Cost of Living Support Icon

Cyflogi plant

Mae rheolau a rheoliadau llym ar gyflogi plant i’w hamddiffyn rhag niwed neu rhag cael eu hecsbloetio ac i sicrhau nad yw iechyd nac addysg y plentyn yn dioddef o ganlyniad i weithio.

 

Yr Awdurdod Lleol yw'r asiantaeth sy'n gyfrifol am oruchwylio plant sydd â swydd ran amser ac am erlyn unrhyw gyflogwr sy'n torri'r gyfraith.  Ym Mro Morgannwg, cyfrifoldeb y Tîm Cynhwysiant o fewn y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau yw hyn.

 

Cymhwysedd ar gyfer cyflogaeth

 

Rhaid i blentyn fod wedi cyrraedd ben-blwydd yn 13 oed cyn y gellir gwneud cais am drwydded gwaith.

 

Mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob plentyn (gan gynnwys plant y cyflogwr) sydd o dan oedran ysgol gorfodol.  (Diffinnir oedran ysgol gorfodol fel y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol y mae plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 16 oed).  

 

D.S. Nid yw cael Rhif Yswiriant Gwladol a Cherdyn Yswiriant Gwladol yn arwydd y gall plentyn gael swydd lawn amser a / neu adael yr ysgol.

Cyfrifoldebau’r Cyflogwr

Rhaid i bob plentyn oed ysgol sy’n gweithio'n rhan-amser i gyflogwr (am dâl neu’n wirfoddol) gofrestru â'r Awdurdod Lleol a meddu ar drwydded waith.   Cyfrifoldeb y cyflogwr yw gwneud cais am drwydded waith er mwyn cyflogi’r plentyn hwnnw.

 

Os ydych chi, fel cyflogwr, eisiau i blant weithio i chi yna mae'n rhaid i chi ystyried y rheolau a'r rheoliadau sy'n rheoli pa fath o waith y gall y plentyn ei wneud, sawl awr y gall y plentyn weithio a'r math o safle y bydd y plentyn yn gweithio ynddo. 

 

Rhaid i'r cyflogwr gwblhau Asesiad Risg Pobl Ifanc ar unrhyw beryglon sy'n gysylltiedig â chyflogaeth y plentyn a rhoi gwybod i'r rhiant / gwarcheidwad a'r Awdurdod Lleol am ganlyniad yr asesiad risg. Rhaid i'r cyflogwr hefyd sicrhau bod dillad ac esgidiau priodol yn cael eu gwisgo gan y plentyn a bod hyfforddiant, arweiniad a goruchwyliaeth briodol yn cael eu rhoi i'r plentyn. Rhaid i yswiriant y cyflogwr gynnwys cyflogi plant a rhaid cadw’r yswiriant yn gyfredol.

 

O fewn saith diwrnod i ddechrau cyflogaeth plentyn, rhaid i'r cyflogwr lenwi ffurflen gais am Drwydded Cyflogaeth Plant y mae'n rhaid i'r cyflogwr a rhiant / gwarcheidwad y plentyn ei llofnodi. Mae'r cais hwn yn cynnwys manylion y plentyn, oriau gwaith, man gwaith a'r math o waith sydd i'w wneud.

 

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn nodi faint y mae'n rhaid talu plentyn oedran ysgol - pennir hyn mewn trafodaethau rhwng y cyflogwr, y plentyn a'r rhiant / gwarcheidwad. Fodd bynnag, hyd yn oed os nad oes taliad o gwbl neu os yw taliad yn cael ei wneud mewn da yn gyfnewid am y gwaith (e.e. gwersi marchogaeth am ddim neu ginio neu nwyddau am ddim) mae'r plentyn yn dal i gael ei ystyried yn gyflogedig ac felly mae angen trwydded.

 

Cynghorir unrhyw gyflogwr sy'n ystyried cyflogi plentyn ac nad yw wedi gwneud hynny o'r blaen i gysylltu â'r Tîm Cynhwysiant am gyngor.

 

Dylai cyflogwyr nodi'r canlynol:

  • Mae'n anghyfreithlon cyflogi plentyn o dan 13 oed.

  • Mae'n anghyfreithlon cyflogi plentyn heb gael Trwydded Gyflogaeth Plant.

  • Dim ond mewn mathau penodol o waith y gellir cyflogi plant (gweler y rhestr ar y tudalennau canlynol).

  • Ni all unrhyw blentyn weithio ar unrhyw adeg rhwng 7pm a 7am (o ddydd Llun i ddydd Sadwrn).

 

  • Amser y gellir rhoi trwydded i blant 13 ac 14 oed weithio:

     

    Yn ystod y tymor, uchafswm yr oriau a ganiateir yw 12 awr yr wythnos.

     


    Hours
    UCHAFSWM ORIAUCYFYNGIADAU

    Dydd Llun i ddydd Gwener

    (2 awr)

    1 awr cyn ysgol (ar ôl 7am)

     

    1 awr ar ôl ysgol (cyn 7pm)

     

     

    NEU

     

    2 awr ar ôl ysgol (cyn 7pm)

     

    Dyddiau Sadwrn

    (5 awr)

    Rhwng 7am a 7pm

    Dyddiau Sul

    (2 awr)

    Rhwng 7am a 7pm

     

    Yn ystod gwyliau'r ysgol, yr uchafswm oriau a ganiateir yw 25 awr yr wythnos.

     

    Hours per week
    DIWRNOD UCHAFSWM ORIAUCYFYNGIADAU

    Dydd Llun i ddydd Gwener

    5 awr

    Rhwng 7am a 7pm

    Dyddiau Sadwrn

    5 awr

    Rhwng 7am a 7pm

    Dyddiau Sul

    2 awr

    Rhwng 7am a 7pm

     

    Rhaid i blant gael egwyl 1 awr o hyd ar ôl 4 awr o waith di-dor.

     

    Rhaid i blant gael o leiaf 2 wythnos o wyliau olynol y flwyddyn

     

     

  • Amser y gellir rhoi trwydded i blant 15 ac 16 oed weithio:

    Yn ystod y tymor, uchafswm yr oriau a ganiateir yw 12 awr yr wythnos

     

    Term time hours
    DIWRNODUCHAFSWM ORIAUCYFYNGIADAU

    Dydd Llun i ddydd Gwener

    2 awr

    1 awr cyn ysgol (ar ôl 7am)

     

    1 awr ar ôl ysgol (cyn 7pm)

     

     

    NEU

     

    2 awr ar ôl ysgol (cyn 7pm)

     

     

     

    Dyddiau Sadwrn

    8 awr

    Rhwng 7am a 7pm

    Dyddiau Sul

    2 awr

    Rhwng 7am a 7pm

     

    Yn ystod gwyliau'r ysgol, yr uchafswm oriau a ganiateir yw 35 awr yr wythnos

     

    School holiday hours
    DIWRNODUCHAFSWM ORIAUCYFYNGIADAU

    Dydd Llun i ddydd Gwener

    8 awr

    Rhwng 7am a 7pm

    Dyddiau Sadwrn

    8 awr

    Rhwng 7am a 7pm

    Dyddiau Sul

    2 awr

    Rhwng 7am a 7pm

     

    Rhaid i blant gael egwyl 1 awr o hyd ar ôl 4 awr o waith di-dor.

     

    Rhaid i blant gael o leiaf 2 wythnos o wyliau olynol y flwyddyn.

     

     

     

  • Plant 15 oed ym Mlwyddyn 11 sy'n gadael yr ysgol

     

    • Mae plant sy'n 15 oed ym Mlwyddyn 11 OND fydd yn cael eu pen-blwydd yn 16 oed ar neu cyn 1 Medi 1(h.y. yn ystod gwyliau haf yr ysgol) yn peidio â bod o Oedran Ysgol Statudol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin a gall ymuno â'r gweithlu'n llawn amser ar ôl iddynt beidio â bod o Oedran Ysgol Statudol er eu bod yn dal yn 15 oed ac na fyddant yn 16 oed am hyd at ddau fis (h.y. yn ystod mis Gorffennaf neu fis Awst).

    • Er y gall plentyn 15 oed gyflwyno rhif Yswiriant Gwladol, bydd dal angen Trwydded Cyflogaeth Plant arnynt i weithio tan nad ydynt bellach o Oedran Ysgol Statudol.

  • Pobl ifanc 16 oed

     
    • Mae plant o Oedran Ysgol Statudol ac angen Trwydded Cyflogaeth Plant nes eu bod yn 16 oed AC wedi peidio â bod o Oedran Ysgol Statudol (Gweler pwynt 3 isod).

    • Er y gall plant 16 oed gyflwyno rhif Yswiriant Gwladol, bydd dal angen Trwydded Cyflogaeth Plant arnynt i weithio tan nad ydynt bellach o Oedran Ysgol Statudol. (Gweler pwynt 3 isod). 

    • Mae plant 16 oed ym Mlwyddyn 11 yn peidio â bod o Oedran Ysgol Statudol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn Nhymor yr Haf.

    • Tan hynny, dim ond uchafswm o 12 awr yr wythnos y gallant weithio yn ystod y tymor.

    • Ystyrir bod plant sy'n 16 oed ac ar absenoldeb astudio o'u hysgol yn nhymor yr Haf yn arwain at eu harholiadau yn dal i fod yn yr ysgol felly dim ond 12 awr yr wythnos y gallant weithio tan ar ôl  30 Mehefin.

    • Ystyrir bod plant sy'n 15 oed ac ar absenoldeb astudio o'u hysgol yn nhymor yr Haf yn arwain at eu harholiadau yn dal i fod yn yr ysgol felly dim ond 12 awr yr wythnos y gallant weithio tan ddyn nhw beidio â bod o Oedran Ysgol Statudol ar 30 Mehefin.

     

    Dim ond rhai o'r rheolau a'r rheoliadau cyflogaeth plant ynglŷn a chyflogi plant yw’r uchod, ac rydych chi, fel cyflogwr, yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'r Ddeddfwriaeth Cyflogaeth Plant a bod unrhyw blentyn rydych yn ei gyflogi yn cael ei gyflogi'n gyfreithlon.

     

 

Cyflogaeth Waharddedig i Blant

Ni ellir cyflogi unrhyw blant o unrhyw oed: 

  • mewn sinema, theatr, disco, neuadd ddawnsio neu glwb nos, oni bai bod hynny'n digwydd mewn perthynas â pherfformiad sy'n cael ei berfformio gan blant yn unig.

  • i werthu neu gludo alcohol, oni bai eu bod mewn cynwysyddion wedi eu selio. 

  • i ddosbarthu tanwyddau olew

  • mewn cegin fasnachol

  • i gasglu neu ddidoli gwastraff

  • i wneud unrhyw waith amaethyddol sy'n cynnwys straen trwm

  • mewn unrhyw waith sy'n fwy na thri medr uwchben lefel y ddaear / llawr.

  • mewn gwaith sy’n eu rhoi mewn sefyllfa lle maen nhw’n agored i asiantau ffisegol, biolegol neu gemegol 

  • i gasglu arian neu ganfasio o ddrws i ddrws.

  • i werthu dros y ffôn

  • mewn unrhyw ladd-dy neu yn y rhan honno o siop cigydd neu unrhyw eiddo sy'n ymwneud â lladd byw da, bwtsiera, neu baratoi cyrff neu gig i'w werthu;

  • fel gweithiwr neu gynorthwy-ydd mewn ffair neu arcêd adloniant neu mewn unrhyw eiddo arall a ddefnyddir at ddibenion adloniant cyhoeddus drwy beiriannau awtomataidd, meysydd tanio, gemau lwc neu sgil neu ddyfeisiau tebyg;

  • mewn gwaith gofal personol preswylwyr unrhyw gartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio. 

  • mewn unrhyw swydd sy'n cynnwys cemegion, prosesau, peiriannau neu offer peryglus.

  • mewn unrhyw swydd sy'n cynnwys codi / symud llwythi sy'n debygol o achosi anaf i'r plentyn.

  • gyda pheiriannau glanhau neu beiriannau gweithredu.

  • mewn unrhyw fusnes sy'n ymwneud â chlwb betio / gamblo.

  • mewn gwaith ar unrhyw gae neu drac rasio lle mae unrhyw gampau yn cael eu chwarae.

  • gweithio mewn ystafelloedd biliards / clybiau preifat.

  • paratoi cig neu bysgod i'w gwerthu.

 

Nid yw hyn yn atal plant rhag cymryd rhan mewn perfformiad o dan ddarpariaethau trwydded a roddir yn unol â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Cyflogaeth a Ganiateir

 

  • Gwaith a ganiateir i blant 13 oed

     

    Ym Mro Morgannwg, dim ond i ddosbarthu papurau newydd, cylchgronau a deunydd printiedig arall y gellir cyflogi plant 13 oed.

     

  • Gwaith a ganiateir i blant 14 oed a hŷn

     

    Dim ond mewn gwaith ysgafn yn y categorïau canlynol y gellir cyflogi plentyn 14 oed: 

     

    • gwaith amaethyddol neu arddwriaethol nad yw'n cynnwys gwaith codi trwm / peiriannau peryglus.

    • dosbarthu papurau newydd, cyfnodolion a deunyddiau print eraill 

    • gwaith siop, gan gynnwys llenwi silffoedd ar lefel isel 

       

    • salonau trin gwallt (ond heb ddefnyddio cemegau)

    • gwaith swyddfa 

       

    • golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl preifat 

    • mewn Caffi neu fwyty*

    • mewn stablau marchogaeth 

    • gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill sy’n cynnig llety

     

    Fodd bynnag, mae'r gwaharddiadau a restrir yn yr adran 'Cyflogaeth Waharddedig i Blant' yn dal ar waith o fewn y cyflogaethau hyn 'a ganiateir'.

     

    *Mae gwaith mewn caffis, bwytai a thafarndai yn arbennig o gymhleth felly gofynnwch am gyngor gan yr Adran Gynhwysiant drwy ciee@thevaleofglamorgan.gov.uk cyn cynnig swydd i blentyn, er mwyn osgoi siom.

     

     

Gwneud cais am Drwydded Gwaith Plentyn

 

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mr. G.Horler, Swyddog Gweinyddol, yr Adran Gynhwysiant.

  • 07955435489