Cost of Living Support Icon

Rhoi Trwydded Eiddo

Mae trwydded eiddo yn drwydded a roddir i awdurdodi i'r eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy, sef manwerthu alcohol, darparu adloniant rheoledig neu ddarparu lluniaeth hwyrnos.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logoAdran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU 

 

 

 

 

Y Broses Ymgeisio

Rhaid i gais am drwydded eiddo gael ei wneud i'r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal lle mae’r eiddo.

Er mwyn gwneud cais, rhaid i chi gyflwyno:

  • y ffi sy'n ofynnol (mae hon yn ffi gwneud cais ac nid yw'n ad-daladwy)
  • ffurflen gais berthnasol
  • cynllun o'r adeilad
  • Prawf o hawl i fyw a gweithio – Gweler y nodiadau canllaw am ragor o wybodaeth
  • os yw alcohol i gael ei werthu, caniatâd y goruchwylydd eiddo dynodedig
  • cadarnhad bod y cais wedi ei gyflwyno ar yr un pryd i'r awdurdodau cyfrifol priodol
  • os ydych yn ymgeisio am drwydded safle ar gyfer llong, rhaid i chi hefyd ymgynghori ag 
  • Asiantaeth Gwylwyr y Glannau
  • rhaid i hysbysiad gael ei arddangos yn glir ar y safle a rhaid iddo hefyd gael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol.

 

  • Dal a gohirio ceisiadau electronig (canllawiau a182)

    Os bydd cais wedi cael ei roi ar y penwythnos, gall yr hysbysiad sy’n hysbysebu'r cais (lle bo'n berthnasol) eisoes fod wedi ei arddangos y tu allan i'r safle erbyn yr amser y mae'r awdurdod trwyddedu yn lawrlwytho'r cais. Felly, mae'r Llywodraeth yn argymell, os yw awdurdod trwyddedu yn dal cais, y dylai hysbysu'r ymgeisydd bod rhaid i'r hysbysiad gwreiddiol (neu, os oes angen, yr hysbysiad a ddiwygiwyd) gael ei arddangos tan ddiwedd y cyfnod diwygiedig.

     

    Felly, ni ddylai'r ymgeisydd hysbysebu'r cais mewn papur newydd lleol hyd nes eu bod wedi derbyn cadarnhad gan yr awdurdod trwyddedu fod y cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen. Sicrha’r cyngor hwn nad yw ymgeiswyr yn mynd i unrhyw gostau diangen.

  • Awdurdodau cyfrifol

    Mae'r rhain yn gyrff cyhoeddus sydd rhaid eu hysbysu’n llawn am geisiadau ac sydd â'r hawl i gyflwyno sylwadau i'r awdurdod trwyddedu mewn perthynas â'r cais. Mae'r holl sylwadau a gyflwynir gan awdurdodau cyfrifol yn sylwadau perthnasol os ydynt yn ymwneud ag effaith y cais ar yr amcanion trwyddedu.


    Yr awdurdodau cyfrifol yw

     

    Os ydych yn ymgeisio am drwydded safle ar gyfer llong, rhaid i chi hefyd ymgynghori ag Asiantaeth Gwylwyr y Glannau.

     

    Wrth gyflwyno’r cais i’r Awdurdod Trwyddedu, dylai'r ymgeisydd ar yr un pryd gyflwyno copïau o'r cais a'r cynllun i’r holl awdurdodau cyfrifol perthnasol. Nid yw'r cais yn ddilys hyd nes y mae hyn wedi ei gwblhau.

     

    Mae gan yr awdurdodau cyfrifol 28 diwrnod yn olynol i ystyried y cais a gyflwynir iddynt. Mae gan aelodau o'r personau eraill hefyd gyfnod o 28 diwrnod i ystyried gwneud sylwadau perthnasol.

     

    Os ydych yn ymgeisio ar-lein drwy UK Welcomes neu drwy Gymorth Hyblyg i Fusnes, yna Cyngor Bro Morgannwg sy’n gyfrifol am anfon y copïau sy'n berthnasol i'r awdurdodau cyfrifol.

  • Penderfyniad

    Pan fydd cais naill ai’n cael ei ganiatáu neu ei wrthod, bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad i'r perwyl hwnnw i'r ymgeisydd, awdurdodau cyfrifol perthnasol a phartïon â diddordeb sydd wedi gwneud sylwadau llwyddiannus a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer yr ardal lle mae’r eiddo.


    Os cynhelir gwrandawiad, rhaid i'r pwyllgor roi rhesymau clir a chynhwysfawr ar gyfer ei benderfyniad terfynol ar y cais.

  • Sylwadau

    Dim ond pan nad yw gwrthwynebiadau neu sylwadau a dderbynnir yn flinderus neu'n wacsaw y cynhelir gwrandawiad gan awdurdodau cyfrifol neu unigolion eraill:

     

    Fodd bynnag, mae'n rhaid i’r sylwadau hyn yn cael eu hystyried gan yr awdurdod trwyddedu fel rhai sy’n cael effaith ar hyrwyddo un neu fwy o'r amcanion trwyddedu (gweler uchod).

    Mae'n bwysig nodi y gall sylwadau ar y cais fod yn negyddol (gwrthwynebiad) neu’n gadarnhaol (o blaid) a rhaid eu gwneud yn ysgrifenedig, trwy e-bost at yr Awdurdod Trwyddedu.

    Lle na wneir gwrthwynebiadau neu sylwadau perthnasol gan awdurdodau cyfrifol neu bobl eraill, mae'n rhaid i'r awdurdod trwyddedu ganiatáu’r drwydded safle ar y 29ain diwrnod olynol, yn destun yn unig i’r amodau gorfodol* a'r rhestr weithredu.

    Os derbynnir sylwadau perthnasol, rhaid i'r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad ac ystyried y sylwadau, oni bai bod cyfryngu llwyddiannus wedi digwydd.

  •  Cyfryngu

    Mae cyfryngu yn llwyddiannus lle mae pob parti, h.y. yr ymgeisydd, pob parti sy'n gwneud sylwadau perthnasol a chyda chytundeb yr awdurdod trwyddedu; yn cytuno bod y rhesymau dros y sylwadau wedi cael eu goresgyn ac y gall y rhain gael eu hadlewyrchu yn y drwydded a roddwyd, h.y. y rhestr weithredu / amodau trwydded.

  • Gwrandawiad (cyfryngu aflwyddiannus)

    Bydd manylion am ddyddiad ac amser y gwrandawiad ynghyd â manylion am y gweithdrefnau i'w dilyn yn cael eu hanfon at yr ymgeisydd, yr awdurdodau cyfrifol a phersonau eraill o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn diwrnod y gwrandawiad.


    Rhaid i'r ymgeisydd a phartïon a ddisgrifir uchod roi rhybudd i Gyngor Bro Morgannwg o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn cychwyn y gwrandawiad yn datgan:

     - p’un a fyddant yn mynychu'r gwrandawiad yn bersonol

     - p'un a fyddant yn cael eu cynrychioli gan rywun arall (e.e. cyfreithiwr/ cynghorydd/ AS)

     - p'un a ydynt o'r farn bod gwrandawiad yn ddiangen (os, er enghraifft, y cyrhaeddwyd cytundeb cyn y gwrandawiad ffurfiol)

     - unrhyw gais am i berson arall fod yn bresennol yn y gwrandawiad, gan gynnwys sut y gallant fod o gymorth i'r Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â'r cais.

  • Gwrandawiad - pa gamau sydd ar gael i'r is-bwyllgor trwyddedu?

    Pan gynhelir gwrandawiad, rhaid i'r pwyllgor gymryd y camau hynny y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

     

    Mae rhoi'r drwydded yn amodol ar y canlynol:

     - yr amodau a wirfoddolwyd yn y rhestr weithredu, wedi’u haddasu i'r graddau y mae'r pwyllgor yn ystyried yn angenrheidiol er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu

     - unrhyw amodau gorfodol

     - eithrio o gwmpas y drwydded unrhyw un o'r gweithgareddau trwyddedadwy y mae'r cais yn ymwneud ag ef

     - gwrthod pennu person yn y drwydded fel y goruchwylydd eiddo

     - gwrthod y cais

Caniatâd Dealledig

Ie. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu’n union fel pe byddai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Yr amser targed yw 28 diwrnod calendr.

Gall hyn gael ei ymestyn os derbynnir gwrthwynebiadau i ganiatáu amser ar gyfer gwrandawiad.

Cefndir a Meini Prawf Cymhwyster

  • Amcanion a nodau trwyddedu

    Mae'r ddeddfwriaeth (Deddf Trwyddedu 2003) yn rhoi ffocws clir ar bedwar amcan statudol, y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt wrth ymgymryd â swyddogaethau trwyddedu.

     - atal trosedd ac anhrefn

     - diogelwch y cyhoedd

     - atal niwsans cyhoeddus

     - amddiffyn plant rhag niwed 

    Mae pob amcan yr un mor bwysig â'i gilydd. Mae'n bwysig nodi nad oes unrhyw amcanion trwyddedu eraill, fel bod y pedwar amcan hwn yn ystyriaethau hollbwysig bob amser.

  • Adloniant rheoledig

    Diffinnir hyn o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 fel a ganlyn:

     - perfformiad o ddrama

     - dangos ffilm

     - digwyddiad chwaraeon dan do

     - bocsio neu reslo (dan do ac yn yr awyr agored)

     - perfformiad o gerddoriaeth fyw

     - unrhyw chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio

     - perfformiad o ddawns

     - cyfleusterau ar gyfer dawnsio

     - adloniant o ddisgrifiad tebyg i'r hyn sy'n dod o fewn perfformio cerddoriaeth fyw, chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio a pherfformio dawns

     - ond dim ond lle mae'r adloniant yn digwydd ym mhresenoldeb cynulleidfa ac yn cael ei ddarparu o leiaf yn rhannol i ddiddanu’r gynulleidfa.

  • Lluniaeth hwyrnos

    Mae darparu lluniaeth hwyrnos yn golygu cyflenwi bwyd poeth neu ddiod boeth i'r cyhoedd, ar gyfer ei fwyta ar neu oddi ar yr eiddo, rhwng 11:00 pm a 5:00 am neu gyflenwi bwyd poeth neu ddiod boeth i unrhyw bersonau rhwng yr oriau hynny ar neu o eiddo y mae gan y cyhoedd fynediad iddo. 

  • Pwy all wneud cais am drwydded safle?

    Gall unrhyw berson (os yw’n unigolyn 18 oed neu drosodd), sy'n rhedeg neu'n bwriadu rhedeg busnes sy'n cynnwys defnyddio eiddo (yn unrhyw le, gan gynnwys yn yr awyr agored) ar gyfer gweithgareddau trwyddedig, wneud cais am drwydded eiddo naill ai ar sail barhaol neu am gyfnod cyfyngedig o amser.

     

    Gall person yn y cyd-destun hwn fod yn fusnes neu'n bartneriaeth.

     

    Gall amrywiaeth eang o unigolion a chyrff eraill wneud cais am drwydded safle, megis elusennau, ysbytai ac ysgolion.

Amodau

  •  Cyflenwi Alcohol

    1. Ni ellir cyflenwi alcohol o dan y drwydded eiddo -

        a) ar adeg pan nad oes goruchwylydd eiddo dynodedig mewn perthynas â'r drwydded eiddo, neu

        b)  ar adeg pan nad yw'r goruchwylydd eiddo dynodedig yn dal trwydded bersonol, neu fod ei drwydded bersonol wedi ei hatal dros dro.

     

    2. Rhaid i bob cyflenwad alcohol o dan y drwydded eiddo gael ei wneud neu ei awdurdodi gan berson sy'n dal trwydded bersonol.

  • Hyrwyddiadau Diodydd Anghyfrifol

    1)  Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau nad yw’r staff mewn eiddo perthnasol yn cynnal, trefnu neu gymryd rhan mewn unrhyw hyrwyddiadau anghyfrifol mewn perthynas â'r eiddo.

     

    (2) Yn y paragraff hwn, mae hyrwyddiad anghyfrifol yn golygu unrhyw un neu ragor o'r gweithgareddau canlynol, neu weithgareddau sy'n sylweddol debyg, a gynhelir i bwrpas annog gwerthu neu gyflenwi alcohol i'w yfed ar yr eiddo —

       (a) gemau neu weithgareddau eraill sy'n mynnu neu'n annog, neu'n cael eu cynllunio i fynnu neu annog, unigolion i —

          (i) yfed swm o alcohol o fewn terfyn amser (ac eithrio i yfed alcohol a werthir neu a gyflenwir yn yr eiddo cyn diwedd y cyfnod y mae'r person cyfrifol wedi'i awdurdodi i werthu neu gyflenwi alcohol), neu

         (ii) yfed cymaint o alcohol â phosibl (p'un ai o fewn terfyn amser neu fel arall);

       (b) darparu symiau diderfyn neu amhenodol o alcohol am ddim neu am bris gostyngol neu sefydlog i'r cyhoedd neu i grŵp a ddiffinnir gan nodwedd benodol mewn modd sy'n cario risg sylweddol o danseilio amcan trwyddedu;

       (c) darparu alcohol am ddim neu am bris gostyngol neu unrhyw beth arall fel gwobr i annog neu wobrwyo prynu ac yfed alcohol dros gyfnod o 24 awr neu lai mewn modd sy'n cario risg sylweddol o danseilio amcan trwyddedu;

       (d) gwerthu neu gyflenwi alcohol ar y cyd â phosteri neu daflenni hyrwyddo ar, neu yng nghyffiniau, yr eiddo y gellir eu hystyried yn rhesymol i gydoddef, annog neu glamoreiddio ymddygiad gwrthgymdeithasol neu i gyfeirio at effeithiau meddwdod mewn unrhyw fodd ffafriol;

       (e) dosbarthu alcohol yn uniongyrchol gan berson i geg un arall (ac eithrio pan nad yw’r person arall yn medru yfed heb gymorth oherwydd anabledd).

  • 2- Dŵr yfed am ddim

    Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod dŵr yfed am ddim yn cael ei ddarparu ar gais i gwsmeriaid os yw'n rhesymol ar gael. 

  • 3- Polisi Dilysu Oed

     (1)  Rhaid i ddeiliad y drwydded eiddo neu ddeiliad tystysgrif eiddo clwb sicrhau bod polisi dilysu oedran yn cael ei fabwysiadu mewn perthynas â'r eiddo mewn cyswllt â gwerthu neu gyflenwi alcohol.

     

    (2) Rhaid i'r goruchwylydd eiddo dynodedig mewn perthynas â'r drwydded eiddo sicrhau bod y cyflenwad o alcohol ar y safle yn cael ei gynnal yn unol â'r polisi dilysu oedran.

     

    (3) Mae'r polisi ei gwneud yn ofynnol i unigolion sy'n ymddangos i'r person cyfrifol fel eu bod o dan 18 oed (neu oedran hŷn, fel y gellir fod wedi ei bennu yn y polisi) i gynhyrchu ar gais, cyn y gweinir alcohol iddynt, ddull adnabod sy'n dwyn eu llun, dyddiad geni a naill ai—

       (a) marc holograffig, neu

       (b) nodwedd uwchfioled.

  • 4- Mesurau Llai

    Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau —

       (a) os yw unrhyw un o'r diodydd alcoholaidd canlynol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi i'w yfed yn yr eiddo (heblaw am ddiodydd alcoholig a werthir neu a gyflenwir, wedi eu gwneud i fyny ymlaen llaw yn barod i'w gwerthu neu gyflenwi mewn cynhwysydd diogel caeedig), eu bod ar gael i gwsmeriaid yn y mesurau canlynol-

          (i) cwrw neu seidr: ½ peint;

          (ii) jin, rym, fodca neu wisgi: 25 ml neu 35 ml; a

          (iii)gwin llonydd mewn gwydr: 125 ml;

       (b ) bod y mesurau hyn yn cael eu harddangos mewn bwydlen, rhestr brisiau neu ddeunydd printiedig arall sydd ar gael i gwsmeriaid ar y safle; ac

       (c) os nad yw cwsmer yn ei gwneud yn glir mewn perthynas â gwerthu alcohol faint o alcohol sydd i gael ei werthu, bod y cwsmer yn cael gwybod bod y mesurau hyn ar gael.

  • Isafswm Prisio

    1.  Bydd person perthnasol yn sicrhau nad oes unrhyw alcohol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi i'w yfed ar neu oddi ar yr eiddo am bris sy'n llai na'r pris a ganiateir.

     

    2.  At ddibenion yr amod a osodir ym mharagraff 1—

         (a) mae ystyr "trethi" i'w ddehongli yn unol â Deddf Trethi ar Ddiodydd Alcoholaidd 1979;

         (b) ystyr "pris a ganiateir" yw'r pris a geir drwy gymhwyso'r fformiwla-—

     

    Pan fo—

          (i) P yw'r pris a ganiateir,

          (ii) D yw cyfradd y dreth sy’n daladwy mewn perthynas â’r alcohol fel pe bai’r dreth yn cael ei chodi ar ddyddiad gwerthu neu gyflenwi’r alcohol, a

          (iii) V yw cyfradd y dreth ar werth sy’n daladwy mewn perthynas â’r alcohol fel pe bai’r dreth ar werth yn cael ei chodi ar ddyddiad gwerthu neu gyflenwi’r alcohol;

       (c) ystyr “person perthnasol”, mewn perthynas ag eiddo lle y mae trwydded eiddo mewn grym, yw—

           (i) deiliad y drwydded eiddo,

           (ii) goruchwylydd dynodedig y safle (os oes un) mewn perthynas â thrwydded o’r fath, neu

           (iii) deiliad trwydded bersonol sy’n cyflenwi alcohol o dan drwydded o’r fath neu sy’n caniatáu iddo gael ei gyflenwi

      (d) ystyr “person perthnasol’, mewn perthynas ag eiddo lle y mae tystysgrif safle clwb mewn grym, yw unrhyw un o aelodau neu swyddogion y clwb sy’n bresennol ar y safle mewn rôl sy’n galluogi’r aelod neu’r swyddog i atal y cyflenwad o dan sylw; ac

    (e) ystyr “treth ar werth” yw treth ar werth sy’n daladwy yn unol â Deddf Treth ar Werth 1994.

     

    3.  Os nad yw’r pris a ganiateir a roddir gan Baragraff (b) o baragraff 2 (ar wahân i’r paragraff hwn) yn rhif cyfan o geiniogau, rhaid cymryd mai’r pris a roddir gan yr is-baragraff hwnnw yw’r pris a roddir mewn gwirionedd gan yr is-baragraff hwnnw wedi’i dalgrynnu i fyny i’r geiniog agosaf.

     

    4.  (1)  Mae is-baragraff (2) yn gymwys os yw’r pris a ganiateir gan Baragraff (b) o baragraff 2 ar y naill ddiwrnod (“y diwrnod cyntaf”) yn wahanol i’r pris a ganiateir ar y diwrnod nesaf (“yr ail ddiwrnod”) o ganlyniad i newid i gyfradd y dreth neu’r dreth ar werth.

     

         (2) Mae’r pris a ganiateir sy’n gymwys ar y diwrnod cyntaf yn gymwys i werthiant neu gyflenwad alcohol sy’n digwydd cyn i’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar yr ail ddiwrnod ddod i ben.

  • Dangos Ffilmiau

    (1) Pan fydd trwydded eiddo’n awdurdodi dangos ffilmiau, rhaid i’r drwydded gynnwys amod bod mynediad i blant pan fydd unrhyw ffilm yn cael ei dangos yn cael ei gyfyngu yn unol â’r adran hon.

     

    (2) Pan fydd y corff categoreiddio ffilmiau’n cael ei nodi yn y drwydded, oni bai bod isadran (3)(b) yn berthnasol, rhaid cyfyngu mynediad i blant yn unol ag unrhyw argymhelliad a wneir gan y corff hwnnw.

     

    (3) Pan —

         (a) nad yw’r corff categoreiddio ffilmiau wedi’i nodi yn y drwydded, neu

         (b) bod yr awdurdod trwyddedu wedi hysbysu deiliad y drwydded bod yr isadran hon yn berthnasol i’r ffilm dan sylw, dylid cyfyngu mynediad i blant yn unol ag unrhyw argymhelliad a wneir gan yr awdurdod trwyddedu hwnnw.

     

    (4) Yn yr adran hon —

    • mae “plant” yn golygu pobl dan 18 oed; a
    • "corff categoreiddio ffilmiau” yn golygu’r person neu’r personau a ddynodwyd fel yr awdurdod dan adran 4 o Ddeddf Recordiadau Fideo 1984 (c.39) (yr awdurdod sy’n pennu addasrwydd ffilmiau fideo ar gyfer categoreiddio).
  • Goruchwylio Drysau

    (1)  Pan fydd trwydded eiddo’n cynnwys amod bod yn rhaid i un person neu ragor fod ar yr eiddo ar adegau penodol i gwblhau gweithgaredd diogelwch, rhaid i’r drwydded gynnwys amod bod yn rhaid i unrhyw berson o’r fath

      (a)  fod wedi’i awdurdodi i wneud y gweithgaredd hwnnw drwy drwydded a roddwyd gan Ddeddf y Diwydiant Diogelwch Preifat 2001; neu

      (b) bod â hawl i wneud y gweithgaredd hwnnw.

     

    (2) Ond nid oes dim byd yn isadran (1) sy’n gofyn am osod amod o’r fath -

      (a) ar gyfer eiddo o fewn paragraff 8(3)(a) o Atodlen 2 Deddf y Diwydiant Diogelwch Preifat 2001 (c.12) (eiddo gyda thrwyddedau safle sy’n awdurdodi dramâu neu ffilmiau), neu

      (b) ar gyfer eiddo mewn perthynas ag —

          (i) unrhyw achlysur a grybwyllir  ym mharagraff 8(3)(b) neu (c) o’r Atodlen honno

    (eiddo sy’n cael eu defnyddio gan glwb sydd â thystysgrif safle clwb yn unig, dan hysbysiad digwyddiad dros dro sy’n awdurdodi dramâu neu ffilmiau, neu dan drwydded hapchwarae), neu 

         (ii) unrhyw achlysur o fewn paragraff 8(3)(d) o’r Atodlen honno (achlysuron a bennir gan reoliadau dan y Ddeddf honno).

     

    (3) At ddibenion yr adran hon —

         (a) mae "gweithgaredd diogelwch" yn golygu gweithgaredd y mae paragraff 2(1)(a) o’r Atodlen honno’n berthnasol ar ei gyfer, ac sy’n ymddygiad trwyddedadwy i ddibenion y Ddeddf honno (gweler adran 3(2) o’r Ddeddf honno), a

         (b) bod paragraff 8(5) o’r Atodlen honno (dehongli cyfeiriadau at achlysur) yn berthnasol, fel mae’n berthnasol mewn perthynas â pharagraff 8 o’r Atodlen honno.

  • Eiddo Cymunedol gydag Alcohol 

    Rhaid i bob cyflenwad o alcohol o dan y drwydded eiddo gael ei wneud neu ei awdurdodi gan y pwyllgor rheoli

 

Ffioedd

Mae’r ffi ar gyfer rhoi trwydded eiddo yn seiliedig ar werth ardrethol. Nid yw ffioedd cais yn ad-daladwy.

 

bands and fees
Band A B C D E

Gwerth ardrethol annomestig  

 £0 - £4,300

£4,301 - £33,000

£33,001 - £87,000

£87,001 - £125,00

 £125,001 +

Caniatâd

 £100

 £190

 £315

 £450

 £635

 

Ffioedd Ychwanegol - Digwyddiadau ar Raddfa Fawr 

 

additional fees
Nifer yn bresennol ar unrhyw un adegFfi Trwydded Eiddo YchwanegolFfi Blynyddol Ychwanegol sy'n daladwy os yn berthnasol

5,000 – 9,999

£1,000

£500

10,000 – 14,999

£2,000

£1,000

15,000 – 19,999

£4,000

£2,000

20,000 – 29,999

£8,000

£4,000

30,000 – 39,999

£16,000

£8,000

40,000 – 49,999

£24,000

£12,000

50,000 – 59,999

£32,000

£16,000

60,000 – 69,999

£40,000

£20,000

70,000 – 79,999

£48,000

£24,000

80,000 – 89,999

£56,000

£28,000

90,000 a throsodd

£64,000

£32,000

 

Gwybodaeth Atodol

  • Rhestr Weithredu

    Mae'r rhestr weithredu yn rhan o'r ffurflen gais a dylai nodi’r amryw fanylion am sut y bwriedir i eiddo weithredu wrth gynnal gweithgareddau trwyddedadwy.

     

    Rhaid iddi gynnwys y wybodaeth ganlynol:

     - y gweithgareddau trwyddedadwy sydd i'w cynnal

     - yr oriau arfaethedig pryd y bydd y gweithgareddau trwyddedadwy perthnasol yn digwydd

     - enw a chyfeiriad y goruchwylydd eiddo dynodedig os yw'r gweithgareddau trwyddedadwy'n cynnwys manwerthu alcohol

     - lle mae alcohol yn cael ei gyflenwi, p’un a yw cyflenwadau ar gyfer ei yfed ar ac/ neu oddi ar yr eiddo

     - datganiad o'r camau y mae'r ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu

     - lle bo'r drwydded am gyfnod cyfyngedig, y cyfnod hwnnw.

     

    Arwyddocâd y rhestr weithredu yw os rhoddir y cais am drwydded eiddo, yna bydd yn cael ei hymgorffori yn y drwydded a bydd yn nodi’r gweithgareddau a ganiateir ac unrhyw gyfyngiadau.

  •  Cynllun o’r eiddo

    Nid oes rhaid i gynllun o’r eiddo fod ar unrhyw raddfa benodol, ond mae'n rhaid iddo fod mewn fformat sy'n "glir ac yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol", h.y. mae'n rhaid iddo roi digon o fanylion i’r awdurdod trwyddedu allu penderfynu ar y cais, gan gynnwys maint cymharol unrhyw nodweddion sy'n berthnasol i'r cais.

     

    Nid yw'n ofynnol i'r cynlluniau gael eu llunio'n broffesiynol cyn belled â'u bod yn dangos yn glir yr holl wybodaeth ragnodedig.

     

    Bydd cynllun yr eiddo yn cynnwys y canlynol:

     - lleoliad maint y ffin yr adeilad, os yn berthnasol, ac unrhyw waliau allanol a mewnol sy'n cynnwys yr eiddo, neu y lleolir yr eiddo oddi mewn iddo

     - lleoliad mynedfeydd ac allanfeydd yr eiddo

     - os yn wahanol i'r uchod, lleoliad llwybrau dianc o'r eiddo

     - mewn achosion lle mae'r adeilad i gael ei ddefnyddio ar gyfer mwy nag un gweithgaredd trwyddedadwy, yr ardal o fewn yr eiddo a ddefnyddir ar gyfer pob gweithgaredd

     - strwythurau sefydlog (gan gynnwys dodrefn) neu wrthrychau tebyg dros dro mewn lleoliad sefydlog (ond nid dodrefn) a allai effeithio ar allu unigolion yn yr eiddo rhag defnyddio allanfeydd neu lwybrau dianc heb rwystr

     - mewn achos lle mae'r adeilad yn cynnwys llwyfan neu ardal uchel, lleoliad ac uchder pob llwyfan neu ardal mewn perthynas â'r llawr

     - mewn achos pan fo’r adeilad yn cynnwys unrhyw ystafell neu ystafelloedd sy'n cynnwys cyfleusterau cyhoeddus, lleoliad unrhyw rai o'r rhain

     - lleoliad a math unrhyw diogelwch tân ac unrhyw offer diogelwch arall, gan gynnwys, os yw'n berthnasol, offer diogelwch morol

     - lleoliad cegin, os o gwbl, yn yr eiddo.

     

    Gall y cynllun gynnwys eglurhad lle’r arwyddir yr uchod drwy ddefnyddio symbolau. Symbolau eglurhaol enghreifftiol ar gyfer y cynllun gweithredu.

  • Hysbysiad 

    I hysbysebu'r cais, rhaid i'r ymgeisydd ddangos yn glir Hysbysiad o faint cyfartal neu'n fwy na maint A4 (ar bapur glas golau) wedi ei argraffu’n glir a darllenadwy mewn inc du neu wedi'i deipio mewn du mewn maint ffont sy'n hafal i neu'n fwy na maint 16. Dylai hyn fod yn union ar neu tu allan i'r eiddo am gyfnod o ddim llai nag wyth diwrnod ar hugain yn olynol gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafodd y cais ei gyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg ac yn ystod y cyfnod y gall partïon â diddordeb gyflwyno sylwadau.

    Ar gyfer eiddo sydd â ffryntiad priffordd o fwy na 50 metr o hyd, dylai'r Hysbysiad gael ei arddangos ar gyfnodau o 50 metr.

    Yn ogystal, mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol. Dylai hyn fod ar o leiaf un achlysur yn ystod y cyfnod o 10 diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafodd y cais ei gyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg.

     

    Cynnwys hysbysiad enghreifftiol ar gyfer arddangos ar yr eiddo a hysbysebu mewn papur newydd lleol.

     

    Dylai'r Hysbysiad gynnwys crynodeb byr a chlir sy’n nodi’r manylion fel a ganlyn:

     - y gweithgareddau trwyddedadwy perthnasol arfaethedig sydd i'w cynnal ar neu o'r eiddo

     - enw’r ymgeisiydd

     - cyfeiriad post yr eiddo, os oes un, neu os nad oes cyfeiriad post ar gyfer yr eiddo, disgrifiad o'r eiddo hwnnw sy'n ddigonol i alluogi adnabod lleoliad a maint yr eiddo

     - cyfeiriad post ac, os yw'n berthnasol, cyfeiriad y we fyd-eang lle cedwir cofrestr Cyngor Bro Morgannwg a lle y gall y cofnod o'r cais gael ei  archwilio (gweler troedyn y ddogfen ganllawiau hon)

     - yr ystod dyddiadau pryd y gall parti ac awdurdodau cyfrifol sydd â diddordeb gyflwyno sylwadau i Gyngor Bro Morgannwg (gweler hysbysebu ceisiadau uchod)

     - datganiad y bydd sylwadau yn cael eu gwneud yn ysgrifenedig

     - datganiad ei bod yn drosedd i wneud datganiad anwir yn fwriadol neu'n fyrbwyll mewn perthynas â chais ac uchafswm y ddirwy y mae person yn agored iddi ar gollfarn ddiannod am y drosedd - £5,000. 

 

  •  Gwneud Iawn am Gais wedi Methu
    Cysylltwch â’r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. Os bydd cais am drwydded wedi ei wrthod gall yr ymgeisydd a fethodd apelio. Gwneir apeliadau i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o hysbysiad o'r penderfyniad. 
  •  Gwneud Iawn i Ddeilydd Trwydded

    Cysylltwch â’r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

     

    Os bydd cais yn cael ei wneud gan brif swyddog yr heddlu, fel y nodir isod, a'r camau dros dro yn cael eu cymryd gan yr awdurdod trwyddedu, gallwch wneud sylwadau. Rhaid i wrandawiad gael ei gynnal o fewn 48 awr o'ch sylwadau.

     

    Gall deiliad trwydded apelio yn erbyn unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded, penderfyniad i wrthod cais amrywio, penderfyniad i wrthod cais i drosglwyddo neu benderfyniad i eithrio gweithgaredd neu berson fel goruchwyliwr eiddo.

     

    Gwneir apeliadau i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o hysbysiad o'r penderfyniad.

  •  Cwynion Defnyddwyr

    Gweler ein tudalen cwynion defnyddwyr.

     

    Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i'r awdurdod trwyddedu adolygu'r drwydded eiddo. Cynhelir gwrandawiad gan yr awdurdod trwyddedu.

     

    Gwneir apeliadau i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o hysbysiad o'r penderfyniad.

  •  Gwneud Iawn Arall

    Gall prif swyddog yr heddlu i’r ardal heddlu lle mae'r eiddo wedi'i leoli wneud cais i'r awdurdod trwyddedu am adolygiad o'r drwydded os yw’r eiddo wedi’i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch swyddog wedi rhoi tystysgrif ei fod o'r farn bod yr eiddo yn gysylltiedig â naill ai troseddu neu anhrefn difrifol, neu’r ddau. Cynhelir gwrandawiad a gall deiliad y drwydded a phartïon eraill â diddordeb gyflwyno sylwadau.

     

    Gall prif swyddog yr heddlu roi hysbysiad i'r awdurdod trwyddedu os yw’n credu y gallai trosglwyddo trwydded i un arall, o dan gais amrywiad, danseilio'r amcanion atal troseddu. Rhaid cyflwyno hysbysiad o'r fath o fewn 14 diwrnod o dderbyn hysbysiad am y cais.

     

    Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol wneud sylwadau mewn perthynas â chais am drwydded neu ofyn i'r corff trwyddedu adolygu'r drwydded.

     

    Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i'r awdurdod trwyddedu adolygu'r drwydded eiddo. Cynhelir gwrandawiad gan yr awdurdod trwyddedu.

     

    Gall prif swyddog yr heddlu i’r ardal heddlu lle mae'r eiddo wedi'i leoli wneud cais i'r awdurdod trwyddedu am adolygiad o'r drwydded os yw’r eiddo wedi’i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch swyddog o’r heddlu wedi rhoi tystysgrif ei fod o'r farn bod yr eiddo yn gysylltiedig â naill ai troseddu neu anhrefn difrifol, neu’r ddau.

     

    Gall parti â diddordeb neu awdurdod perthnasol a gyflwynodd sylwadau perthnasol apelio yn erbyn rhoi trwydded neu yn erbyn unrhyw amod, amrywiad, gweithgaredd trwyddedadwy neu benderfyniadau goruchwylydd eiddo.

    Gwneir apeliadau i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o hysbysiad o'r penderfyniad.