Cost of Living Support Icon

Sŵau

Mae Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 yn diffinio “sw” fel sefydliad lle mae anifeiliaid gwyllt yn cael eu cadw i’w harddangos i’r cyhoedd, ac eithrio syrcas a siopau anifeiliaid anwes (mae angen trwyddedau gwahanol ar gyfer y rhain). Mae’r ddeddf hon yn berthnasol i unrhyw sw y mae aelodau o’r cyhoedd yn cael mynediad iddo, gyda neu heb ffi fynediad, ar fwy na saith diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

Ffurflenni Cais

 

Y Broses Ymgeisio

Os ydych yn ystyried sefydlu sw, dylech gysylltu â'r awdurdod trwyddedu yn y lle cyntaf am gyngor ac arweiniad.  Rhaid i chi gyflwyno hysbysiad o'ch bwriad i ymgeisio. Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi ar y safle a’i gyhoeddi mewn papur newydd lleol a chenedlaethol.  Gellir ymgeisio am ddeufis ar ôl rhoi hysbysiad.
Rhaid i’r hysbysiad i’r awdurdod lleol gael ei gyflwyno gyda:

  • Ffurflen gais berthnasol
  • Cynllun safle/lleoliad
  • Cynllun yn dangos gosodiad arfaethedig y sw
  • Caniatâd cynllunio
  • Cynllun lletya anifeiliaid
  • Cynllun o fynedfeydd ac allanfeydd
  • Rhestr stoc
  • Hysbysiad i’r wasg
  • Tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • Tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyflogwr

Ar ôl i’r cyfnod rhybudd o ddeufis basio, gellir cyflwyno cais gyda:

  • Ffi berthnasol
  • Ffurflen gais berthnasol
  • Hysbysiad o fwriad a gyhoeddwyd yn y wasg
  • Hysbysiad o fwriad a arddangoswyd ar y safle
  • Rhestr stoc ddiwygiedig

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori â’r heddlu, yr awdurdod tân, corff llywodraethu unrhyw sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud â sŵau, yr awdurdod ffiniol os yw’r sw yn ardal yr awdurdod hwnnw, ac unrhyw berson sydd am wrthwynebu ar sail effaith niweidiol honedig ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw yn yr ardal.
 
Bydd yr awdurdod yn trefnu archwiliad gan archwilydd ymgynghorol allanol o’r rhestr o archwilwyr addas a enwebwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
 
Cyn y gall Cyngor Bro Morgannwg ganiatáu trwydded ar gyfer sw yn ei ardal, rhaid iddo fod yn fodlon:

  • na fydd y sefydliad yn cael effaith niweidiol ar iechyd a diogelwch pobl sy’n byw yn y gymdogaeth
  • na fydd y sefydliad yn effeithio ar gyfraith a threfn
  • bod y llety, y staff a’r trefniadau rheoli yn briodol mewn perthynas â gofal a lles yr anifeiliaid

Bydd yr archwilydd yn llunio adroddiad o’i ganfyddiadau ac, yn seiliedig ar yr adroddiad ac unrhyw ystyriaethau eraill, bydd yr awdurdod lleol yn caniatáu neu’n gwrthod trwydded. Gall y broses hon gynnwys penderfyniad gan Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor. Os caiff trwydded ei gwrthod, bydd y gweithredwr yn cael datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros wrthod.

 

Trwyddedau

Bydd pob trwydded wreiddiol yn rhedeg am bedair blynedd. Bydd adnewyddiadau olynol yn rhedeg am chwe blynedd. Gallai unrhyw yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y safle fod yn annilys os byddwch yn methu â gwneud cais i adnewyddu neu'n cyflwyno cais yn hwyr.
Rhaid arddangos copi o'r drwydded yn holl fynedfeydd cyhoeddus y sefydliad. 


Gall newidiadau i’r drwydded, er enghraifft newid enw, a newidiadau o ran perchnogaeth gael eu gwneud ar gais y gweithredwr, a gall trwydded gael ei throsglwyddo i berson arall gyda chaniatâd Cyngor Bro Morgannwg.


Os bydd deiliad trwydded yn marw, cynrychiolwyr personol yr ymadawedig fydd y deiliaid am gyfnod o dri mis wedi’r farwolaeth, neu’n hirach gyda’n cymeradwyaeth. 

 

Ar gyfer sŵau bach neu sw sydd ond yn arddangos nifer fach o wahanol fathau o anifeiliaid, bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i lacio gofynion y Ddeddf. Gall yr awdurdod lleol ofyn i’r Ddeddf beidio â bod yn berthnasol o gwbl (Adran 14(1)(a)) neu i hepgor categori archwilio penodol (Adran 14(1)(b)).


Fel arall, gall gweithredwr y sw, wrth wneud cais i’r Ysgrifennydd Gwladol am drwydded sw, gael goddefeb (Adran 14(2)) i leihau nifer yr archwilwyr i lefel resymol ar gyfer sefydliad bach. Ni fydd hyn yn cwtogi rhwymedigaethau’r sw i gyrraedd y lefelau lles anifeiliaid a diogelwch y cyhoedd a nodir yn Safonau’r Ysgrifennydd Gwladol.

 

Adnewyddu
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi o leiaf naw mis o rybudd i ddeiliad y drwydded o ddyddiad dod i ben y drwydded. Dylai’r cais i adnewyddu’r drwydded gael ei wneud o leiaf chwe mis cyn dyddiad dod i ben y drwydded. Os caiff cais ei wneud o leiaf chwe mis cyn i’r drwydded ddod i ben, gall Cyngor Bro Morgannwg ymestyn trwydded heb archwiliad am hyd at chwe blynedd, yn dechrau ar ddyddiad dod i ben y drwydded wreiddiol.

 

Cydsyniad Mud

Ddim yn berthnasol. Mae er budd i’r cyhoedd i’r awdurdod brosesu eich cais cyn ei ddyfarnu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.
 
Y cyfnod amser targed yw 90 diwrnod calendr.
 
Bydd yr hysbysiad cychwynnol o fwriad i ymgeisio yn rhoi cyfnod o 2 fis i’r awdurdod wneud trefniadau angenrheidiol i fynd i’r afael â chamau nesaf y broses.
 
O ystyried cymhlethdod y broses drwyddedu, nid yw'n bosibl cynnig yr union amser ar gyfer caniatáu neu wrthod trwydded. Bydd amserlenni’n amrywio yn ôl maint a natur pob cais unigol. Gall sylwadau a geir yn y cyfnod ymgynghori ac yn adroddiad yr archwilwyr amrywio’n fawr, a gallai fod angen cyflwyno rhai ceisiadau gerbron Pwyllgor Trwyddedu’r Cyngor er mwyn dod i benderfyniad.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Mae trwyddedu sŵau yn faes arbenigol ac mae’r rheoliadau’n gymhleth. Rydyn ni’n gweithio'n agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Cliciwch ar Safonau Arferion Sw Modern yr Ysgrifennydd Gwladol i weld manylion y ddeddfwriaeth.

 

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn gosod dyletswydd am ofal a lles anifail ar y bobl sy'n gyfrifol am yr anifail, boed hynny ar sail dros dro neu barhaol.

 

Gall Cyngor Bro Morgannwg wrthod trwydded os yw’r ymgeisydd neu, pan fo’r ymgeisydd yn gorff corfforaethol, y corff neu unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg yn y corff, neu unrhyw berson a gyflogir fel ceidwad yn y sw, wedi’i gyhuddo o drosedd dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981 neu dan unrhyw rai o’r canlynol am unrhyw drosedd arall yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid:

  • Deddfau Diogelu Anifeiliaid 1911 i 1964
  • Deddfau Diogelu Anifeiliaid (Yr Alban) 1912 i 1964
  • Deddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970
  • Deddf Bridio Cŵn 1973
  • Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976
  • Deddf Rhywogaethau Mewn Perygl (Mewnforio ac Allforio) 1976
  • Rhan I Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

 

 

Amodau

Gellir cael copi o’r amodau trwydded ar gais.

 

Ffioedd

Y ffi ymgeisio yw £1200
         
Bydd angen i'r ymgeisydd dalu unrhyw ffioedd milfeddygol cysylltiedig ar gyfer archwilwyr a enwebir gan DEFRA.

 

Gwybodaeth Ategol

 
Cynllun Llety Anifeiliaid – Rhaid i’r cynllun ddod gyda nodiadau disgrifiadol ar y manylion y mae’n eu cynnwys.
 
Cynllun Mynedfeydd ac Allanfeydd – Rhaid i’r cynllun ddod gyda nodiadau disgrifiadol ar y manylion y mae’n eu cynnwys.
 
Gofynion cynllunio - Bydd angen i ymgeisydd am drwydded ystyried p’un a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgareddau trwyddedig arfaethedig. Dylai gysylltu â’r adran gynllunio.
 
Archwiliadau cyfnodol - Bydd archwiliadau cyfnodol gan archwilwyr a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael eu 
cynnal ar yr adegau canlynol:

  • yn achos trwydded wreiddiol, bydd archwiliad yn cael ei gynnal yn y flwyddyn gyntaf a heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn diwedd y bedwaredd flwyddyn
  • yn achos archwiliad adnewyddu, yn y drydedd flwyddyn a heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn diwedd y chweched flwyddyn

Bydd dim mwy na thri archwilydd a benodir gan Gyngor Bro Morgannwg yn ymweld â’r safle, a bydd o leiaf un o’r rhain yn filfeddyg neu’n ymarferydd milfeddygol cymwys a gall hyd at ddau gael eu henwebu o restr gymeradwy'r Ysgrifennydd Gwladol. Dim ond un sydd ei angen os yw'n bodloni'r ddau ofyniad uchod.
 
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i’r ymgeisydd o’i fwriad i archwilio’r safle ac yn rhoi enwau’r archwilwyr i’r gweithredwr. Mewn tro, gall y gweithredwr apelio yn erbyn unrhyw rai ohonynt.
 
Gall gweithredwr y sw ganiatáu i dri chynrychiolydd fynd gyda’r tîm archwilio. Bydd y tîm archwilio’n cyflwyno adroddiad i Gyngor Bro Morgannwg a fydd mewn tro yn anfon copi i’r gweithredwr o fewn mis o’i dderbyn.

 

Archwiliadau arbennig - Mae gan Gyngor Bro Morgannwg yr hawl i gynnal archwiliadau arbennig dan unrhyw amgylchiadau os tybia fod angen ymchwilio iddynt. Rhaid i weithredwr y sw gael rhybudd o fwriad a chynnwys yr archwiliad ac, os yw'r archwiliad yn cynnwys archwiliad anifeiliaid, bydd o leiaf un archwilydd yn filfeddyg cymwys â phrofiad o sŵau ac anifeiliaid sw.

 

Archwiliadau anffurfiol - Mewn unrhyw flwyddyn galendr lle nad oes archwiliad arall wedi’i gynnal, bydd archwiliad anffurfiol yn cael ei gynnal gan berson a benodir gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Troseddau a Dirwyon

Mae troseddau a chosbau’n cael eu creu dan Adran 19 Deddf Trwyddedu Sŵau 1981:

  • gweithredu sw heb drwydded yn groes i’r Ddeddf
  • methu â chydymffurfio ag unrhyw amodau trwydded heb esgus rhesymol
  • atal archwilydd yn fwriadol yn ystod archwiliad
  • atal yn fwriadol rywun sydd wedi’i awdurdodi yn unol ag Adran 16G rhag cael mynediad i safle sŵau sydd wedi'u cau'n barhaol neu annedd o fewn tiroedd sw
  • methu â chau sw neu ran ohono i’r cyhoedd am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd heb esgus rhesymol yn unol â chyfarwyddyd a gyhoeddwyd dan adran 16A(2)(d)
  • methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i gau sw heb esgus rhesymol
  • heb esgus rhesymol, methu â chyflenwi gwybodaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol am ofal neu waredu anifeiliaid sw os bydd y sw yn cau
  • heb esgus rhesymol a heb ganiatâd yr awdurdod, methu â gwaredu unrhyw anifail a gedwir mewn sw sydd wedi’i gau’n barhaol cyn i’r cynllun yn adran 16E(2) gael ei gymeradwyo gan yr awdurdod ac eithrio yn unol â’r cynllun y cytunwyd arno
  • heb esgus rhesymol, methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a gyhoeddwyd dan adran 16E(6) (cyfarwyddyd ynghylch lles neu waredu anifeiliaid a gedwir mewn sw sydd wedi’i gau’n barhaol)
  • methu ag arddangos trwydded y sw neu gopi ohoni ym mhob mynedfa heb esgus rhesymol

 

Dan Adran 19(4), gallai pobl sy’n cael eu canfod yn euog o unrhyw un o’r troseddau uchod gael dirwy lefel 4 ar y raddfa safonol, ac eithrio atal archwilydd, methu â chyflenwi gwybodaeth am ofal neu waredu anifeiliaid sw os bydd y sw ar gau, neu fethu ag arddangos y drwydded neu gopi ohoni yn holl fynedfeydd y sw – gallai'r rhain gael ldirwy lefel 3 ar y raddfa safonol.

 

Hawliau Mynediad

Gall swyddogion awdurdod lleol wedi’u hawdurdodi yn ysgrifenedig at y diben hwn ac yng ghwmni’r milfeddyg a benodwyd archwilio safle'r sw ar ôl rhoi 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig.

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni os Na Chaniatawyd y Cais

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon am iddo beidio â chael trwydded apelio i'r Llys Ynadon a fydd yn cyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

  •  Gwneud yn Iawn i Ddeiliaid Trwyddedau

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf: 

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon ar unrhyw amodau sy’n berthnasol i drwydded apelio i'r Llys Ynadon a fydd yn cyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

  •  Cwyn Cwsmer
    Mewn achosion o gwyno, dylech gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf danfon. 
     
    Os nad yw hynny wedi gweithio a’ch bod yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.    
     
    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â'r UK European Consumer Centre.

 

 

Rheoliadau a Chanllawiau

Rheoliadau

 

Cofrestr Gyhoeddus

 

Canllawiau

 

Am ymholiadau eraill, neu i gael copïau caled o’r dogfennau uchod, cysylltwch â DEFRA yn:
Nobel House
17 Smith Square
Llundain
SW1P 3JR 

  • defra.helpline@defra.gsi.gov.uk
  • (Y DU yn unig) 08459 33 55 77 / / (o’r tu allan i’r DU) +44 20 7238 6951 / textphone  0845 300 1998 

 

Sefydliadau Masnach

 

World Association of Zoos and Aquariums  British and Irish Association of Zoos and Aquariums

 

Royal College of Veterinary Surgeons