Cost of Living Support Icon

Hysbysiad Defnydd Achlysurol

Mae hysbysiadau defnydd achlysurol yn caniatáu i weithredwyr betio trwyddedig (gyda chaniatâd perthnasol gan y Comisiwn) ddefnyddio llwybrau am gyfnodau byr ar gyfer betio, pan fo’r digwyddiad y mae’r betiau’n cael eu derbyn ar ei gyfer yn un dros dro ac achlysurol. 

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU 

Ffurflenni Cais

Nid oes dim ffurflenni cais statudol.

Y Broses Ymgeisio

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am weinyddu ar y llwybr neu feddiannydd y llwybr gyflwyno’r hysbysiad. 

 

Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno ar yr awdurdod trwyddedu a hefyd i brif swyddog yr heddlu ar gyfer yr ardal y mae’r llwybr ynddi. 

 

Rhaid i’r hysbysiad nodi'r diwrnod y bydd ar waith. Gellir cyflwyno hysbysiadau mewn perthynas â diwrnodau olynol, cyhyd ag nad ydynt yn mynd dros y cyfyngiad o wyth diwrnod mewn blwyddyn calendr.

 

Nid oes rhaid cyflwyno cais cyn y digwyddiad erbyn amser penodol.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Dan Adran 39 Deddf Gamblo 2005 mae Hysbysiadau Defnydd Achlysurol yn caniatáu betio ar lwybr ar 8 diwrnod neu lai mewn blwyddyn calendr.

 

Gellir caniatáu betio trwy gael Hysbysiad Defnydd Achlysurol (HDA) heb fod angen cael trwydded safle betio llawn. Caiff Hysbysiadau o’r fath eu defnyddio pan fo’r digwyddiad y mae betiau'n cael eu derbyn ar ei gyfer yn un dros dro ac achlysurol.

 

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am weinyddu digwyddiadau ar y llwybr neu feddiannydd y llwybr gyflwyno’r hysbysiad.

 

Gellir defnyddio Hysbysiadau Defnydd Achlysurol am hyd at wyth diwrnod mewn unrhyw flwyddyn calendr (yn dechrau 1 Ionawr).

 

Nid oes rhaid cyflwyno cais cyn y digwyddiad erbyn amser penodol.

  

Ffioedd

Nid oes ffioedd sy’n gysylltiedig â’r cais hwn.

 

Rheoliadau a Chanllawiau

 

Gwefan y Comisiwn Hapchwarae