Cost of Living Support Icon

Casgliad Stryd

Os ydych eisiau casglu arian neu werthu eitemau ar unrhyw stryd neu fan cyhoeddus, er budd dibenion elusennol neu i ddiben arall, yna rhaid i chi ddal trwydded casgliad stryd.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

I wneud cais am Drwydded Casgliad Stryd, rhaid i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais a'i dychwelyd i Dîm Trwyddedu’r Cyngor gydag unrhyw lenyddiaeth berthnasol. Er enghraifft, os nad yw'r ymgeisydd yn gweithio i'r elusen, bydd angen llythyr awdurdodi gan yr elusen wedi'i gyfeirio at yr ymgeisydd yn cytuno i’r casgliad gael ei wneud.

 

Rhaid i'r cais am drwydded gael ei wneud heb fod yn hwyrach na diwrnod cyntaf y mis cyn yr hwn lle caiff y casgliad ei wneud.

 

Mae'r Tîm Trwyddedu yn cynnal dyddiadur, a dylid cysylltu â hwy yn y lle cyntaf er mwyn gweld pa ddyddiadau sydd yn rhydd yn yr ardal yr ydych yn dymuno casglu ynddi.

 

Rydym yn cadw'r hawl i wneud ymholiadau manylach ynghylch eich cais mewn rhai amgylchiadau.

 

Ar ôl derbyn eich trwydded, mae'n bwysig i chi ystyried y canlynol:

  • eich bod wedi cadw a deall Rheoliadau Casgliad Stryd y Cyngor sy'n rheoli eich casgliad
  • bod gennych awdurdod ysgrifenedig ar gyfer eich casglwyr i gymryd rhan yn y casgliad
  • bod eich casglwyr dros 16 mlwydd oed
  • eich bod yn gwneud trefniadau ar gyfer dychwelyd y datganiad o incwm sy'n dangos manylion yr arian a godwyd wedi’i gydlofnodi gan gyfrifydd neu berson cyfrifol annibynnol arall

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais am Drwydded Casgliad Stryd ac mae'n debygol y byddai unrhyw doriad blaenorol o Reoliadau Casgliad Stryd y Cyngor yn arwain at gymryd camau o'r fath.

 

  • Ffurflenni

    O fewn un mis o ddyddiad y casgliad, rhaid i'r person y rhoddwyd y drwydded iddo anfon y ffurflenni canlynol at y Tîm Trwyddedu:

     - Cyfrif o'r arian a gasglwyd wedi ei ardystio gan y person hwnnw a naill ai gyfrifydd cymwys neu berson cyfrifol annibynnol sy'n dderbyniol i'r Cyngor

     - Rhestr o gasglwyr

     - Rhestr o'r symiau a gynhwyswyd ym mhob blwch casglu

     

    Bydd ffurflenni dychwelyd yn cael eu hanfon atoch pan roddir y drwydded i chi, ond os ydych angen rhagor o ffurflenni byddant yn cael eu cyflenwi ar gais neu gellir eu gweld o dan ffurflenni isod.

     

    Bydd methu â chyflwyno'r datganiad uchod yn drosedd a gall arwain at i unrhyw geisiadau yn y dyfodol gael eu gwrthod gan y Cyngor.

  • Hysbysiad

    Cysylltwch â ni petai amgylchiadau’n newid mewn perthynas â'ch trwydded. 

 

Caniatâd dealledig

Ie. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu’n union fel pe byddai eich trwydded wedi ei chaniatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Yr amser targed yw 28 diwrnod calendr.

 

Lle ceir sail a allai arwain at wrthod eich cais mae’n debygol y caiff y cyfnod hwn ei ymestyn i ganiatáu i’r Pwyllgor Trwyddedu benderfynu ar eich cais 

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwyster

Mae Trwydded Casgliad Stryd yn rhoi awdurdodiad i gasglu arian neu werthu eitemau at ddibenion elusennol. Os gwelwch yn dda byddwch yn ymwybodol os yr ydych eisiau darparu 'adloniant rheoledig' wrth wneud eich casgliad efallai y byddwch hefyd angen Trwydded Eiddo neu Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Stryd: Mae'r ymadrodd 'stryd' yn cynnwys unrhyw briffordd ac unrhyw bont gyhoeddus, ffyrdd, tir, troedffordd, sgwâr, cwrt, llwybr, neu goridor, boed yn dramwyfa neu beidio.

 

Dibenion elusennol: Ceir ystyr cyffredin 'dibenion elusennol' yn Neddf Elusennau 1960, a40, sef dibenion 'sy'n elusennol yn unig yn ôl cyfraith Cymru a Lloegr’. Awgrymir, fodd bynnag, na ddylid dehongli’r adran hon yn llym ac yn wir ceir ystyr ehangach i 'ddibenion elusennol' yn a11Deddf Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1939 sy'n datgan bod 'dibenion elusennol' yn golygu unrhyw ddiben elusennol, llesiannol neu ddyngarol p’un a yw'r diben yn elusennol neu beidio o fewn ystyr unrhyw reol gyfreithiol.

 

Man cyhoeddus: Mae Cyngor Bro Morgannwg o'r farn mai ‘man cyhoeddus' yw un lle mae gan y cyhoedd hawl mynediad iddo ac nid mynediad fel mater o ffaith.

 

Mae'n debygol y byddai angen trwydded i sefyll mewn drws siop os yw arian yn cael ei gasglu oddi wrth bobl wrth iddynt fynd i lawr y stryd. Fodd bynnag, ni fyddai angen trwyddedau ar gyfer casgliad a wneir tu mewn i siop, tŷ, lle gwaith neu fusnes h.y. mewn tafarn, neu gyntedd sinema neu theatr.
Sylwch os ydych yn casglu o un tafarn i’r llall, byddwch angen Trwydded Casgliad o Dŷ i Dŷ.

  

Amodau

Ceir yr amodau sy’n ymwneud â Chasgliadau Stryd yn Rheoliadau Cyngor Bro Morgannwg. 

 

Ffioedd

Nid oes unrhyw ffioedd yn gysylltiedig â’r broses ymgeisio hon.

 

Gwybodaeth atodol

  • Cyhoeddi enillion

    Mae'n ofynnol i ddeiliaid trwydded gyhoeddi, ar ei gost ei hun, gyfrif o enillion y casgliad mewn papur newydd lleol.

    Rhaid i hyn gynnwys:

     -  Enw'r person y rhoddwyd y drwydded iddo

     - Yr ardal y mae'r drwydded yn ymwneud â hi

     - Enw'r elusen neu'r gronfa sydd i gael y budd

     - Dyddiad y casgliad

     - Y swm a gasglwyd

     - Swm y treuliau a thaliadau a dynnwyd mewn cysylltiad â chasglu

     - Rhaid anfon copi o'r hysbyseb ymlaen at y Tîm Trwyddedu

  • Polisi ar y nifer o gasgliadau a ganiateir

    Fel y gellid dychmygu, mae galw mawr am drwyddedau i gasglu yn y modd hwn ac os nad yw’r niferoedd yn cael eu rheoli, byddai perygl i siopwyr ddigio am fod gymaint o gasglwyr yn eu hwynebu pan maent yn ymweld â chanol trefi. I atal hyn ac eto ganiatáu cyfle i nifer dda o wahanol sefydliadau godi arian, mae'r Cyngor yn gweithredu polisi o ganiatáu un casgliad fesul ardal ar unrhyw un adeg.

     

    Pan roddir Trwyddedau Casgliad Stryd mewn amgylchiadau eithriadol, bydd llacio ar Reoliad 3  Rheoliadau Casgliadau Stryd y Cyngor yn digwydd, sef na fydd rhaid i geisiadau o dan yr amgylchiadau hyn gael eu gwneud un mis cyn y dyddiad y bwriedir gwneud y casgliad.

  • Casgliadau symudol

    Nid oes angen cael trwydded i deithiau cerdded noddedig, ond ni chaniateir 'casgliadau symudol' megis gorymdeithiau a digwyddiadau carnifal fel y nodir yn Rheoliadau Bro Morgannwg. 10 (a) Bydd y casglwr yn aros yn llonydd. 

 

Tramgwyddau a Chosbau

Bydd unrhyw bersonau sy'n gweithredu yn groes i unrhyw un o Reoliadau Casgliad Stryd y Cyngor yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 1 ar y raddfa safonol yn achos o drosedd cyntaf neu ar ôl hynny.

 

Cwynion ac Iawn Arall

Iawn pan fo Cais yn Methu: Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. Nid oes hawl statudol i apelio yn erbyn gwrthod trwydded; fodd bynnag, gall yr Uchel Lys adolygu'r penderfyniad.

 

Iawn i Ddeiliad Trwydded: Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Cwynion Defnyddwyr: Edrychwch ar ein gweithdrefn cwynion defnyddwyr

 

Rheoliadau a Chanllawiau