Cost of Living Support Icon

Datganiad Dros Dro

Pan fo safle yn cael ei adeiladu/addasu neu ar fin cael ei adeiladu/addasu efallai na fydd yn bosibl ymrwymo i’r buddsoddiad angenrheidiol oni bai bod buddsoddwyr yn cael rhyw fath o sicrwydd nid yn unig bod caniatâd cynllunio priodol gan y project, ond eu bod yn cael rhywfaint o sicrwydd y byddai trwydded safle ar gyfer y gweithgareddau trwyddedadwy dan sylw yn cael ei rhoi i'r safle pan gaiff y gwaith adeiladu ei gwblhau.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

Gall ymgeiswyr wneud cais am ddatganiad dros dro sy’n fodd i ddangos p'un ai a fyddai trwydded safle yn debygol o gael ei rhoi yn dilyn cwblhau'r gwaith neu addasiadau yn unol  â'r cynlluniau.

 

 

Y Broses o Wneud Cais

  •  Gwybodaeth Angenrheidiol

    Mae'n rhaid gwneud cais am ddatganiad dros dro i awdurdod trwyddedu'r ardal y mae'r safle ynddi.

     

    I wneud cais mae’n rhaid i chi gyflwynot:

    • ffurflen gais briodol
    • y ffi ofynnol (ffi am wneud cais yw hon na ellir ei had-dalu)
    • atodlen gweithredu
    • cynllun o’r safle
    • cadarnhad bod y cais wedi'i gyflwyno i'r awdurdod cyfrifol priodol ar yr un pryd

     

    Mae'n rhaid arddangos hysbyiad yn glir yn y safle a hefyd ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol.

  •  Atal a gohirio ceisiadau electronig (canllaw adran 182)

    Os cyflwynwyd cais ar y penwythnos, efallai bydd yr hysbysiad sy’n hysbysebu'r cais (pan fo'n briodol) eisoes wedi'i arddangos y tu allan i'r safle erbyn y bydd yr awdurdod trwyddedu yn lawrlwytho'r cais. Mae’r Llywodraeth felly’n argymell os yw awdurdod trwyddedu yn atal cais, dylai roi gwybod i’r ymgeisydd bod rhaid iddo arddangos yr hysbysiad cais gwreiddiol (neu os yw'n hynny'n angenrheidiol, diwygiedig) tan ddiwedd y cyfnod diwygiedig.

     

    Felly, ni ddylai’r ymgeisydd hysbysebu'r cais mewn papur newydd lleol oni bai ei fod wedi cael cadarnhad gan yr awdurdod trwydded bod y cais yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Nod hyn yw sicrhau nad yw ymgeiswyr yn mynd i gostau diangen.

  •  Awdurdodau cyfrifol

    Cyrff cyhoeddus y mae'n rhaid eu hysbysu'n llawn am unrhyw geisiadau yw'r rhain, ac mae hawl ganddynt i gyflwyno sylwadau i'r awdurdod trwyddedu mewn perthynas â’r cais. Mae pob sylw a wneir gan awdurdodau cyfrifol yn sylw perthnasol yw’n ymwneud ag effaith y cais ar yr amcanion trwyddedu.

     

    Yr awdurdodau cyfrifol yw:

    • Prif Swyddog yr Heddlu
    • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
    • Iechyd yr Amgylchedd
    • Cynllunio
    • Safonau Masnach
    • Gwasanaethau Cymdeithasol
    • Bwrdd Iechyd

     

    Os ydych yn gwneud cais am drwydded llong mae’n rhaid i chi hefyd ymgynghori â’r Asisantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.

     

    Wrth gyflwyno’r cais i’r Awdurdod Trwyddedu, dylai’r ymgeisydd hefyd gyflwyno copïau o'r cais a’r cynllun i'r holl awdurdodau cyfrifol ar yr un pryd. Nid yw’r cais yn ddilys oni wneir hyn.

     

    Wrth wneud cais ar-lein drwy UK Welcomes neu drwy Cymorth Hyblyg i Fusnesau mae Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am anfon y copïau perthnasol i’r awdurdod cyfrifol.

     

    Mae gan yr awdurdodau cyfrifol 28 diwrnod olynol i ystyried y cais a gyflwynir iddynt. Mae gan y cyhoedd/partïon â diddordeb hefyd gyfnod o 28 diwrnod i ystyried cyflwyno sylwadau perthnasol.

  •  Gwneud Penderfyniad

    Pan fo cais un ai'n cael ei roi neu ei wrthod, bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad i'r perwyl hwnnw i'r ymgeisydd, yr awdurdodau cyfrifol perthnasol a phobl eraill sydd wedi cyflwyno sylwadau dilys a phrif swyddog heddlu yr ardal y mae'r safle ynddi.

     

    Pan fo gwrandawiad, mae'n rhaid i'r pwyllgor roi rhesymau clir a chynhwysfawr dros ei benderfyniad terfynol ar y cais.  Cynhelir gwrandawiad i wneud penderfyniad ar gais dim ond pan fo gwrthwynebiadau nad ydynt yn wrthwynebiadau gwamal neu faleisus neu sylwadau gan awdurdodau neu bersonau anghyfrifol wedi dod i law. 

     

    Mae’n bwysig nodi y gall sylwadau ar y cais fod yn negyddol (yn gwrthwynebu) neu gadarnhaol (yn cefnogi) ac mae’n rhaid eu gwneud yn ysgrifenedig neu dros e-bost. Pan nad oes unrhyw wrthwynebiadau neu sylwadau perthnasol yn dod i law gan awdurdodau cyfrifol neu bartïon â diddordeb, mae’n rhaid i’r awdurdod trwydded gyflwyno'r datganiad dros dro ar y 29ain diwrnod olynol yn amodol ar yr *amodau gorfodol yn unig.


    Er bod hynny’n annhebygol, os nad ydych yn clywed unrhyw beth ynghylch eich cais ar ôl y cyfnod 28 diwrnod a nodir uchod, cysylltwch â chi. Ni ystyrir bod eich cais wedi'i gymeradwyo os nad ydych wedi clywed oddi wrthym am resymau’n ymwneud ag iechyd a diogelwch y cyhoedd.

    Os daw sylwadau perthnasol i law, mae'n rhaid i’r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad ac ystyried y sylwadau, oni bai bod cyfryngu llwyddiannus wedi digwydd.

  •  Cyfryngu

    Ystyrir bod cyfryngu yn llwyddiannus pan fo'r holl bartïon, h.y. yr ymgeisydd, yr holl bartïon sy’n cyflwyno sylwadau perthnasol a gyda chytundeb yr awdurdod trwyddedu; yn cytuno bod y rhesymau dros gyflwyno’r sylwadau wedi'u datrys ac y gellir adlewyrchu’r rhain yn y drwydded a roddir, h.y. yr atodlen weithredu/amodau trwydded.

  •  Gwrandawiad (pan fo cyfryngu’n aflwyddiannus)

    Caiff y manylion am ddyddiad ac amser y gwrandawiad ynghyd â manylion y gweithdrefnau i’w dilyn eu hanfon i’r ymgeisydd, awdurdodau cyfrifol a phersonau eraill o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn diwrnod y gwrandawiad.

     

    Mae’n rhaid i’r ymgeisydd a’r partïon a ddisgrifir uchod hysbysu Cyngor Bro Morgannwg o’r canlynol  o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn dechrau’r gwrandawiad:

      • p'un ai a ydynt yn bwriadu mynychu'r gwrandawiad eu hunain
      • p’un ai a fydd rhywun arall yn eu cynrychioli (e.e. cyfreithiwr / cynghorydd / AS)
      • p'un ai a ydynt yn credu nad oes angen cynnal gwrandawiad (er enghraifft, os daethpwyd i gytundeb cyn gwrandawiad ffurfiol)
      • unrhyw gais i berson arall fynychu’r gwrandawiad, gan gynnwys sut y gallant gynorthwyo’r awdurdod trwyddedu mewn perthynas â'r cais 

     

  •  Gwrandawiad – pa gamau sydd ar gael i’r  is-bwyllgor trwyddedu?

    Pan gynhelir gwrandawiad, mae'n rhaid i'r pwyllgor benderfynu p’un ai, os caiff y safle ei adeiladu neu ei addasu yn y ffordd a gynigir yn yr atodlen waith ac os gwnaed cais am drwydded ar gyfer y safle dan sylw, y byddai’n ystyried ei bod yn angenrheidiol hyrwyddo’r amcanion trwyddedadwy er mwyn:

    • ychwanegu amodau at y drwydded
    • diystyru unrhyw rai o’r gweithgareddau trwyddedadwy y gwnaed cais amdanynt
    • gwrthod dweud pwy yw’r person a enwebwyd yn oruchwylydd safle
    • gwrthod y cais

     

 

 

 

Cydsyniad Mud

Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi’i gymeradwyo os na chlywch gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Y cyfnod targed yw 28 diwrnod calendr.

Gellir ymestyn hyn os daw gwrthwynebiadau i law er mwyn sicrhau amser i gynnal gwrandawiad.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Gall unrhyw berson (os yw unigolyn yn 18 oed neu hŷn) â diddordeb yn y safle wneud cais am ddatganiad dros dro.

Yn y cyd-destun hwn mae person yn cynnwys busnes, cwmni penseiri, cwmni adeiladu neu ariannwr.

 

Amcanion a nodau trwyddedu

Mae’r ddeddfwriaeth (Deddf Trwyddedu 2003) yn canolbwyntio ar bedwar amcan statudol clir y mae’n rhaid mynd i'r afael â nhw wrth gyflawni swyddogaethau trwyddedu.
Sef:

  • atal trosedd ac anrhefn
  • iechyd y cyhoedd
  • atal niwsans cyhoeddus
  • amddiffyn plant rhag niwed

Mae pob amcan yr un mor bwysig â’r llall. Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw amcanion trwyddedau eraill, fel bod y pedwar amcan o’r pwys mwyaf bob amser.

 

Adloniant reoledig

Caiff hyn ei ddiffinio dan Ddeddf Trwyddedu 2003 fel a ganlyn:

  • perfformio drama
  • arddangos ffilm
  • digwyddiad chwaraeon dan do
  • adloniant paffio neu wreslo (yn yr awyr agored a dan-do)
  • perfformio cerddoriaeth yn fyw
  • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi’i recordio
  • perfformio dawns
  • cyfleusterau ar gyfer dawnsio
  • adloniant â disgrifiad tebyg sy’n dod o dan gwmpas perfformiad cerddoriaeth fyw, chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio a pherfformiad dawns 
  • ond dim ond pan fo’r adloniant yn digwydd ym mhresenoldeb cynulleidfa a’i ddarparu o leiaf yn rhannol i ddiddanu’r gynulleidfa honno

 

Lluniaeth yn hwyr y nos

Mae darparu lluniaeth yn hwyr y nos yn golygu cyflenwi bwyd poeth neu ddiod boeth i’r cyhoedd, i’w fwyta neu i’w yfed ar y safle neu oddi ar y safle, rhwng 11:00 pm a 5:00 am neu gyflenwi bwyd poeth neu ddiod boeth i unrhyw bersonau rhwng yr oriau hynny ar y safle neu oddi ar y safle y mae’r cyhoedd y gallu ei gyrchu.

 

Amodau

Amodau Gorfodol Trwydded Safle

  •  Cyflenwi Alcohol

    1. Ni ellir cyflenwi unrhyw alcohol dan drwydded trwydded safle -

       a) ar adeg pan nad oes goruchwylydd safle dynodedig mewn cysylltiad â’r drwydded safle, neu

       b) ar adeg pan nad yw’r goruchwylydd safle dynodedig yn ddeiliad trwydded bersonol, neu pan fo ei drwydded wedi’i hatal dros dro.

     

    2. Mae’n rhaid i'r holl alcohol a gyflenwir dan y drwydded safle gael ei wneud neu ei awdurdodi gan berson sy'n ddeiliad trwydded bersonol.

  •  Hyrwyddiadau Diod Anghyfrifol

    1)Mae’n rhaid i berson cyfrifol sicrhau nad yw staff ar safle perthnasol yn cyflawni, trefnu na chymryd rhan mewn unrhyw hyrwyddiadau anghyfrifol mewn perthynas â’r safle.

     

     (2) Yn y paragraff hwn, ystyr hyrwyddiad anghyfrifol yw unrhyw un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol, neu weithgareddau tebyg iawn iddynt, a gyflawnir at y diben o annog gwerthu neu gyflenwi alcohol i'w yfed ar y safle-

        (a) gemau neu weithgareddau eraill sy'n gofyn i unigolion neu eu hannog, neu a gynlluniwyd i ofyn i unigolion neu eu hannog i wneud y canlynol -

            (i) yfed maint o alcohol o fewn terfyn amser penodol (ac eithrio yfed alcohol a werthir neu a gyflenwir yn y safle cyn i’r cyfnod y mae'r person cyfrifol wedi’i awdurdodi i werthu neu gyflenwi alcohol yn dod i ben), neu

           (ii)yfed cymaint o alcohol â phosibl (p'un ai o fewn terfyn amser penodol neu fel arall);

        (b) darparu meintiau di-ben-draw neu amhenodol o alcohol a hynny am ddim neu am ffi benodedig neu ar ddisgownt i’r cyhoedd neu i grŵp a ddiffinnir gan nodwedd benodol mewn dull sy’n peri risg sylweddol o ran tanseilio amcan drwyddedu;

       (c) darparu alcohol am ddim neu ar ddisgownt neu unrhyw beth arall fel gwobr i annog neu wobrwyo prynu ac yfed alcohol dros gyfnod o 24 awr neu lai mewn dull sy'n peri risg sylweddol o ran tanseilio amcan drwyddedu;

       (d) gwerthu neu gyflenwi alcohol ar y cyd â phosteri neu daflenni hyrwyddiadol ar y safle, neu'n agos ato, mewn dull y gellir ei ystyried yn rhesymol sy’n esgusodi, annog neu'n gwneud yn fawr o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu gyfeirio at effaith meddwdod mewn unrhyw ddull ffafriol;

      (e) tywallt alcohol yn uniongyrchol gan un person i geg person arall (ac eithrio pan nad yw’r person arall yn gallu yfed heb gymorth oherwydd anabledd).

  •  Dŵr Yfed am Ddim

    Mae’n rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod dŵr yfadwy am ddim ar gael ar gais i gwsmeriaid lle y gellir disgwyl yn rhesymol ei fod ar gael. 

  •  Polisi Cadarnhau Oedran

    (1) Mae’n rhaid i ddeiliad y drwydded safle neu ddeiliad tystysgrif safle clwb sicrhau bod polisi cadarnhau polisi cadarnhau oedran yn cael ei fabwysiadu yn y safle mewn perthynas â gwerthu neu gyflenwi alcohol.

     

     (2) Mae’n rhaid i’r goruchwylydd safle dynodedig, mewn perthynas â’r drwydded safle, sicrhau y caiff y gwaith o gyflenwi alcohol yn y safle ei gyflawni yn unol â'r polisi cadarnhau oedran.

     

     (3) Mae’n rhaid i’r polisi nodi bod rhaid gofyn i unigolion sy’n ymddangos i'r person cyfrifol eu bod dan 18 mlwydd oed (neu'n hŷn os yw hynny wedi’i nodi yn y polisi) gyflwyno ar gais, cyn y gweinir alcohol iddynt, brawf adnabod gyda'u ffotograff, dyddiad geni ac un ai -

       (a) marc holograffig, neu

       (b) nodwedd uwchfioled.

  •  Mesurau Llai

    Rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod-

       (A) pan fo'r unrhyw rai o'r diodydd alcoholaidd canlynol yn cael eu gwerthu neu gyflenwi i'w hyfed ar y safle (heblaw diodydd alcoholig a werthir neu a  gyflenwir sydd wedi'u paratoi ymlaen llaw i'w gwerthu neu gyflenwi mewn cynhwysydd diogel â chaead arno) maent ar gael i gwsmeriaid yn y mesurau canlynol -

     (I) cwrw neu seidr: ½ peint;

     (Ii) jin, rym, fodca neu wisgi: 25 ml neu 35 ml; a

     (Iii) gwin llonydd mewn gwydr: 125 ml;

      (B) bydd y mesurau hyn yn cael eu harddangos mewn bwydlen, rhestr brisiau neu ddeunydd printiedig arall sydd ar gael i gwsmeriaid ar y safle; a

      (C) phan nad yw cwsmer mewn perthynas â gwerthu alcohol yn nodi faint o alcohol sydd i'w werthu, bydd y cwsmer yn cael gwybod bod y mesurau hyn ar gael.

  •  isafswm Prisiau

    1.Bydd person perthnasol yn sicrhau nad oes unrhyw alcohol yn cael ei werthu neu ei gyflenwi i'w yfed ar y safle neu oddi ar y safle am bris sy'n llai na'r pris a ganiateir.

     

    2.At ddibenion yr amod a nodir ym mharagraff 1-

       (A) dylid dehongli "dyletswydd" yn unol â Deddf Dyletswyddau Alcoholig Gwirodydd 1979;

       (B) "pris a ganiateir" yw'r pris a geir drwy gymhwyso'r fformiwla-

    Pan fo -

           (I) P yw'r pris a ganiateir,

          (Ii) D yw swm y doll sy'n daladwy mewn perthynas â'r alcohol fel petai'r doll yn daladwy ar ddyddiad gwerthu neu gyflenwi'r alcohol, a

          (Iii) V yw'r gyfradd treth ar werth sy'n daladwy mewn perthynas â'r alcohol fel pe bai'r dreth yn daladwy ar ddyddiad gwerthu neu gyflenwi'r alcohol;

      (C) ystyr "person perthnasol" mewn perthynas â safle yw safle sydd â thrwydded safle mewn grym ynddi -

         (I) deiliad y drwydded safle,

        (Ii) y goruchwyliwr safle dynodedig (os oes un) mewn perthynas â thrwydded o'r fath, neu

        (Iii) deiliad trwydded bersonol sy'n gwneud neu'n awdurdodi cyflenwi alcohol o dan drwydded o'r fath;

      (Ch) ystyr "person perthnasol", mewn perthynas â safle y mae tystysgrif safle clwb mewn grym ynddo, yw unrhyw aelod neu swyddog o'r clwb sy'n bresennol yn y safle sy'n gwneud swydd sy'n galluogi'r aelod neu swyddog hwnnw atal y cyflenwad dan sylw; ac

      (D) ystyr "treth ar werth" yw treth ar werth sy'n daladwy yn unol â Deddf Treth ar Werth 1994.

     

    3.Pan na fyddai'r pris a ganiateir a nodir ym Mharagraff (b) o baragraff 2 (ar wahân i'r paragraff hwn) yn geiniogau cyfan, ystyrir mai'r pris a nodir yn yr is-baragraff hwnnw yw'r union bris a nodir yn is-baragraff wedi'i dalgrynnu i'r geiniog agosaf.

     

    4.(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys os yw'r pris a ganiateir a nodir ym Mharagraff (b) o baragraff 2 ar ddiwrnod ( "y diwrnod cyntaf") yn wahanol i'r pris a ganiateir ar y diwrnod nesaf ( " yr ail ddiwrnod ") o ganlyniad i newid yn y gyfradd dollau neu dreth ar werth.

     

     (2) Mae'r pris a ganiateir a fyddai'n gymwys ar y diwrnod cyntaf yn berthnasol i werthu neu gyflenwi alcohol sy'n digwydd cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod yn dechrau ar yr ail ddiwrnod.

  •  Arddangos Ffilmiau

    (1) Pan fo trwydded safle yn awdurdodi arddangos ffilmiau, mae'n rhaid i'r drwydded gynnwys amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfyngu mynediad plant i unrhyw ffilm yn unol â'r adran hon.

     

     (2) Pan fo'r corff dosbarthu ffilmiau wedi'i nodi yn y drwydded, oni bai bod isadran (3) (b) yn gymwys, rhaid cyfyngu ar fynediad plant yn unol ag unrhyw argymhelliad a wnaed gan y corff hwnnw.

     

     (3) Hefyd -

        (A) pan nad yw'r corff dosbarthu ffilmiau wedi'i nodi yn y drwydded, neu

        (B) pan fo'r awdurdod trwyddedu perthnasol wedi hysbysu deiliad y drwydded bod yr is-adran yn berthnasol i'r ffilm dan sylw, mae'n rhaid cyfyngu ar fynediad plant yn unol ag unrhyw argymhelliad a wnaed gan yr awdurdod trwyddedu.

     

     (4) Yn yr adran hon-

    ystyr "plant" yw personau o dan 18 oed; ac

    ystyr "corff dosbarthu ffilmiau" yw'r person neu bersonau dynodedig fel yr awdurdod dan adran 4 o Ddeddf Recordiadau Fideo 1984 (p. 39) (awdurdod i benderfynu addasrwydd gwaith fideo ar gyfer ei ddosbarthu).

  •  Goruchwylio drysau

    (1) Pan fo trwydded safle yn cynnwys amod bod rhaid i un neu ragor o unigolion fod yn yr adeilad ar adegau penodol i gyflawni gweithgaredd diogelwch, mae'n rhaid i'r drwydded gynnwys amod bod rhaid i'r unigolyn hwnnw

       (A) fod wedi'i awdurdodi i gynnal y gweithgaredd hwnnw gan drwydded a gymeradwywyd dan Ddeddf y Diwydiant Diogelwch Preifat 2001; neu

       (B) fod â'r hawl i gynnal y gweithgaredd hwnnw.

     

     (2) Ond nid oes dim yn is-adran (1) yn gofyn am y fath amod-

     (A) mewn perthynas â safle ym mharagraff 8 (3) (a) o Atodlen 2 i Ddeddf y Diwydiant Diogelwch Preifat 2001 (p. 12) (safle â thrwyddedau safle sy'n awdurdodi llwyfannu dramâu neu arddangos ffilmiau), neu

       (B) mewn perthynas â safle o ran -

           (I) unrhyw achlysur y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 8 (3) (b) neu (c) o'r Atodlen honno (adeilad a ddefnyddir yn gyfan gwbl gan glwb gyda thystysgrif safle clwb, dan hysbysiad digwyddiad dros dro sy'n awdurdodi llwyfannu dramâu neu arddangos ffilmiau neu dan drwydded hapchwarae), neu

          (ii) unrhyw achlysur ym mharagraff 8 (3) (d) o'r Atodlen honno (achlysuron a ragnodir gan reoliadau dan y Ddeddf honno).

     

     (3) At ddibenion yr adran hon-

     (A) ystyr "gweithgaredd diogelwch" yw gweithgaredd y mae paragraff 2 (1) (a) o'r Atodlen honno yn berthnasol iddo, ac sydd yn ymddygiad trwyddedadwy at ddibenion y Ddeddf honno (gweler adran 3 (2) o'r Ddeddf honno),a

        (B) paragraff 8 (5) o'r Atodlen honno (dehongli cyfeiriadau at achlysur) yn berthnasol fel y mae'n berthnasol mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Atodlen honno.

  •  Adeiladau Cymunedol gydag Alcohol

    Rhaid i'r gwaith o gyflenwi unrhyw alcohol o dan y drwydded safle gael ei wneud neu ei awdurdodi gan y pwyllgor rheoli.

 

 

Ffioedd

Y ffi am ddatganiad dros dro yw£ 315.00. Ni ellir ad-dalu'r ffi hon.

 

Yn dilyn cymeradwyo datganiad dros dro, bydd rhaid i'r ymgeisydd neu ymgeiswyr ar ryw adeg yn dilyn cwblhau gwaith ac ati, wneud cais am drwydded safle yn barod ar gyfer dechrau masnachu.


Dylid nodi os yw'r cais am drwydded safle yn adlewyrchu'r manylion yn y datganiad dros dro a gymeradwywyd heb newidiadau sylweddol, oni bai bod sylwadau perthnasol gan gyrff cyfrifol a phartïon â diddordeb wedi dod i law ar yr adeg y cais am ddatganiad dros dro, nad oes modd eu hystyried eto .

 

Byddai hyn ond yn bosibl os ystyrir gan yr awdurdod trwyddedu bod y cais am drwydded safle yn wahanol iawn o ran uchelgais ac yna y gall sail newydd dros gyflwyno sylwadau fod yn berthnasol. 

 

Gwybodaeth Atodol 

  •  Cynllun Safle

    Rhaid i gynllun safle ddefnyddio'r raddfa safonol - 1mm = 100mm (oni bai y cytunwyd yn flaenorol gan y Cyngor mewn fformat arall). Hefyd, o ddewis byddai'n well gan y Cyngor gael cynlluniau nad ydynt yn fwy na maint A3.

     

    Bydd y cynllun safle yn cynnwys y canlynol:

    • lleoliad a maint ffiniau'r adeilad, os yn berthnasol, ac unrhyw waliau allanol a mewnol sydd wedi'u cynnwys yn y safle, neu ymae'r safle wedi'i gynnwys ynddo 
    • lleoliad mynedfeydd ac allanfeydd y safle
    • os yn wahanol i'r uchod, lleoliad llwybrau dianc o'r safle
    • mewn achosion lle mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy nag un gweithgaredd trwyddedadwy, yr ardal o fewn y safle a ddefnyddir ar gyfer pob gweithgaredd
    • strwythurau sefydlog (gan gynnwys dodrefn) neu wrthrychau dros dro tebyg mewn lleoliad penodedig (ond nid dodrefn) a allai effeithio ar allu unigolion ar y safle i ddefnyddio allanfeydd neu lwybrau dianc heb rwystr
    • os yw'r adeilad yn cynnwys llwyfan neu ardal ddyrchafedig, lleoliad ac uchder pob llwyfan neu ardal ddyrchafedig mewn perthynas â'r llawr
    • os yw'r adeilad yn cynnwys unrhyw ystafell neu ystafelloedd sy'n cynnwys cyfleusterau cyhoeddus, lleoliad unrhyw rai o'r rhain
    • lleoliad a math unrhyw offer diogelwch tân ac unrhyw offer diogelwch arall, gan gynnwys, os yw'n berthnasol, offer diogelwch morol; a
    • lleoliad cegin, os o gwbl, ar y safle. Gall y cynllun gynnwysglurhad o leoliad ar ffurf symbolau.

     

  •  Atodlen Waith

    Dogfen y mae'n rhaid iddi gynnwys y wybodaeth ganlynol yw atodlen waith:

    • datganiad a wnaed gan neu ar ran yr ymgeisydd gan gynnwys manylion y safle y mae'r cais yn ymwneud ag ef a'r gweithgareddau trwyddedadwy y bwriedir eu cynnal yno  
    • cynlluniau o'r gwaith sy'n cael ei wneud neu ar fin cael ei wneud ar y safle

     

  •  Hysbysiad

    I hysbysebu'r cais, rhaid i'r ymgeisydd ddangos hysbysiad clir sy'n hafal i neu'n fwy na maint A4 (ar bapur glas golau) wedi'i argraffu'n ddarllenadwy mewn inc du neu wedi'i deipio yn ddu mewn maint ffont sy'n hafal i neu'n fwy na maint 16. Dylid arddangos hwn yn union ar y safle neu y tu allan iddo am gyfnod heb fod yn llai nag wyth diwrnod ar hugain yn olynol gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynwyd y cais i Gyngor Bro Morgannwg ac yn ystod y cyfnod y gall partïon â diddordeb gyflwyno sylwadau arno.

     

    O ran safleoedd ag wyneb blaen sy'n ymestyn mwy na 50 metr o hyd i'r briffordd, dylid arddangos yr Hysbysiad bob 50 metr.

     

    Yn ogystal, mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur lleol. Dylid gwneud hyn ar un achlysur o leiaf yn ystod y cyfnod o 10 diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynwyd y cais i Gyngor Bro Morgannwg.

     

    Dylai'r Hysbysiad gynnwys crynodeb byr o'r cais gan nodi'r manylion canlynol:

    • gweithgareddau trwyddedadwy perthnasol arfaethedig i'w cynnal ar y safle neu o'r safle
    • enw'r ymgeisydd
    • cyfeiriad post y safle, os oes un, neu os nad oes cyfeiriad post gan y safle, disgrifiad o'r safle hwnnw sy'n ddigonol i alluogi'r gwaith o adnabod lleoliad a maint y safle
    • y cyfeiriaid post a, lle y bo'n berthnasol, y cyfeiriad  gwe fyd-eang lle cedwir cofrestr Cyngor Bro Morgannwg a’r man y gellir archwilio'r cofnod o'r cais
    • y dyddiadau rhyngddynt y gall parti â diddordeb ac awdurdod cyhoeddus gyflwyno sylwadau i Gyngor Bro Morgannwg
    • datganiad yn nodi bod rhaid cyflwyno sylwadau'n ysgrifenedig
    • datganiad yn nodi ei bod yn drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n esgeulus mewn cysylltiad â chais, ac y gall person gael ei ddirwyo hyd at £5,000 ar sail collfarn ddiannod.

     

 

 

 

Cwynion a Chamau Unioni Eraill

  •  Cais a Fethwyd - Unioni Cam

    Dylech gysylltu â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson y mae’r penderfyniad i wrthod rhoi trwydded yn peri gofid iddo wneud cais i’r Llys Ynadon a all gyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y cais neu ei amodau fel y barna sy'n ddoeth.

  •  Deiliad Trwydded - Unioni Cam

    Dylech gysylltu â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson y mae’r penderfyniad i wrthod rhoi trwydded yn peri gofid iddo wneud cais i’r Llys Ynadon a all gyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y cais neu ei amodau fel y barna sy'n ddoeth.

  •  Cwynion gan Gwsmeriaid

    Byddem yn cynghori os oes cwyn gennych y dylech gysylltu yn y lle cyntaf â’r masnachwr, o ddewis, drwy lythyr gyda thystiolaeth ei fod wedi’i bostio. 

     

    Os na lwyddodd hynny a’ch bod yn y DU bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.    

     

     

    Os oes gennych gŵyn mewn cysylltiad â lleoliad ledled Ewrop cysylltwch â’r UK European Consumer Centre.

  •  Camau Eraill

    Gall prif swyddog heddlu yr ardal y lleolir y safle ynddo wneud cais i'r awdurdod trwyddedu i gynnal adolygiad o’r drwydded os yw’r safle wedi’i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch swyddog wedi rhoi tystysgrif yn datgan ei fod o’r farn bod y safle yn gysylltiedig ag un ai trosedd difirfol neu anrhefn neu’r ddau. Cynhelir gwrandawiad a gall deiliad y drwydded a partïon eraill â diddordeb gyflwyno sylwadau..

     

    Gall prif swyddog heddlu gyflwyno hysbysiad i’r awdurdod trwyddedu os ydyw o’r farn y gallai trosglwyddo trwydded i rywun arall, dan amrywiad i gais, danseilio amcanion atal trosedd. Dylid cyflwyno’r hysbysiad dan sylw cyn pen 14 diwrnod o gael eu hysbysu o’r cais..

     

    Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol gyflwyno sylwadau mewn perthynas â chais am drwydded neu ofyn i’r corff trwyddedu adolygu trwydded.

     

    Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu’r drwydded safle.. Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cynnal awdurdod trwyddedu.

     

    Gall prif swyddog heddlu ofyn i'r awdurdod trwyddedu gynnal adolygiad ar y drwydded os yw’r safle wedi'i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch swyddog o'r heddlu wedi cyflwyno tystysgrif yn datgan, yn ei farn ef, bod y safle yn gysylltiedig â throsedd difrifol, anrhefn neu'r ddau.

     

    Gall parti â diddordeb neu awdurdod perthnasol a gyflwynodd sylwadau apelio yn erbyn rhoi trwydded neu yn erbyn unrhyw amod, amrywiad, gweithgarwch trwyddedadwy neu benderfyniad gan orchwylydd safle.

     

    Rhaid cyflwyno apeliadau i Lys Ynadon cyn pen 21 diwrnod o’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o benderfyniad

 

 

Rheoliadau a Chanllawiau

Rheoliadau