Modelau Cyflawni ar gyfer Darpariaeth Arbenigol Gynaliadwy a Gwell
YMGYNGHORIAD AR Y CYNNIG I GREU MODELAU CYFLAWNI NEWYDD AR GYFER DARPARIAETH ARBENIGOL GYNALIADWY A GWELL

Cyflwyniad i’r cynnig
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i sicrhau bod holl ddisgyblion y Fro yn cael pob cyfle i sicrhau’r deilliannau gorau posibl. Er mwyn cyflawni'r uchelgais hwn, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ysgolion yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau lleol, a bod ganddynt yr amgylcheddau dysgu gorau posibl.
Awdurdododd Cabinet y Cyngor y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad o 8 Medi i 17 Hydref 2025 ar gynnig i greu modelau cyflawni newydd ar gyfer darpariaeth addysg ADY arbenigol well. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o strategaeth ehangach i sicrhau bod darpariaeth addysg arbenigol ADY ym Mro Morgannwg yn ymatebol, yn gynaliadwy ac yn esblygu i gwrdd â heriau’r presennol a’r dyfodol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r twf mewn angen o ran ADY wedi cynyddu'n enfawr ar draws ein darpariaeth addysg arbenigol yn gyffredinol, ac mae angen cydgrynhoi cymorth i ehangu mynediad at gymorth arbenigol, i hyfforddiant ac i ymyriadau ar draws ein holl ysgolion. Mae'r wybodaeth a gasglwyd yn awgrymu, oherwydd cynnydd yn y disgyblion ag iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol (ICEM), bod angen ymagwedd mwy strategol, i wella cynaliadwyedd ein gwasanaethau i'n holl ddisgyblion.
Mae'r ymgynghoriad hwn mewn dwy ran:
- Sefydlu canolfan adnoddau arbenigol Saesneg newydd yn Ysgol Gynradd Holton o 1 Ionawr 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Mae darpariaeth beilot yn gweithredu yn yr ysgol ar hyn o bryd er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau.
- I gyflwyno model estynedig o wasanaeth ymgysylltu’r Awdurdod Lleol, sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan Ysgol y Deri. Bydd hyn yn cael ei dreialu yn nhymor yr hydref 2025 er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau.
Byddai hyn yn golygu newid i'r ddarpariaeth bresennol a ddarperir ar hyn o bryd yn Y Bont. Mae Y Bont yn ganolfan adnoddau sydd wedi'i lleoli ar hyn o bryd yn Ysgol Gynradd High Street. Mae'r ganolfan yn gweithredu fel canolfan ragoriaeth ar gyfer anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol ac yn cynnig amgylchedd ysgogol a chyfoethog a staff arbenigol i ddarparu ar gyfer plant sydd ag anghenion AYECh ar sail amser llawn. Mae lleoedd yn cael eu cynnig ar sail amser llawn gyda chofrestru deuol gyda'u hysgol gartref, ac mae'r ganolfan yn gweithredu fel 'drws tro' gyda'r disgwyliad y bydd disgyblion yn gallu gadael y ganolfan adnoddau a chael eu hailintegreiddio yn ôl i addysg brif ffrwd amser llawn. Er bod y ddarpariaeth yn Y Bont wedi bod yn llwyddiannus a bod yna feysydd o arfer gorau, mae'r cwmpas yn gyfyngedig o ystyried y galw, ac mae'r pwysau ar Ysgol Gynradd High Street wrth weithredu'r ganolfan wedi bod yn anghymesur o ystyried y deilliannau sy'n ofynnol o ddarpariaeth fel hon, o ystyried y galw ar draws y sir
Ymateb i’r ymgynghoriad
Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o 8 Medi hyd at 17 Hydref 2025.Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.
Mae eich barn yn bwysig i ni, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch ymateb i’r ymgynghoriad:
Modelau Cyflawni ar gyfer Darpariaeth Arbenigol Gynaliadwy a Gwell
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU
Bydd yr holl ymatebion ysgrifenedig a roddir i ni erbyn 17 Hydref 2025 yn cael eu hystyried gan y Cabinet cyn iddo benderfynu p’un a ddylid cyhoeddi hysbysiad statudol ai peidio.
Dogfennau Ymgynghori