Troseddau
• Methu â hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o newid enw neu gyfeiriad Deiliad Trwydded safle neu Oruchwyliwr Safle Dynodedig
• Methu â hysbysu Goruchwylydd Safle Dynodedig presennol o amrywiad i drwydded safle i’w heithrio nhw
• Methu â rhoi’r drwydded safle i’r Awdurdod Trwyddedu wrth dynnu’r Goruchwylydd Safle Dynodedig
• Methu â hysbysu’r Goruchwylydd Safle dynodedig o gais i drosglwyddo’r drwydded safle
• Methu â hysbysu’r Goruchwylydd Safle Dynodedig o gyflwyno hysbysiad awdurdod dros dro
• Methu â darparu trwydded safle ar gais yr Awdurdod Trwyddedu i’w ddiwygio
• Methu â chadw neu arddangos y drwydded safle ar y safle
• Methu â chyflwyno’r drwydded safle i Swyddog Awdurdodedig i’w archwilio
• Rhwystro Swyddog Awdurdodedig rhag cael mynediad i archwilio’r safle cyn dyfarnu trwydded, ei adolygu neu ddatganiad
• Methu â chyflwyno trwydded bersonol i Swyddog Awdurdodedig tra ar y safle i werthu neu awdurdodi gwerthu alcohol
• Caniatáu gweithgareddau trwyddedadwy ac eithrio’r rhai a awdurdodwyd
• Arddangos alcohol i’w werthu’n fasnachol a hynny heb ei awdurdodi
• Meddu alcohol heb ei awdurdodi gyda’r bwriad i’w werthu neu weini
• Caniatáu ymddygiad afreolus ar safle trwyddedig
• Gwerthu neu weini alcohol i berson meddw
• Caffael alcohol ar gyfer person sy’n feddw
• Methu â gadael safle trwyddedig yn dilyn cais gan Swyddog Heddlu eu Swyddog Awdurdodedig
• Cadw nwyddau a fewnforiwyd yn anghyfreithlon ar safle perthnasol
• Gwerthu alcohol mewn neu allan o gerbyd symudol
• Datganiad ffug yn gysylltiedig â chais trwyddedu
• Cadw safle ar agor yn groes i orchymyn cau ardal
• Caniatáu i safle fod ar agor yn groes i orchymyn cau safle
• Caniatáu i safle fod ar agor yn groes i orchymyn cau Ynad
• Rhwystro mynediad i’r safle i Swyddog Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig i wirio gweithrediad y gweithgaredd trwyddedadwy
Troseddau perthnasol i bersonau dan 18 oed:
• Caniatáu plant dan 16 heb eu hebrwng ar safle perthnasol pan gaiff alcohol ei weini
• Gwerthu neu gyflenwi alcohol i blant dan 18
• Caniatáu gwerthu neu gyflenwi alcohol i blant dan 18
• Gwerthu neu weini danteithion gwirod i blant dan 16
• Prynu neu weini alcohol gan neu ar ran plant dan 18 oed
• Ar safle perthnasol yfed alcohol gan blant dan 18, neu ganiatáu yn wybyddus iddo ddigwydd
• Cludo neu ganiatáu i eraill gludo alcohol i blant dan 18 oed
• Gyrru plentyn dan 18 oed i gyrchu alcohol i’w yfed
• Caniatáu plant dan 18 i werthu neu weini alcohol i blant