Cost of Living Support Icon

Ffi Flynyddol Trwydded Safle 

Os ydych yn meddu ar Drwydded Safle, bydd gofyn i chi dalu ffi cynnal a chadw flynyddol i’r cyngor.  Mae hwn yn ofyniad a osodir gan Ddeddf Trwyddedu 2003.  

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Ardal: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Mae’r ffi yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd y dyddiad y rhoddwyd y grant yn y lle cyntaf.

 

Mae’n seiliedig ar werth ardrethol y safle.  Gosodir y ffioedd gan y Llywodraeth ac nid gan Gyngor Bro Morgannwg.  Y deiliad trwydded sy’n gyfrifol am dalu’r ffioedd ac nid oes rhaid i gynghorau gyflwyno llythyrau atgoffa neu gynhyrchu anfonebau.

 

Mae’r ffi yn daladwy does ots os yw deiliad y drwydded gyfredol yn bwriadu cau'r busnes ar ryw bwynt yn ystod y flwyddyn nesaf.  Hyd yn oed os daethoch yn ddeilliad ar y drwydded yn ddiweddar, bydd dal gofyn i chi dalu'r ffi hon.

 

Nid oes gan gynghorau unrhyw ddisgresiwn dan y Ddeddf i ddileu neu leihau’r ffi.

 

Mae Deddf 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod trwyddedu atal trwydded safle os na chaiff y ffi flynyddol ei thalu pan fo'n ddyledus.

 

Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol yn syth bin os na wnaed y taliad cyn neu ar adeg y dyddiad y mae’n ddyledus oherwydd gwall gweinyddol, neu oherwydd bod y deiliad wedi dadlau atebolrwydd am y ffi cyn neu ar adeg y dyddiad y mae’n ddyledus.  Yn unrhyw un o’r achosion hyn, mae cyfnod gras o 21 diwrnod.  Mae’r cyfnod hwn i fod i ganiatáu i’r awdurdod trwyddedu a deiliad y drwydded neu dystysgrif gael cyfle i ddatrys y ddadl neu’r gwall.  Os na chaiff y ddadl neu’r gwall ei ddatrys yn ystod y cyfnod 21 diwrnod hwn – caiff y drwydded ei hatal. 

 

Ffioedd 

 

premises fees

Gwerth ardrethol (£) 

Band

Ffi (£)

Hyd at 4,300

A

70

4,301 - 33,000

B

180

33,001 - 87,000

C

295

87,001 - 125,000

D

320

125,001 ac uwch

E

350

I dalu eich ffi flynyddol rhaid i chi roi eich rhif trwydded safle.  Mae hwn i’w gael: 

  • Ar eich trwydded safle 
  • Ar y llythyr atgoffa ffi blynyddol 
  • Gan yr adran drwyddedu ar 01446 709105
  • Drwy edrych ar y gofrestr gyhoeddus

 

Gellir gwneud taliadau dros y ffôn 8.00am - 6.00pm yn ystod yr wythnos: 

  • 01446 709105

 

Talu Ar-lein   Opsiynau Talu Eraill