Cost of Living Support Icon

Sefydliad Marchogaeth

Mae'n rhaid i stablau sy'n hurio ceffylau neu ferlod ar gyfer marchogaeth neu hyfforddiant gael trwydded yn unol â'r Deddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran:

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

Cynghorir ymgeiswyr i wneud cais o leiaf 10 wythnos cyn y dyddiad pryd y bwriadant weithredu neu cyn i’w trwydded ddod i ben.

 

Gofynnir i ddeiliaid trwyddedau sefydliadau marchogaeth nodi na ellir adnewyddu trwydded ar ôl iddi ddod i ben, ac felly ni ellir ôl-ddyddio trwydded lle mae'r Cyngor wedi methu â phenderfynu ar gais. Mae modd cymryd camau gorfodi yn erbyn deiliaid trwyddedau am weithredu am gyfnod heb drwydded, ac os nad oes ganddynt drwydded mewn grym dyma eu hatgoffa y gallai hynny effeithio ar eu polisi yswiriant.

 

I wneud cais am drwydded i Sefydliad Marchogaeth, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno ffurflen gais a'r ffi berthnasol.

 

Yn ogystal, rhaid i ddeiliad y drwydded / deiliad y drwydded arfaethedig ddangos polisi yswiriant cyfredol. Dylai'r polisi ddarparu yswiriant yn erbyn atebolrwydd am unrhyw anaf  i unigolion sy’n llogi ceffyl ar gyfer marchogaeth, neu anaf i rai sy'n talu am ddefnyddio ceffyl ar gyfer cyfarwyddyd ac sy’n digwydd yn sgil llogi neu ddefnyddio'r ceffyl. Dylai'r polisi hefyd yswirio’r unigolion hynny o ran unrhyw atebolrwydd a achosant mewn perthynas ag anaf i unrhyw un oherwydd, neu’n deillio o logi neu ddefnyddio ceffyl.

 

Rhaid cynnwys unrhyw dystysgrifau a fo gan y person sydd â rheolaeth uniongyrchol dros y sefydliad, fel y nodir hynny yn y cais.

 

Bydd Bro Morgannwg yn trefnu i filfeddyg/ymarferydd gydag awdurdod archwilio eich sefydliad a pharatoi adroddiad ysgrifenedig y bydd y Cyngor wedyn yn ei ddefnyddio i benderfynu ar eich cais.

 

Gall Cyngor Bro Morgannwg hefyd drefnu i un o swyddogion y Gwasanaeth Tân ac Achub archwilio'r eiddo.

 

Wrth benderfynu ar gais am Drwydded Sefydliad Marchogaeth, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried a yw:

  • Ymgeisydd yn addas ac yn gymwys naill ai o ran cymwysterau neu brofiad, neu a yw’r ymgeisydd yn cyflogi unigolyn cymwys o’r fath i reoli'r sefydliad
  • Ceffylau mewn cyflwr da ac yn cael eu cadw mewn iechyd a ffitrwydd da
  • Ceffylau a gedwir i bwrpas eu hurio i eraill eu marchogaeth neu a gedwir i bwrpas darparu hyfforddiant marchogaeth, yn addas ar gyfer y diben hwn
  • Traed y ceffylau yn cael eu trin yn briodol ac, os oes arnynt bedolau, a ydynt wedi eu gosod yn gywir ac mewn cyflwr da
  • Ac a oes llety addas ar gael bob amser, o ran y gwaith adeiladu, maint yr adeilad, a nifer y ceffylau, goleuo, awyru, glendid, a draenio
  • Ceffylau yn derbyn cyflenwad digonol o fwyd, diod a gwasarn ac yn cael eu hymarfer yn rheolaidd, eu gwastrodi, yn cael gorffwys ac yn cael eu gweld yn rheolaidd ac addas
  • Ceffylau sydd allan yn y caeau yn cael digon o borfa, cysgod a dŵr ac yn derbyn  porthiant atodol yn ôl y gofyn
  • Pob rhagofal rhesymol ar waith i atal / rheoli lledaeniad clefydau heintus neu gyffwrdd-ymledol
  • Offer cymorth cyntaf milfeddygol a meddyginiaeth ar gael ac yn cael eu cynnal ar y safle
  • Camau priodol yn mynd i gael eu cymryd i amddiffyn yr anifeiliaid pe digwyddai tân neu argyfwng arall
  • Lle digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer porthiant, gwasarn ac offer stabl a chyfrwyau
  • Ac a oes hysbysiad yn cael ei arddangos mewn man amlwg ar y tu allan i'r eiddo ac arno enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y drwydded neu berson rhesymol arall, ochr yn ochr â chyfarwyddiadau ynghylch camau a gymerir pe digwyddai tân ac o ran symud y ceffylau allan.

 

Caniatâd Dealledig

Na.  Er budd y cyhoedd y mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

 

Y cyfnod targed yw 44  diwrnod calendr.

 

Meini Prawf Cefndir a Chymhwyster

Gall unrhyw un wneud cais onid ydynt yn awr neu rywbryd yn y gorffennol wedi eu:

 

- Gwahardd rhag cadw sefydliad marchogaeth

- Gwahardd rhag cadw ci

- Gwahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes

- Gwahardd rhag gofalu am gi

- Gwahardd rhag cadw sefydliad preswyl ar gyfer cŵn

- Neu’n wynebu erlyniad dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006  

  

 

Ffioedd

Cais am Drwydded Sefydliad Marchogaeth: £320.00

 

Yn ogystal, rhaid i’r ymgeisydd dalu am yr archwiliad milfeddygol 

 

Gwybodaeth ategol

Mae trwydded yn ôl anghenion yr ymgeiswyr yn ymwneud â'r flwyddyn y rhoddir y drwydded ynddi neu â’r flwyddyn ganlynol nesaf;  yn yr achos cyntaf, bydd y drwydded yn dod i rym ar ddechrau'r diwrnod pryd y rhoddir hi; yn yr ail achos bydd yn dod i rym ar ddechrau'r flwyddyn ganlynol sy’n dilyn.

 

Bydd trwydded yn parhau mewn grym am flwyddyn, gan ddechrau ar y diwrnod y mae'n cael ei rhoi a bydd wedyn yn dod i ben. Bydd deiliaid trwydded yn derbyn nodyn atgoffa ysgrifenedig gan Gyngor Bro Morgannwg dri mis cyn y daw’r drwydded i ben.

 

Pan fo person sy'n cadw sefydliad marchogaeth mewn eiddo yn marw, bydd y drwydded yn cael ei hystyried fel un a roddwyd i’w gynrychiolwyr personol mewn perthynas â'r eiddo hwnnw a bydd yn parhau mewn grym tan ddiwedd y tri mis, gan ddechrau gyda’r farwolaeth a bydd wedyn yn dod i ben.

 

Gyda’r amod bod yr awdurdod lleol a roddodd y drwydded yn gallu, o bryd i'w gilydd ac mewn ymateb i gais y cynrychiolwyr hynny, ymestyn neu ymestyn ymhellach y cyfnod dywededig o 3 mis os yw'r awdurdod yn fodlon bod yr estyniad yn angenrheidiol i ddiben dirwyn i ben stad yr ymadawedig ac nad oes unrhyw amgylchiadau eraill yn ei gwneud yn annymunol 

 

Tramgwyddau a Chosbau

Bydd unrhyw berson a geir yn euog o rwystro neu ddal yn ôl yn fwriadol unrhyw berson sy’n defnyddio’i bwerau i gael mynediad neu archwilio yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy lefel 2 ar y raddfa safonol.

 

Bydd unrhyw berson a geir yn euog o'r canlynol yn euog o drosedd dan Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau:

  • pan fo ceffyl yn y fath gyflwr fel y byddai ei farchogaeth yn debygol o achosi dioddefaint i'r ceffyl, yn ei hurio neu’n ei ddefnyddio i ddiben darparu, am dâl, hyfforddiant marchogaeth neu ar gyfer arddangos marchogaeth
  • hurio ar gyfer marchogaeth neu ddefnyddiau i ddiben darparu, am dâl, hyfforddiant marchogaeth neu i ddibenion arddangos marchogaeth unrhyw geffyl sy’n dair oed neu’n iau neu unrhyw gaseg sy’n drwm gydag ebol neu unrhyw gaseg o fewn tri mis iddi fwrw ebol
  • yn darparu, i geffyl y mae’n ei hurio allan i ddibenion marchogaeth, offer sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod ac arno, adeg ei ddarparu, ddiffyg digon amlwg i’w weld o’i archwilio ac yn debygol o achosi dioddefaint i'r ceffyl neu ddamwain i'r marchog
  • yn methu â darparu gofal iachaol a all fod yn addas, os o gwbl, i geffyl sâl neu un a anafwyd ac a gedwir ganddo gyda golwg ar ei hurio allan neu ei ddefnyddio, am dâl, i ddarparu hyfforddiant marchogaeth neu ar gyfer arddangos marchogaeth
  • wrth gadw sefydliad marchogaeth yn caniatáu’n fwriadol i unrhyw berson, sydd am y tro wedi colli’r hawl dan Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 i gadw sefydliad marchogaeth, i ofalu am y sefydliad neu ei reoli
  • gyda'r bwriad o osgoi archwiliad, yn celu, neu'n achosi i gael ei gelu, unrhyw geffyl y gofelir amdano yn y sefydliad marchogaeth

 

Pan fo person wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd o dan y canlynol:

  • Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964
  • Deddf Diogelu Anifeiliaid 1991
  • Deddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • Deddf Lles Anifeiliaid 2006, Adrannau 4,5,6 (1), a (2), 7 i 9, a 11

gall y llys a’i collfarnodd ganslo unrhyw drwydded a ddelir ganddo dan Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a gall, pa un ai ef sy’n dal trwydded o’r fath ai peidio, ei wahardd rhag cadw sefydliad marchogaeth am gyfnod y tybio’r llys ei fod yn addas.

 

Gall swyddogion awdurdodedig y Cyngor a/neu filfeddygon/ymarferwyr awdurdodedig fynd i mewn  i archwilio eiddo sefydliadau marchogaeth ar unrhyw adeg resymol.

 

Cwynion ac Iawn arall

Iawn pan fo Cais yn Methu: Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan wrthodiad apelio i'r Llys Ynadon a gall hwnnw roi cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel y tybio’n briodol.

 

Iawn i Ddeiliad Trwydded: Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded apelio i'r Llys Ynadon a gall hwnnw roi cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel y tybio’n briodol.

 

Cwynion Defnyddwyr: Edrychwch ar ein gweithdrefn cwynion defnyddwyr.

 

Rheoliadau a Chanllawiau

 

Cofrestr gyhoeddus