Cost of Living Support Icon

Cychod Pleser

Os ydych yn dymuno gweithredu cwch pleser neu long bleser yn cario teithwyr ar er mwyn ei hurio, rhaid i chi gael trwydded briodol gan un ai’r Asiantaeth y Môr a Gwylwyry  y Glannau neu Gyngor Bro Morgannwg. Cysylltwch â’r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf i sicrhau y cyflwynir cais am y drwydded a'r lleoliad cywir.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

I ymgeisio am drwydded Cwch Pleser rhaid cyflwyno’r canlynol:

  • Ffurflen gais
  • Ffi perthnasol
  • Tystysgrif addas i’r môr
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus

Rhaid i ymgeiswyr gysylltu ag arolygydd morwrol sy'n gymeradwy yn ôl awdurdod penodol i drefnu arolwg o gorff a pheiriant y llong. Bydd gofyn i’r ymgeisydd dalu am hyn.
 
Rhaid i’r arolygydd morwrol cymeradwy lenwi a llofnodi’r tystysgrif addas i’r môr.
 
Wrth gyflwyno cais, bydd gofyn i'r Cyngor weld tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys sydd o leiaf £2 filiwn.
 
Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded llong i weithredu cwch pleser, rhaid i'r Cyngor fod wedi'i argyhoeddi bod y llong yn ddiogel. Byddwn yn archwilio’r llong a’i gyfleusterau i sicrhau ei bod mewn cyflwr da, yn addas i’r môr ac yn cynnwys yr holl offer diogelwch priodol.
 
Caiff trwyddedau eu cyflwyno am gyfnod o flwyddyn; fodd bynnag at ddibenion diogelwch cyhoeddus, efallai bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyfyngu pob trwydded i gyfnod gweithredu tymhorol. Mae’r cyfnod hwn rhwng 1 Ebrill (a dydd Gwener y Groglith os yw’r dyddiad hwnnw cyn 1 Ebrill) a 31 Hydref.

 

Sylwch fod rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 18 oed cyn gwneud cais.

 

Cydsyniad Tawel

Na fydd. Er budd y cyhoedd, rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol o amser, cysylltwch â ni.
 
Y cyfnod amser targed yw 70 diwrnod calendr.

 

Background and Eligibility Criteria

Dan Section 94 of the Public Health Acts Amendment Act 1907 (as amended) mae gan Gyngor Bro Morgannwg bwerau i gyflwyno trwyddedau cychod pleser a llongau pleser.

 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno trwyddedau ar gyfer cychod pleser sy’n cario dim mwy na 12 o deithwyr, sydd o dan 24 metr o ran hyd y linell lwytho, ac nad ydynt yn gweithredu y tu allan i ddŵr sydd wedi'i gategoreiddio (h.y. dŵr nad yw'n cael ei gydnabod yn 'fôr').

 

Categorïau Dŵr
Categori A:  Afonydd a chamlesi cul ble nad yw dyfnder y dŵr dros 1.5 metr yn gyffredinol.
 
Categori B:  Afonydd a chamlesi lletach ble mae dyfnder y dŵr fel arfer dros 1.5 metr a ble na ddylid disgwyl i uchder y tonnau fod yn uwch na 0.6 metr ar unrhyw adeg.
 
Categori C:  Afonydd ac ebyr tonnog a llynnoedd mawr a dwfn neu loch ble na ddylid disgwyl i uchder y tonnau fod yn uwch na 1.2 metr ar unrhyw adeg.
 
Rhaid i Longau Bach sy’n gweithredu’n fasnachol dan Fflag Prydain neu mewn dyfroedd Prydeinig gydymffurfio â Rheoliadau Cludo Masnachol neu God Ymarfer MCA. Ar hyn o bryd, ceir 4 cod ar gyfer Llongau Bach (hyd at 24m).
 
Tynnir eich sylw at Diogelwch Llongau Bychan at Ddibenion Masnachol ar gyfer Gweithredu oherwydd Chwaraeon neu Bleser o bwynt Gadael Penodol (y Cod Coch). Mae’r cod ymarfer hwn yn cynnwys adeiladu, peirianneg, offer, sefydlogrwydd, gweithrediad, gweithwyr, archwilio, ardystiad a chynnal a chadw llongau sydd â hyd llinell lwytho o hyd at 24 metr a gaiff eu defnyddio'n fasnachol at ddibenion chwaraeon neu bleser nad ydynt yn cario mwy na 12 o deithwyr na chargo, ac sy'n gweithredu mewn tywydd braf yn unig ac yn ystod y dydd o bwynt cychwyn penodol.
 
Sylwch fod rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 18 oed cyn gwneud cais.

 

Amodau

Rhaid i unrhyw ymgeisydd neu ddeiliad trwydded gydymffurfio ag is-ddeddfau Bro Morgannwg.
 
Mae is-ddeddfau’n ymwneud â Penarth ac is-ddeddfau’n ymwneud â’r Barri.
 
Gall trwyddedau gael eu hatal neu eu diddymu gan Gyngor Bro Morgannwg os ydynt yn credu bod angen gwneud hynny er budd y cyhoedd.

 

Ffioedd

Cysylltwch â’r Adran Drwyddedu i gael gwybodaeth am ffioedd
 
Rhaid i'r ymgeisydd dalu am Dystysgrif Addas i'r Môr.

 

Gwybodaeth Ategol

Eithriadau

Ym mis Mawrth 2010 gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol eithriad sy'n golygu nad yw'r rheoliadau penodol yn berthnasol i rai llongau.

MCA letter of exemption.

 

Categorïau cychod
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno trwyddedau i gychod yn y ddau gategori canlynol:
 
Categori 1:
Cychod bychain gan gynnwys fflôt glan y mor, pedalo, canŵ, offer sgïo-dŵr, byrddau syrffio pŵer, llong hofran yr ydych chi’n ei gyrru, byrddau hwylio, cychod modur yr ydych chi’n eu gyrru, jetsgi ac offer para-esgyn a fydd ar gael i'w hurio gan fadwr trwyddedig neu beidio.
 
Categori 2:
Cychod bychain y mae badwr trwyddedig yn eu rheoli a fydd ar gael i'w hurio neu i'w gosod i'w hurio (e.e. ar gyfer pysgota neu dripiau twristiaeth).
 
Yn ychwanegol i hyn, caiff y Cyngor ganllawiau gan y Cod Chychod Teithwyr Bychan Dŵr Mewndirol a gynhyrchwyd gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Sefydliad Awdurdodau Mordwyo Mewndirol. Awgrymir y dylai ymgeiswyr ddefnyddio’r ddogfen hon ar gyfer unrhyw ganllawiau ychwanegol all fod eu hangen arnynt.

 

Yswiriant
Awgrymir yn gryf y dylai perchennog/asiant rheoli llong sefydlu polisi yswiriant ar gyfer pob person sydd ynghlwm wrth weithrediad y llong o bryd i'w gilydd. Rhaid i yswiriant o’r fath gynnwys amodau sy'n rhesymol ar gyfer hawliadau all godi.
 
Wrth gyflwyno cais, bydd gofyn i'r Cyngor weld tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys sydd o leiaf £2 filiwn.
 
Rhaid arddangos copi o’r tystysgrif yswiriant neu rhaid iddi fod ar gael i'w archwilio gan bobl sydd ar y llong.
 
Mae’r Cyngor hefyd yn argymell yswiriant trydydd parti, fodd bynnag bydd hyn yn destun barn y perchennog/asiant rheoli.

 

Troseddau a Dirwyon

Bydd pobl sy’n torri darpariaethau adran 94 y Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 yn agored i drosedd Lefel 3 ar y raddfa safonol (£1,000 ar hyn o bryd).

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni ar ôl Gwrthod Cais

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Bydd unrhyw berson sy’n anfodlon ar beidio â chael trwydded yn gallu apelio i’r Llys Ynadon, a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau iddo ynghylch y drwydded neu ei amodau fel mae’n credu sy’n briodol.

  •  Deiliad y Drwydded yn Unioni

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf: 

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Bydd unrhyw berson sy’n anfodlon ar beidio â chael trwydded yn gallu apelio i’r Llys Ynadon, a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau iddo ynghylch y drwydded neu ei amodau.
     
    Bydd unrhyw berson sy’n dweud nad ydyw’n hapus oherwydd atal, diddymu neu beidio â rhoi unrhyw drwydded dan ddarpariaethau’r adran hon yn gallu apelio i lys sesiynol bach a fydd yn cael ei gynnal ar ôl dau ddiwrnod o atal, diddymu neu beidio â rhoi’r drwydded.
     
    Bydd gofyn i’r person anfodlon roi rhybudd ysgrifenedig o 24 awr o apêl o’r fath, a’r rheswm tu ôl iddi, i brif weithredwr ynadon y llys. Bydd gan y llys y grym i greu gorchymyn fel sy’n briodol yn eu barn nhw ac i roddi arian. Bydd costau o’r fath i’w hadennill yn raddol fel dyled sifil.

  •  Cwyn Cwsmer

    Hoffwn argymell eich bod yn cysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf os oes gennych gwyn, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf cyflawni. 
     
    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.    
     
    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â UK European Consumer Centre.