Cost of Living Support Icon

Hypnotiaeth

Mae hypnotiaeth yn cynnwys hypnotiaeth, mesmeriaeth, ac unrhyw weithred debyg neu broses sy'n cynhyrchu neu y bwriedir iddi gynhyrchu mewn unrhyw berson unrhyw fath o gwsg neu lesmair lle mae tueddiad meddwl y person hwnnw i awgrym neu gyfarwyddyd yn cael ei gynyddu neu y bwriedir iddo gael ei gynyddu.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y broses ymgeisio

Rhaid i gais am ganiatâd i gynnal arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hypnotiaeth gael ei wneud gan yr ymgeisydd neu ei h/asiant.

 

Rhaid cael y ffi ofynnol gyda’r cais.

 

Rhaid i ymgeiswyr wneud cais mewn da bryd er mwyn sicrhau bod y cyfnod ymgynghori a, lle bo angen, y gwrandawiad pwyllgor yn cael ei gynnal cyn y perfformiad. Mewn achosion lle mae’r hypnotydd wedi perfformio yn yr un lleoliad o fewn y tair blynedd diwethaf heb unrhyw broblemau, gall y cyfnod hwn gael ei leihau.

 

Wrth wneud cais, rhaid i'r ymgeisydd ar yr un pryd anfon copi o'r cais i Brif Swyddog yr Heddlu ac i'r Awdurdod Tân lleol.

Yna bydd cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod yn cychwyn.

 

Bydd Awdurdodi yn parhau ar gyfer cyfnod y perfformiad neu berfformiadau yn y lleoliad penodol hwnnw.

 

Caniatâd dealledig

Na. Mae er budd y cyhoedd bod yr awdurdod yn gorfod prosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

 

Yr amser targed yw 28 diwrnod calendr 

 

Gall hyn gael ei ymestyn os oes gwrandawiad pwyllgor i gael ei gynnal.

 

Meini Prawf Cefndir a Chymhwyster

Noda Deddf Hypnotiaeth 1952 na fydd neb yn rhoi arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hypnotiaeth ar unrhyw berson byw mewn adloniant, neu mewn cysylltiad ag adloniant, y mae’r cyhoedd yn cael ei fynychu, p’un a yw hynny drwy dalu neu fel arall, mewn unrhyw le oni bai bod yr awdurdod rheoli wedi awdurdodi’r arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hwnnw 

 

  •  Yr Ymgeisydd

    Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi cael eu gwrthod yn flaenorol, neu wedi cael tynnu caniatâd yn ôl, gan unrhyw awdurdod trwyddedu neu ei gollfarnu o drosedd o dan Ddeddf Hypnotiaeth 1952 neu o drosedd yn ymwneud â thorri amod sy’n rheoleiddio neu’n gwahardd rhoi perfformiad o hypnotiaeth ar unrhyw berson mewn man trwyddedig ar gyfer adloniant cyhoeddus.

    Nid yw gwrthod caniatâd gan awdurdod arall o reidrwydd yn dangos bod yr hypnotydd penodol yn annerbyniol, ac ynddo'i hun ni fydd yn niweidio'r cais. 

  • Eithriad

    Ni fydd unrhyw beth yn y Ddeddf Hypnotiaeth 1952 yn atal arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hypnotiaeth (heblaw mewn adloniant neu mewn cysylltiad ag adloniant) at ddibenion gwyddonol neu ymchwil neu ar gyfer trin clefyd meddyliol neu gorfforol.

    Nid yw'r angen i gael caniatâd yn berthnasol i arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hypnotiaeth sy'n digwydd yn ystod perfformiad o ddrama (o fewn ystyr Deddf Theatrau 1968) a roddwyd naill ai mewn eiddo sydd â thrwydded gyfredol o dan y Ddeddf, neu o dan awdurdod unrhyw lythyrau patent o'r fath a grybwyllir yn adran 17 (1) o'r Ddeddf honno. 

   

 

Amodau

 

  • Cyhoeddusrwydd

    Ni chaniateir arddangos, gwerthu na chyflenwi poster, hysbyseb neu raglen ar gyfer y perfformiad, sy'n debygol o achosi tramgwydd cyhoeddus, gan neu ar ran y trwyddedai naill ai ar y safle neu mewn man arall;

     

    Bydd pob poster, rhaglen hysbyseb ar gyfer y perfformiad sy'n cael ei arddangos, ei werthu neu ei gyflenwi yn cynnwys, yn glir ac yn ddarllenadwy, y datganiad canlynol:

    Gall gwirfoddolwyr, y mae'n rhaid iddynt fod yn 18 oed neu'n hŷn, wrthod ar unrhyw adeg i barhau i gymryd rhan yn y perfformiad.

  • Yswiriant

    Bydd y perfformiad yn cael ei gynnwys i lefel resymol o dan yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Rhaid i'r hypnotydd ddarparu tystiolaeth o hyn i'r awdurdod lleol os gofynnir amdano; a rhaid iddo fod ar gael i'w archwilio yn y perfformiad. 

  • Trefniadau ffisegol

    Rhaid i'r fynedfa i gyfranogwyr rhwng yr awditoriwm a'r llwyfan gael eu goleuo'n briodol a bod yn rhydd o rwystrau.

     

    Bydd llinell wen neu felyn barhaus yn cael ei darparu ar lawr unrhyw lwyfan dyrchafedig ar bellter diogel oddi wrth yr ymyl. Bydd y llinell yn rhedeg yn gyfochrog ag ymyl y llwyfan ar gyfer ei led gyfan. Rhaid i'r hypnotydd ddweud wrth bawb sy’n cymryd rhan na chânt groesi'r llinell tra’u bod o dan hypnosis, oni bai y dywedir yn benodol wrthynt am wneud hynny fel rhan o'r perfformiad.

  • Triniaeth o’r Gynulleidfa a Chyfranogwyr 

    Cyn cychwyn y perfformiad bydd yr hypnotydd yn rhoi datganiad i'r gynulleidfa, mewn modd difrifol, yn nodi’r grwpiau hynny o bobl na ddylai wirfoddoli i gymryd rhan ynddo; esbonio'r hyn y gofynnir i wirfoddolwyr ei gyflawni; hysbysu'r gynulleidfa am y risgiau posibl o embaras neu bryder; a phwysleisio y gall gwirfoddolwyr roi’r gorau i gymryd rhan ar unrhyw adeg y maent yn dymuno. 

     

    Mae'r canlynol yn ddatganiad a awgrymir, a allai gael ei ddiwygio yn ôl yr angen i fod yn addas ar gyfer arddulliau unigol, cyhyd ag y bo'r neges gyffredinol yn parhau i fod yr un fath;

     

    “Byddaf yn chwilio am wirfoddolwyr dros 18 oed sy'n barod i gael eu hypnoteiddio a chymryd rhan yn y sioe. Dylai unrhyw un sy'n dod ymlaen fod yn barod i gymryd rhan mewn amrywiaeth o awgrymiadau hypnotig difyr, ond gallant fod yn sicr na fydd gofyn iddynt wneud unrhyw beth sydd yn anweddus, sarhaus neu niweidiol. 

     

    Mae angen i wirfoddolwyr fod mewn iechyd corfforol a meddyliol normal ac mae'n rhaid i mi ofyn i bobl sydd â hanes o salwch meddwl, sydd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau eraill, neu’n feichiog, beidio â gwirfoddoli.”

     

    Ni chaniateir defnyddio unrhyw fath o orfodaeth i berswadio aelodau o'r gynulleidfa i gymryd rhan yn y perfformiad. Yn benodol, ni fydd hypnotyddion yn defnyddio technegau dethol sy'n ceisio nodi a gorfodi aelodau mwyaf hygoelus y gynulleidfa ar y llwyfan, heb eu gwybodaeth flaenorol o'r hyn a fwriedir. 

     

    Dim ond pan fydd y gynulleidfa yn gwbl ymwybodol o'r hyn a fwriedir a bod cyfranogiad yn gwbl wirfoddol yn ystod pob cam y gellir gwneud unrhyw ddefnydd o dechnegau dethol o'r fath (e.e. gofyn i aelodau o'r gynulleidfa blethu eu dwylo a gofyn i’r rhai nad ydynt yn gallu eu rhyddhau ddod i'r llwyfan;

     

    Os yw gwirfoddolwyr yn aros wedi’u hypnoteiddio yn ystod egwyl yn y perfformiad, bydd nifer rhesymol o hebryngyddion, fel y cytunwyd gyda'r awdurdod trwyddedu, yn bresennol drwy gydol yr amser er mwyn sicrhau eu diogelwch.

     

  • Camau gwaharddedig

    Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal mewn modd nad yw’n debygol o achosi tramgwydd i unrhyw berson yn y gynulleidfa neu unrhyw wirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio;

     

    Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal mewn modd nad yw’n debygol o achosi niwed, pryder neu drallod i unrhyw berson yn y gynulleidfa neu unrhyw wirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio. Yn benodol, ni fydd y perfformiad yn cynnwys:

    - unrhyw awgrym sy'n ymwneud ag atchweliad oedran gwirfoddolwr (h.y. gofyn i'r gwirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio fynd yn ôl i adeg gynharach yn eu bywyd; nid yw hyn yn gwahardd yr hypnotydd rhag gofyn i’r gwirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio weithredu fel pe bai’n blentyn ac ati)

     - unrhyw awgrym bod y gwirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio wedi colli rhywbeth (e.e. rhan o'r corff) a fyddai, petai’n digwydd yn wir, yn achosi cryn drallod

     - unrhyw arddangosiad lle mae'r gwirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio yn cael ei gynnal dros dro rhwng cynhalwyr (a elwir yn "farwgwsg)

     - defnyddio/llyncu unrhyw sylwedd niweidiol neu wenwynig

     - unrhyw arddangosiad o bŵer hypnosis i rwystro poen (e.e. gwthio nodwydd drwy'r croen)

     

    Ni fydd y perfformiad yn cynnwys rhoi hypnotherapi nac unrhyw fath arall o driniaeth.

  • Cwblhau

    Bydd pob gwirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio yn aros ym mhresenoldeb yr hypnotydd ac yn yr ystafell lle mae'r perfformiad yn digwydd nes bod yr holl awgrymiadau hypnotig wedi cael eu dileu;

     

    Bydd yr holl awgrymiadau hypnotig neu ôl-hypnotig yn cael eu dileu’n gyfan gwbl o feddwl y gwirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio a'r gynulleidfa cyn i’r perfformiad ddod i ben. Bydd yr awgrymiadau yn cael eu dileu yn unigol ac ar y cyd, a bydd yr hypnotydd yn cadarnhau gyda phob gwirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio ei fod yn teimlo'n dda ac ymlaciol (nid yw’r cyfyngiad ar awgrymiadau ôl-hypnotig yn atal yr hypnotydd rhag dweud wrth wirfoddolwr sydd wedi’i hypnoteiddio y bydd yn teimlo'n dda ac ymlaciol ar ôl i’r awgrymiadau gael eu dileu);

     

    Bydd yr hypnotydd yn parhau i fod ar gael am o leiaf 30 munud ar ôl y sioe i helpu i ddelio ag unrhyw broblemau a allai godi. (Gallai cymorth o'r fath fod ar ffurf sicrwydd mewn achos o gur pen neu'r bendro, ond nid yw’r amod hwn yn awgrymu bod yr hypnotydd yn berson priodol i drin unrhyw un sydd fel arall yn sâl.)

     

  • Mynediad awdurdodedig

    Ble mae gan:

    - Cwnstabl

    - Swyddog awdurdodedig yr awdurdod trwyddedu

    - Swyddog awdurdodedig yr awdurdod tân 

    reswm dros gredu bod perfformiad yn cael ei roi, neu ar fin cael ei roi, gall fynd i mewn i'r lleoliad gyda golwg ar weld p’un a gydymffurfir ag amodau’r caniatâd ar gyfer y perfformiad ai peidio.

 

 

Ffioedd

Y ffi ar gyfer caniatâd yw £154.00

 

Tramgwyddau a Chosbau

Gall person sy'n rhoi unrhyw arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hypnotiaeth heb gael caniatâd, neu ei wneud yn y fath fodd fel ei fod yn torri unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodiad, ar gollfarn ddiannod, fod yn agored i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1000 ar hyn o bryd).


Mae person sy'n rhoi arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hypnotiaeth ar berson nad yw wedi cyrraedd deunaw oed mewn adloniant neu mewn cysylltiad ag adloniant y mae’r cyhoedd yn cael ei fynychu, p’un ai drwy dalu neu fel arall, oni bai ei fod ganddo reswm rhesymol i gredu bod y person hwnnw wedi cyrraedd yr oedran hwnnw, bydd, ar gollfarn ddiannod, yn agored i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

 

Cwynion ac Iawn Arall

Iawn pan fo Cais yn Methu: Cysylltwch â’r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Iawn i Ddeiliad Trwydded: Cysylltwch â’r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Cwynion Defnyddwyr: Edrychwch ar ein tudalen cwynion defnyddwyr.