a thaliadau presennol y Cyngor.

 

Gall ffioedd cyfreithiol amrywio yn dibynnu ar faint y GRhTDD a maint y gwaith sydd ynghlwm wrth gyhoeddi ac fel arfer gall amrywio o £800-1500 y cais.

 

Sut i wneud cais am GRhTDD

Bydd y tîm rheoli rhwydwaith yn fwy na pharod i gynorthwyo mewn unrhyw achos a thrafod opsiynau gyda chi: