Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

21st Century Schools Logo

Cyfuno Ysgol Gynradd Y Bont Faen ac Ysgol Gyfun Y Bont Faen

Ymgynghoriad ar y cynnig i sefydlu ysgol pob oed 3-19 newydd â 2006 o leoedd, gyda 96 o leoedd meithrin rhan-amser, o fis Medi 2022 trwy uno Ysgol Gynradd y Bont-faen ac Ysgol Gyfun y Bont-faen.

Cyflwyniad i'r cynnig

Ar 4 Tachwedd 2019, fe gymeradwyodd Cabinet y Cyngor ddull graddol o ehangu darpariaeth gynradd yn y Bont-faen gyda darpariaeth cyfrwng Saesneg yn cael ei hehangu fel rhan o gam un a darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn cael ei hehangu fel rhan o gam dau. Mae hyn yn unol â’r amcanestyniadau disgyblion, sy’n dynodi na fyddai darpariaeth cyfrwng Saesneg yn gallu ateb y galw o fis Medi 2020. Mae’r amcanestyniadau’n dynodi y byddai’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel y mae ar hyn o bryd yn cyrraedd ei chapasiti o fewn y pum mlynedd nesaf.

Fe roddodd y Cyngor ystyriaeth i ystod o safleoedd i gyflawni’r ddau gam; gyda Safle Ysgol Gyfun y Bont-faen yn cael ei adnabod fel y safle a ffefrir ar gyfer ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg a safle Fferm y Darren ar gyfer ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Fe ymgynghorodd y Cyngor yn flaenorol ar gynnig i gynyddu capasiti cyfrwng Saesneg trwy sefydlu ysgol pob oed 3-19 ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen i wneud lle i 420 o leoedd cynradd cyfrwng Saesneg gyda 96 o leoedd meithrin rhan-amser ychwanegol. Byddai hyn wedi arwain at ddirwyn Ysgol Gynradd y Bont-faen ar ei ffurf bresennol i ben, gyda’r holl staff a disgyblion yn trosglwyddo i’r ysgol pob oed.

Mae’r Cyngor yn nodi’r pryderon a godwyd gan staff, llywodraethwyr, rhieni ac aelodau’r gymuned ynghylch y cynnig blaenorol a chan hynny mae wedi mynd ati’n llawn i archwilio’r dulliau eraill sydd ar gael i gyflawni’r capasiti gofynnol.

Mae’r Cyngor wedi adnabod dull arall a fyddai’n ateb y galw am addysg gynradd cyfrwng Saesneg, gan hefyd fynd i’r afael â nifer o bryderon a gyflwynwyd fel rhan o’r ymarfer ymgynghori.

Ar 9 Mawrth 2020, fe wnaeth Cabinet y Cyngor awdurdodi’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad rhwng 16 Mawrth 2020 ac 1 Mai 2020 ar gynnig diwygiedig i gynyddu nifer y lleoedd ysgol cynradd yn y Bont-faen.

 

 

Dod o hyd i fwy

 

Cwestiynau Cyffredin

  • Beth fyddai’r cynnig yn ei olygu ar gyfer plant sy’n mynychu Ysgol Gynradd y Bont-faen ac Ysgol Gyfun y Bont-faen ar hyn o bryd? A fyddai fy mhlentyn yn cael cynnig lle yn yr ysgol yn dilyn y broses uno?
    Byddai’r holl blant sy’n mynychu Ysgol Gynradd y Bont-faen ac Ysgol Gyfun y Bont-faen ar adeg uno’r ddwy ysgol yn sicr o gael lle yn yr ysgol a fyddai’n cael ei chreu drwy eu huno.
  • Beth fyddai’r trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgol pob oed 3-19 oed? 
    Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgolion. Byddai’r trefniadau derbyn ar gyfer cyfnod cynradd ar ôl uno’r ysgolion yn aros yr un fath o ganlyniad i’r cynnig hwn. Fodd bynnag, byddai’r nifer derbyn yn cynyddu o 30 i 60 o ddisgyblion. Yn y cyfnod uwchradd byddai’r disgyblion yn trosglwyddo’n naturiol o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 heb wneud cais am le.  
  • A fyddai’r cynnig hwn yn effeithio ar dderbyniadau uwchradd ar gyfer Ysgol Gyfun y Bont-faen? 
    Fel a nodir uchod, byddai disgyblion o gyfnod cynradd yr ysgol pob oed yn trosglwyddo’n naturiol o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 heb wneud cais am le. Ystyrir bod capasiti presennol Ysgol Gyfun y Bont-faen yn addas i ateb y galw uwch am addysg uwchradd yn y dalgylch. Er bod goralw cyson am leoedd yn Ysgol Gyfun y Bont-faen, mae’r ysgol yn denu nifer fawr o geisiadau o’r tu allan i’r dalgylch. Ym mis Medi 2019, dim ond 151 (63%) o’r 240 o ddisgyblion y dyrannwyd lle iddynt oedd yn byw yn y dalgylch. O’r 1,539 o ddisgyblion sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd yn Ysgol Gyfun y Bont-faen, dim ond 960 (62%) sy’n byw yn y dalgylch. Mae hyn yn golygu bod 579 (38%) o’r disgyblion sydd ar y gofrestr yn byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol ar hyn o bryd. Felly, byddai’r cynnig hwn yn arwain at gyflenwad a galw mwy effeithlon lle mae lleoedd uwchradd yn nalgylch Ysgol Gyfun y Bont-faen yn y cwestiwn. 
  • Pa opsiynau sydd ar gael i rieni ac arnynt eisiau addysg Gymraeg?
    Mae nifer o ysgolion cynradd Cymraeg sy’n gwasanaethu’r Fro Orllewinol, gan gynnwys Ysgol Iolo Morgannwg ac Ysgol Dewi Sant. Mae darpariaeth gynradd Gymraeg yn ddigon i ateb y galw a ragwelir am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal hon dros y 5 mlynedd nesaf. Ar 4 Tachwedd 2019 fe gymeradwyodd Cabinet y Cyngor ddull graddol o ehangu darpariaeth gynradd yn y Bont-faen gyda chapasiti cyfrwng Saesneg yn cael sylw fel rhan o gam un a chapasiti cyfrwng Cymraeg yn cael sylw fel rhan o gam dau. I sicrhau parhad ar draws cyfnodau allweddol, cynigir y byddai addysg cyfrwng Saesneg yn cael ei hehangu ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen tra byddai addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei hehangu gan ddefnyddio’r safle 2 hectar ar Fferm y Darren. 
  • Pwy fyddai’n rheoli’r broses o adeiladu’r adeilad ysgol newydd? 

    Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am reoli’r broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi gan ddefnyddio fframwaith SEWSCAP. Fframwaith adeiladu yw SEWSCAP a ddefnyddir gan 16 o awdurdodau lleol ac sy’n darparu Contractwyr sydd wedi cyn-gymhwyso ac sydd â phrofiad addas i gyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac adeiladau cyhoeddus eraill, sy’n gysylltiedig â phrosiectau i godi adeiladau newydd ac adnewyddu adeiladau presennol y mae eu gwerth yn fwy nag £1.5 miliwn. Byddai asesiad trafnidiaeth llawn yn cael ei gynnal fel rhan o’r broses ddylunio. Byddai unrhyw oblygiadau a gâi eu hadnabod yn cael eu hystyried yn nyluniad yr adeilad newydd. Byddai’r contractwr yn cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer yr adeilad newydd.  

    Y bwriad yw y byddai gwaith i adeiladu’r ysgol newydd yn dechrau erbyn mis Ionawr 2021 ac yn cael ei gwblhau erbyn mis Medi 2022. Byddai staff a disgyblion yn trosglwyddo erbyn mis Medi 2022.

    Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. Gellir anfon unrhyw adborth neu feddyliau at Dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk

     

 

 

Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg

 

21stC Schools - Oakfield
(Ysgol Gynradd Oak Field, 2015)

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Primary Building Indoor
(Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, 2014)

21stC Schools - Dewi Sant (hall2)
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)
21stC Schools - Dewi Sant
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)

 

Am ragor o wybodaeth am rai o Ysgolion yr 21ain Ganrif a adeiladwyd hyd yma ym Mro Morgannwg:

 

Manylion cyswllt