Cost of Living Support Icon

Plant mewn Adloniant

Gallai plant sy'n ymwneud ag adloniant, megis: teledu, ffilm, theatr, modelu, sioeau dawns, pantomeim, dramâu amatur, grwpiau cerddoriaeth a chwaraeon â thâl (boed yn broffesiynol neu'n amatur) orfod cael trwydded perfformiad a hebryngwr trwyddedig i fod yn bresennol. 

 

Mae’r rheoliadau sy’n berthnasol i hyn yn rhan o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.


Diben y gofynion hyn yw sicrhau nad yw'r 'gwaith' yn niweidiol i les ac addysg y plentyn.  Ceir Trwyddedau Perfformiad Plant (TPPau) drwy'r Awdurdod Lleol y mae’r plentyn yn byw ynddo.

 

Pryd mae angen Trwydded Perfformiad Plant?

  • Mae angen TPP ar gyfer pob plentyn o'i eni hyd at ddiwedd ei addysg orfodol. Diffinnir hyn fel y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd y mae’n troi'n 16 oed.

  • Mae angen TPP pan godir tâl mewn cysylltiad â'r perfformiad. Mae hyn yn berthnasol p'un a yw'r perfformwyr yn cael eu talu ai peidio.

  • Mae angen TPP pan fydd y perfformiad yn digwydd mewn safle trwyddedig neu glwb cofrestredig.

  • Mae angen TPP pan gofnodir bod y perfformiad yn cael ei ddarlledu neu ei arddangos (er enghraifft ar y teledu, radio, ffilm, y rhyngrwyd ac ati)

 

Beth yw'r eithriadau? 


Mae rhai eithriadau sy'n golygu nad oes angen TPP. Nodir yr eithriadau yn adran 37(3) o Ddeddf 1963 a dim ond pan na wneir taliad mewn perthynas â'r plentyn sy'n cymryd rhan yn y perfformiad y gwneir unrhyw daliad i'r plentyn neu berson arall, ac eithrio treuliau.

 

Nid yw’r eithriadau hyn yn berthnasol i chwaraeon na modelu cyflogedig. 

 

Yr eithriadau yw:

  • Y rheol pedwar diwrnod

     

     

    Os nad yw plentyn wedi perfformio ar fwy na 3 diwrnod yn ystod y 6 mis diwethaf, ni fydd angen trwydded arno ar gyfer perfformiad ar bedwerydd diwrnod. Unwaith y bydd plentyn wedi perfformio ar 4 diwrnod mewn cyfnod o 6 mis (mewn unrhyw berfformiad, p'un a oedd trwydded ar waith ar unrhyw un o'r diwrnodau hynny neu a oedd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad a drefnwyd o dan gymeradwyaeth grŵp o bobl) yna mae angen trwydded ar gyfer unrhyw berfformiadau pellach (oni bai bod un o'r eithriadau eraill y cyfeirir atynt isod yn gymwys). 


    Os yw plentyn i fod yn absennol o'r ysgol ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn. Bydd angen trwydded. 

     

  • Cymeradwyaeth Grŵp o Bobl (BOPA) 

     

    Mewn rhai achosion, gall trefnydd perfformiad sy'n cynnwys plant wneud cais am Gymeradwyaeth Grŵp o Bobl (BOPA).  Mae BOPA yn cynnwys pob plentyn mewn un gymeradwyaeth, yn hytrach na gorfod cael trwyddedau unigol ar gyfer pob plentyn yn y perfformiad.  Yr Awdurdod Lleol sy'n penderfynu a ddylid cyhoeddi BOPA yn ôl disgresiwn.


    Gall unrhyw sefydliad wneud cais am BOPA, cyn belled na thelir unrhyw blentyn.  Bydd angen sicrwydd ar Gyngor Bro Morgannwg bod gan y corff sy'n gofyn am y BOPA bolisïau clir, cadarn sydd wedi'u gwreiddio'n dda ar gyfer diogelu plant. Dylid gwneud ceisiadau am BOPA i'r Awdurdod Lleol lle mae'r perfformiad yn digwydd. Gall yr Awdurdod Lleol roi'r gymeradwyaeth hyd yn oed os nad yw'r plant sy'n cymryd rhan yn byw o fewn ei ffiniau.  

     

    Os caiff ei roi, mae BOPA yn dileu'r angen i wneud cais am drwydded unigol ar gyfer pob plentyn. Fe'i rhoddir i'r sefydliad sy'n gyfrifol am y perfformiad.  Gall yr awdurdod sy’n ei gyflwyno osod amodau y mae'n teimlo bod eu hangen i sicrhau lles y plant dan sylw a gall ddirymu cymeradwyaeth os na chaiff y rhain eu bodloni.

     

    Os yw plentyn i fod yn absennol o'r ysgol ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn (BOPA). Bydd angen trwydded. 

     

  • Perfformiadau a drefnir gan ysgol

     

    Nid yw'n cynnwys ysgolion dawns na drama, y mae'n rhaid iddynt wneud cais am drwyddedau, lle bo angen.  

 

Ceisiadau a rheoliadau trwydded

 

Mae'n ofyniad cyfreithiol i geisio trwydded pan fo'n ofynnol, a gall unrhyw un sy'n achosi neu'n caffael unrhyw blentyn i wneud unrhyw beth yn groes i'r ddeddfwriaeth drwyddedu gael ei erlyn p'un a yw plentyn yn perfformio o dan drwydded ai peidio, mae'r un ddyletswydd gofal yn berthnasol. 

 

Dogfennau i wneud cais am drwydded neu eithriad: 

 

Rheoliadau a Dogfennau Canllaw:

 

Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

Gov.cymru: Gadw Perfformwyr Ifanc yn Ddiogel

 

  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mr. G.Horler, Swyddog Gweinyddol, yr Adran Gynhwysiant.

 

  • 07955435489