Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Newid i'r trefniant derbyn ar gyfer y meini prawf gordanysgrifio wrth bontio o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori ag ymgyngoreion penodol ar ei drefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2027/2028 yn unol â gofynion Cod Derbyn i Ysgolion 2013.
Yr unig newidiadau o drefniadau'r llynedd yw estyniad arfaethedig i'r meini prawf gordanysgrifio uwchradd dros dro sy'n ymwneud â'r disgyblion hynny sydd ar y gofrestr mewn ysgol gynradd fwydo, sef maen prawf 4 y meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion uwchradd. Cynigir ymestyn y meini prawf dros dro am flwyddyn arall a fyddai'n dod i ben ar gyfer blwyddyn academaidd 2028/2029.
Mae'r testun wedi'i ddiwygio mewn perthynas â rheoliadau Llywodraeth Cymru 2024 sy'n gofyn am Gynllun Derbyniadau Cydlynol. Mae'r rhestr o ysgolion sy'n cymryd rhan wedi'i diwygio.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 5 January 2026 a 16 Chwefror 2026. Mae'r llythyr ymgynghori a'r polisi derbyn i ysgolion ar gael i'w lawrlwytho.
Gallwch ddweud eich dweud trwy e-bost neu’r post gan ddefnyddio'r manylion isod:
E-bost: smawhinney@valeofglamorgan.gov.uk
Mynediad a Threfniadaeth Ysgolion
Dysgu a Sgiliau
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU