Cost of Living Support Icon

Anifeiliaid Perfformio 

Os ydych yn arddangos, defnyddio neu hyfforddi anifeiliaid, rhaid i chi gael eich cofrestru gyda'ch awdurdod lleol.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Ardal: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

Rhaid i bob person sydd am ddefnyddio anifeiliaid i berfformio wneud cais am dystysgrif cofrestru yn y lle cyntaf.

 

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno’r ffurflen gais berthnasol a’r ffi berthnasol.

 

Gofynnir am unrhyw wybodaeth y mae ei hangen i symud eich cais yn ei flaen ar y ffurflen gais berthnasol gan gynnwys trefniadau gwresogi, manylion am yr anifail, manylion am sut bydd yr anifail yn perfformio ac am ba mor hir. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar ganfyddiadau'r archwiliad gan swyddogion y Cyngor neu berson awdurdodedig arall megis milfeddyg, efallai y gofynnir am wybodaeth neu eglurhad pellach cyn cymeradwyo tystysgrif cofrestru.

 

Cyn cymeradwyo tystysgrif cofrestru, bydd swyddog o’r tîm Iechyd a Diogelwch yn trefnu archwiliad i gadarnhau bod y safonau gofynnol yn cael eu cyflawni.

 

Er lles diogelwch y cyhoedd, ystyrir ceisiadau penodol gan y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cydsyniad Dealledig

Ie. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel bod eich hysbysiad wedi cael ei roi os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Y cyfnod amser targed yw 60 diwrnod calendr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Darperir ar gyfer lles anifeiliaid perfformio yn y darpariaethau cyffredinol i osgoi dioddef ac i sicrhau lles yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006. Yn ogystal, rheoleiddir hyfforddi ac arddangos anifeiliaid perfformio gan Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad) 1925 sy’n ei gwneud yn ofynnol i hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid o’r fath gael eu cofrestru gyda’r awdurdod lleol.

 

Dan y Ddeddf hon, mae gan yr heddlu, swyddogion awdurdodau lleol, a all gynnwys milfeddyg, rymoedd i fynd i mewn i safle lle bo anifeiliaid yn cael eu hyfforddi a’u harddangos, ac os gwelir creulondeb neu esgeulustod, gall llys yr ynadon wahardd neu gyfyngu hyfforddi neu arddangos yr anifeiliaid a gohirio neu ganslo’r cofrestriad wedi’i gymeradwyo dan y Ddeddf.

 

Rhaid i bob person sydd am ddefnyddio anifeiliaid i berfformio gofrestru yn y lle cyntaf i gael tystysgrif cofrestru, ac ni ddylai unrhyw berson gymryd rhan ym mherfformiad anifeiliaid heb wneud asesiad risg wedi'i wneud gan berson cymwys. Gellir cael cyngor cadarn gan y canlynol:

  • Hyfforddwyr anifeiliaid hyfforddedig
  • Milfeddygon 
  • sŵau
  • Adrannau prifysgol

Dyletswydd yr ymgeisydd yw sicrhau y rhoddir gwybod i gyflogeion os ydynt yn mynd i weithio gydag anifeiliaid rhag ofn ffobiâu neu alergeddau. 

 

Dylai gwybodaeth fod ar gael i bob person sy’n rhan o’r gwaith am agweddau megis bwydo, osgoi tarfu, beth i’w wneud mewn argyfwng a’r risgiau iechyd yn enwedig i fam sy'n disgwyl a achosir gan heintiau anifeiliaid.

 

Mae’n bwysig nad yw anifeiliaid yn perfformio am gyfnod rhy hir ac y caiff unrhyw offer sy'n cael ei ddefnyddio er enghraifft gwair neu wellt ei drin a'i ddiogelu rhag tân. Dylai cymorth cyntaf bob amser fod wrth law.

 

Amodau

Gellir cael copi o’r amodau trwydded ar gais.

 

 

Ffioedd

Ffi'r cais am Drwydded Anifeiliaid Perfformio £125.00

 

Troseddau a Dirwyon

Mae'r troseddau canlynol yn berthnasol i unrhyw berson:

  • sy'n arddangos neu hyfforddi anifeiliaid perfformio heb gael ei gofrestru
  • sy’n arddangos neu hyfforddi, ar ôl cael ei gofrestru, unrhyw anifail sydd heb ei gofrestru neu mewn modd nad yw wedi’i gofrestru
  • sy’n rhwystro neu oedi swyddog awdurdod lleol neu swyddog yr heddlu rhag cyflawni ei ddyletswyddau dan y Ddeddf o ran mynediad ac archwilio
  • sy’n cuddio unrhyw anifail gyda’r bwriad o osgoi archwiliad o’r fath neu
  • sy’n methu â chyflwyno tystysgrif gofrestru pan ofynnir amdani
  • sy’n gwneud cais i gofrestru dan y Ddeddf hon pan fo wedi'i wahardd rhag cael ei gofrestru

Y gosb uchaf ar gyfer trosedd dan y Ddeddf yw dirwy o £1,000.

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni Ceisiadau a Fethodd

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw un sydd â chwyn oherwydd gwrthodiad i gael trwydded apelio i Lys yr Ynadon a all roi’r fath gyfarwyddiadau ynglŷn â’r drwydded neu ei hamodau ag y mae’n eu gweld yn briodol.

  •  Deiliaid Trwyddedau’n Unioni 

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon ar unrhyw amodau sy’n berthnasol i drwydded apelio i Lys yr Ynadon a fydd yn cyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

  •  Cwyn Cwsmer

    Mewn achosion o gwyno, hoffem argymell mai chi ddylai gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf danfoniad. 

     

    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi  

     

    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â'r UK European Consumer Centre.

 

 

Rheoliadau a Chanllawiau

Rheoliadau

 

Cofrestr Gyhoeddus

 

Canllawiau

 

DEFRA