Prydau Ysgol am Ddim
Dim ond rhieni sy'n derbyn rhai budd-daliadau penodol sy'n gallu hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eu plant.
Mae’r budd-daliadau perthnasol yn cynnwys:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cymorth Cyflogaeth
- Cymorth o dan Adran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Treth Plant (ond nid y Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol (fel yr aseswyd gan Gyllid y Wlad) heb fod yn fwy na £16,190
- Elfen wedi ei warantu o Gredyd Pensiwn y Wlad
Noder: Mae plant sy'n derbyn Lwfans Incwm neu'r Lwfans Ceisio Gwaith eu hunain yn seiliedig ar incwm yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim.
Dylai rhieni sy'n credu y gall eu plant hawlio prydau ysgol am ddim lenwi'r ffurflen gais a'i hanfon at yr Awdurdod Lleol.