Cost of Living Support Icon

Gatiau Gwli

Nod y cynllun Gatiau Gwli yw gwella diogelwch eich cymuned drwy osod clwydi cloadwy o safon uchel, o ddur galfanedig wedi’i dorri â laser a’i orchuddio â phowdr

 

Gosodir gatiau gwli ar lonydd cefn neu gwlis y tu ôl i dai. Maent yn atal lladron ac yn helpu i roi stop ar weithgareddau gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon. Bydd lonydd yn llawer mwy diogel ac yn llecyn tawel at ddefnydd teuluoedd.

 

Caiff gatiau gwli ei darparu mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru. Mae’r gwasanaethau tân ac ambiwlans yn bartneriaid hefyd. Cafwyd cyllid ar gyfer y gatiau gan Lywodraeth Cymru, arian Ewropeaidd a Phartneriaeth Bro Ddiogelach.

 

Nodwch: yn achos priffyrdd a fabwysiadwyd, bydd y lonydd hyn yn parhau i fod yn fabwysiedig, ac yn cael eu rheoli a’u cynnal gennym ni. Pan maent yn breifat, maent yn parhau i fod yn breifat.

 

Sut mae’r cynllun yn gweithio

Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae gatiau gwli wedi eu gosod, byddwch yn derbyn allwedd sy’n agor y clwydi perthnasol. Ni fydd hon yn agor clwydi eraill yn y cyffiniau.

 

Mae’r allweddi meistr yn cael eu dal yn ein meddiant ni ac ym meddiant y gwasanaethau brys a chwmnïau adnoddau cyhoeddus amrywiol.

 

Mae’r rhan fwyaf o gatiau gwli’n cael eu cynnal a’u cadw gennym ni yn y Cyngor. Bydd gatiau ar dir cymdeithasau tai preifat o dan ofal y gymdeithas dai berthnasol. 

Dweud wrthon ni am broblem gyda gatiau gwli

Gallwch wneud hyn drwy lenwi’r ffurflen ar-lein

I ddweud wrthon ni am broblem gyda gatiau gwli, llenwch ein ffurflen ar-lein neu gysylltu â Gwasanaethau Gweladwy:

 

Ffurflen problem gyda gatiau gwli (Saesneg yn unig)

 

Os byddwch yn gweld gatiau’n cael eu difrodi, eu fandaleiddio neu eu niweidio mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â’r heddlu (drwy ffonio 999). 

 

Nodwch: pan mae angen i ni gau lôn gefn, cyhoeddir gorchymyn traffig. (Mae’r pwerau yma’n cael eu nodi o fewn Adrannau 1 a 2 Deddf Rheoleiddio Traffig 1984.) Cynhelir ymgynghoriad statudol â’r cyrff perthnasol i gyd, dangosir arwyddion ar y safle / yn y wasg leol sy’n hysbysu’r cyhoedd o’n cynigion, ac anfonir llythyr at bob cartref sy’n cael ei effeithio.