Cost of Living Support Icon

Gwerthwyr Metel Sgrap

Mae person yn rhedeg busnes fel gwerthwr metel sgrap os yw’r person -
(a) yn rhedeg busnes sy’n golygu, yn llwyr neu yn rhannol, gwerthu neu brynu metel sgrap boed y metel yn cael ei werthu yn y ffurf y’i prynwyd ai peidio, neu
(b) rhedeg busnes fel gweithredwr adfer moduron (cyn belled â nad yw hynny’n syrthio o fewn paragraff (a)).

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

Gellir gwneud cais am drwydded safle neu gasglwr gan unigolyn, cwmni neu bartneriaeth a rhaid ei gyflwyno ar ffurflen gais bwrpasol y cyngor. 
 
Casglwr Metel Sgrap
I wneud cais bydd angen i chi gyflwyno:

  • Ffurflen gais berthnasol wedi ei chwblhau
  • Ffi berthnasol
  • Datgeliad elfennol nad yw’n fwy na 3 mis oed
  • Trwydded Amgylcheddol berthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru
  • 2 lun pasbort
  • Prawf ffotograffig (e.e. pasbort, trwydded yrru)
  • Prawf o'ch enw a’ch cyfeiriad cartref nad sy’n fwy na 3 mis oed (e.e. bil trydan/nwy/dŵr)

 

Rhaid i’r dogfennau adnabod a’r datgeliad uchod gael eu cyflwyno ar gyfer pob person sydd wedi ei enwi ar y ffurflen gais e.e. partneriaid, cyfarwyddwyr, ysgrifenyddion cwmnïau. 
 
Unwaith i’r holl ddogfennau angenrheidiol gael eu dewis bydd ymgynghoriad 14 diwrnod yn cychwyn gyda’r Heddlu, Cynllunio a Safonau Masnach, a hynny ar y diwrnod wedi i’r Awdurdod Trwyddedu eu derbyn.
 
Nodwch os dyfernir trwydded Casglwr i chi, bydd hyn eich galluog i gasglu Metel Sgrap (gan gynnwys cerbydau modur) o fewn ardal Bro Morgannwg.
 
Os dymunwch gasglu mewn unrhyw Awdurdod Lleol arall bydd gofyn i chi gael trwydded ar wahân ar gyfer pob ardal. Bydd pob trwydded gaiff ei chaniatáu yn ddilys am dair blynedd.
  
Safle Metel Sgrap
I wneud cais rhaid cyflwyno’r canlynol:

  • Ffurflen gais berthnasol wedi ei chwblhau
  • Ffi berthnasol
  • Trwydded Amgylcheddol berthnasol – bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu helpu)
  • Datgeliad elfennol nad yw’n fwy na 3 mis oed ar gyfer pob person sydd wedi ei enwi ar y cais (e.e. cyfarwyddwyr, ysgrifennydd, rheolwr safle)
  • Prawf ffotograffig (e.e. pasbort, trwydded yrru) ar gyfer pob person wedi ei enwi ar y cais (e.e. cyfarwyddwyr, ysgrifennydd, rheolwr safle)

Unwaith i’r holl ddogfennau angenrheidiol gael eu dewis bydd ymgynghoriad 14 diwrnod yn cychwyn gyda’r Heddlu, Cynllunio a Safonau Masnach, a hynny ar y diwrnod wedi i’r Awdurdod Trwyddedu eu derbyn. Ar ôl cwblhau’r prosesu bydd Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi manylion unigolion sydd â thystysgrif cofrestru sy’n ddilys am dair blynedd.

 

Newid cofrestriad sy’n bodoli eisoes
Rhaid hysbysu’r Cyngor o fewn 28 diwrnod o unrhyw newid i berson cofrestredig neu fanylion busnes, neu os yw’r busnes yn peidio gweithredu.

 

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno rhedeg busnes fel gwerthwr metel sgrap gael trwydded.
 
Mae metel sgrap yn cynnwys:

  • Unrhyw hen fetel gwastraff neu fetel a waredwyd neu ddeunydd metelaidd
  • Unrhyw nwydd, gwrthrych neu greadigaeth a wnaed o neu sy’n cynnwys metel ac sydd wedi torri, wedi treulio neu yr ystyrir iddo gyrraedd terfyn ei fywyd defnyddiol gan ei ddeiliad diwethaf.
  • Nid yw’n cynnwys:
  • Aur, arian neu unrhyw aloi y mae mwy na 2% ohono yn ôl ei bwysau yn aur neu arian.

 

Trwydded Safle – o’r man hwn neu o fwy o safleoedd yn ardal yr awdurdod lleol y caiff y busnes metel sgrap ei redeg. Mae’r drwydded yn caniatáu i’r deiliad brynu a gwerthu metel sgrap a’i gludo i’r safleoedd hynny ac oddi yno o unrhyw ardal awdurdod lleol.
 
Trwydded Casglwr - dyma'r lle mae’r gweithredwr metel sgrap yn casglu metel sgrap yn ardal yr awdurdod lleol.  Rhaid cael trwydded ar wahân gan bob cyngor y mae’r casglwr yn gobeithio gweithredu ynddi.
Caniateir i werthwr metel sgrap ddal un math o drwydded yn unig mewn unrhyw un ardal awdurdod lleol.


Ni ddylai gwerthwr metel sgrap dderbyn metel sgrap gan unrhyw berson heb wirio enw a chyfeiriad llawn y person hwnnw ac ni ddylai dalu ag arian parod am unrhyw fetel sgrap y mae’n ei brynu. Rhaid i’r gwerthwr metel sgrap gadw copïau o unrhyw ddogfennau a ddefnyddiwyd i wirio pwy yw’r gwerthwr. 
 
Mae gofyn i’r gwerthwr gofnodi gwybodaeth benodol yn ymwneud â’r gwerthiant neu bryniant unrhyw fetel sgrap.

 

Amodau

Mae gan Ddeddf Gwerthwyr Metel Sgrap 2013 nifer o ofynion ar gyfer trwydded ddeiliad boed hynny ar gyfer Trwydded Safle neu Drwydded Casglwr y mae angen glynu wrthynt. Mae’r isod yn amlinellu nifer o’r rhain gan gynnwys gwybodaeth sydd angen ei gadw a dogfennau sydd angen eu dangos.

Rhaid i ddeiliaid trwydded sicrhau hefyd NAD YDYNT yn defnyddio uchelseinydd wrth chwilio am fusnes.

 

Ffioedd

Trwydded Safle

Rhoi Trwydded - £398.00
Adnewyddu - £398.00
Amrywio - £198.00
Copi o Drwydded - £16.50

 

Trwydded Casglwr

Rhoi Trwydded- £198.00
Adnewyddu - £178.00
Amrywio - £198.00
Copi o Drwydded - £16.50

 

Nid yw unrhyw gostau sydd ynghlwm â’r Datgeliad, trwydded Cyfoeth Naturiol Cymru na ffotograffau wedi eu cynnwys yn ffioedd Bro Morgannwg.
 
Dim ond deiliaid trwydded presennol all wneud cais i gael copi o’u trwydded gyfredol os yw wedi ei golli ei ddwyn neu ei ddifrodi.

 

Gwybodaeth Ategol

  •  Gwirio Cwsmer

    Ni ddylai gwerthwr metel sgrap dderbyn metel sgrap gan berson heb wirio enw a chyfeiriad llawn y
    person hwnnw.
     
    Er mwyn gwirio enw a chyfeiriad person, bydd hi’n ddigonol i’r gwerthwr metel sgrap gyfeirio un ai at-
    (a) dogfen a nodwyd ym mharagraff (2) sydd ag enw llawn y person, ffotograff a chyfeiriad preswyl; neu 
    (b) dau o’r canlynol-
    (i) dogfen wedi ei rhestru ym mharagraff (2) sydd ag enw llawn y person, ffotograff a dyddiad 
    geni, a 
    (ii) dogfen ategol wedi ei rhestru ym mharagraff (3) sydd ag enw llawn y person a chyfeiriad 
    preswyl llawn 
     
    (2) mae’r dogfennau perthnasol at ddibenion rheoleiddiol 2(1)(a) neu (b)(i) fel a ganlyn:
    (a) pasbort dilys y DU, o fewn ystyr isadran 33(1) y Ddeddf Mewnfudo 1971(b); neu 
    (b) pasbort dilys gyhoeddwyd gan wlad o’r AEE; neu
    (c) trwydded yrru ffotograffig Prydeinig neu Ogledd Iwerddon; neu
    (d) dogfen fewnfudo fiometreg ddilys, a gyhoeddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed dan isadran 5 Deddf Ffiniau'r DU 2007 (a).
     
    (3) Y dogfennau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliadau 2(1)(b)(ii) yw-
    (a) datganiad banc neu gymdeithas adeiladu;
    (b) datganiad cerdyn credyd neu ddebyd;
    (c) datganiad neu lythyr hawlio treth cyngor; neu
    (d) bil trydan, nwy neu ddŵr ond nid ffôn symudol
    gyhyd â bod y dyddiad y cyhoeddwyd y ddogfen dan sylw ddim mwy na thri mis cyn y dyddiad pan dderbynnir y metel sgrap gan y gwerthwr metel sgrap.

  •  Cofnodion: gwaredu metel

    (1) Mae’r adran hon yn berthnasol os yw gwerthwr metel sgrap yn gwaredu unrhyw fetel sgrap yng nghwrs busnes y gwerthwr.
     
    (2) At ddibenion y metel a waredwyd-
    (a) boed e yn yr un ffurf ag y’i derbyniwyd ai peidio;
    (b) boed y gwaredu i berson arall ai peidio;
    (c) boed y metel wedi ei waredu o safle ai peidio.
     
    (3) Lle bo’r gwaredu yng nghwrs busnes dan drwydded casglwr, rhaid i’r gwerthwr gofnodi’r wybodaeth ganlynol-
    (a) dyddiad ac amser y gwaredu;
    (b) os yw’r gwaredu i berson arall, enw a chyfeiriad llawn y person.

  •  Cofnodion; derbyn metel

    (1) Mae’r adran hon yn berthnasol os yw gwerthwr metel sgrap yn derbyn unrhyw fetel sgrap yng nghwrs busnes y gwerthwr.
     
    (2) Rhaid i’r gwerthwr gofnodi’r wybodaeth ganlynol-
    (a) disgrifiad o’r metel, gan gynnwys ei fath (neu fathau os yn gymysg), ffurf, cyflwr, pwysau ac unrhyw farciau sy’n cyfeirio at y perchennog blaenorol neu unrhyw nodweddion eraill;
    (b) dyddiad ac amser ei dderbyn;
    (c) os caiff y metel ei gludo mewn neu ar gerbyd, rhif cofrestru’r cerbyd  ( yn ôl yr ystyr sydd yn adran 23 Deddf Trethi a Thrwyddedu Cerbydau 1994);
    (d) os derbynnir metel gan berson, enw a chyfeiriad llawn y person;
    (e) os yw’r gwerthwr yn talu am y metel, enw llawn y person sy’n gwneud y taliad ar ran y gwerthwr.
     
    (3) Os yw’r gwerthwr yn derbyn y metel gan berson, rhaid i’r gwerthwr gadw copi o unrhyw ddogfen y mae’r gwerthwr yn ei defnyddio i wirio enw neu gyfeiriad y person hwnnw.
     
    (4) Os yw’r gwerthwr yn  talu am y metel drwy siec, rhaid i’r gwerthwr gadw copi o’r siec.
     
    (5) Os yw’r gwerthwr yn talu am y metel trwy drosglwyddiad electronig -
    (a) rhaid i’r gwerthwr gadw’r dderbynneb sy’n nodi’r trosglwyddiad, neu
    (b) os derbynnir derbynneb yn nodi’r trosglwyddiad, rhaid i’r gwerthwr nodi’r manylion sy’n nodi’r trosglwyddiad.

  •  Cofnodion: atodol

    (1)Rhaid i’r wybodaeth a grybwyllwyd uchod gael ei gofnodi mewn modd sy’n caniatáu i’r wybodaeth a’r metel sgrap y mae’n cyfeirio ato i fod wedi ei gadw fel bod y naill yn cyfeirio at y llall. 
     
    (2)Rhaid i’r gwerthwr gadw’r wybodaeth a'r cofnodion eraill a grybwyllwyd uchod am gyfnod o 3 blynedd gan ddechrau ar y diwrnod pan dderbyniwyd y metel neu y‘i waredwyd (pa un bynnag y bo).

  •  Taliad am Fetel Sgrap

    Ni ddylai gwerthwr metel sgrap beidio talu am fetel sgrap ac eithrio trwy siec nad oes modd ei drosglwyddo neu trwy drosglwyddo arian yn electronig. Mae taliad yn cynnwys talu â nwyddau neu wasanaethau.

 

 

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

 

Bydd unrhyw berson sy’n anfodlon ar beidio â chael trwydded yn gallu apelio i’r Llys Ynadon all roi cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei amodau fel y cred sy’n briodol.  Bydd unrhyw berson sy’n anfodlon ag amodau a roddwyd ar drwydded yn gallu apelio i’r Llys Ynadon a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei amodau fel y cred sy’n briodol.

 

 

Rheoliadau a Chanllawiau

Rheoliadau

 

Cofrestr Gyhoeddus