Cost of Living Support Icon

O Dŷ i Dŷ

Mae angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol i wneud casgliadau o dŷ i dŷ at ddibenion elusennol.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio 

I wneud cais am Drwydded Casgliad o Dŷ i Dŷ rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais yn gywir a’i dychwelyd i’r Tîm Trwyddedu yn y Cyngor gydag unrhyw ddogfennaeth berthnasol.

 

Rhaid cyflwyno'r cais am drwydded dim hwyrach na diwrnod cyntaf y mis cyn y gwneir y casgliad arfaethedig. 

 

Gwybodaeth Bellach - Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1947

 

Tra bo trwyddedau casgliadau stryd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer un neu ddau ddiwrnod fel arfer, gall trwydded o dŷ i dŷ fod yn ddilys am hyd at flwyddyn.

 

Nid oes cyfyngiadau ar bennu dyddiadau ar gyfer casgliadau o dŷ i dŷ. Gwneir llawer o gasgliadau gan sefydliadau elusennol rhanbarthol neu genedlaethol sydd fel arfer yn trefnu eu casgliadau lawer o flaen llaw. Os hoffech sicrhau na fydd eich casgliad yn gwrthdaro â sefydliadau eraill, cysylltwch â ni i gadarnhau cyn llenwi eich ffurflen gais.

 

Ar ôl cwblhau cais yn llwyddiannus, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cymeradwyo trwydded am y cyfnod a nodir ar y cais, ar yr amod nad yw’r cyfnod yn fwy na blwyddyn.

 

  •  Gwrthod neu ddiddymu trwydded

    Gall Cyngor Bro Morgannwg wrthod cymeradwyo trwydded neu os yw eisoes wedi’i gymeradwyo, ddiddymu’r drwydded, dan yr amgylchiadau canlynol:

    • Os nad yw'r ymgeisydd neu ddeiliad y drwydded yn berson addas a phriodol i ddal trwydded
    • Os yw’n ymddangos bod deiliad y drwydded wedi methu ag arfer diwydrwydd dyladwy i sicrhau bod y personau a awdurdodwyd ganddo/ganddi i weithredu fel casglwyr yn bersonau addas a phriodol a’u bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau
    • Os yw’n ymddangos bod y cyfanswm sy’n debygol o gael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol o ganlyniad i’r casgliad yn annigonol mewn cymhareb â’r swm sy’n debygol o gael ei dderbyn
    • Os yw’n ymddangos bod yr arian o’r casgliad sydd wedi neu’n debygol o gael ei gadw neu’i dderbyn gan unrhyw berson yn  ormodol, o ystyried y  swm a gasglwyd
    • Os yw’n ymddangos y gallai cymeradwyo trwydded arwain at drosedd dan Ddeddf Crwydradaeth 1824 neu drosedd sydd eisoes wedi’i chyflawni mewn cysylltiad â chasgliad
    • Pan fo Cyngor Bro Morgannwg yn gwrthod cymeradwyo neu’n diddymu trwydded bydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r ymgeisydd neu ddeiliad y drwydded gan nodi p'un o'r seiliau uchod sy'n berthnasol

     

  •  Datganiadau

    Bydd prif hyrwyddwr y casgliad yn rhoi datganiad priodol i Gyngor Bro Morgannwg ymhen un mis o ddyddiad dod i ben y drwydded.

  •  Cyhoeddi enillion

    Rhaid i ddeiliaid trwydded gyhoeddi, ar ei draul ei hun, gofnod o enillion y casgliad mewn papur newydd lleol. Rhaid iddo gynnwys enw’r hyrwyddwr, enw’r elusen fydd yn derbyn enillion y casgliad, dyddiad y casgliad, y swm a gasglwyd a swm y treuliau a thaliadau yr aed iddynt o ganlyniad i’r casgliad. Rhaid anfon copi o’r erthygl ymlaen at Gyngor Bro Morgannwg gyda’r cofnod o’r casgliad.

 

 

 

Cydsyniad Mud

Oes. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel bod eich hysbysiad wedi cael ei roi os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Y cyfnod amser targed yw 28 diwrnod calendr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

  •  Diffiniadau

    Mae ‘Dibenion Elusennol’ yn golygu unrhyw ddiben elusennol, elusengar neu ddyngarol, p’un a yw’r diben yn elusennol o fewn ystyr unrhyw reol cyfreithiol neu beidio.

     

    Mae 'Casgliad’ yn golygu apelio at y cyhoedd, trwy fynd o dŷ i dŷ, i roi arian neu eiddo arall; ac mae ‘Casglwr’ yn golygu person sy’n apelio wrth fynd o dŷ i dŷ.

     

    Mae ‘Tŷ’ yn cynnwys gweithle.

     

    Mae ‘Enillion’ yn golygu, mewn perthynas â chasgliad, yr holl arian a’r holl eiddo a roddwyd, mewn cydnabyddiaeth ai peidio, mewn ymateb i’r apêl.

     

    Mae ‘Hyrwyddwr' yn golygu person sy’n achosi eraill i weithredu fel casglwyr at ddibenion y casgliad.

  •  Casglu mewn stryd neu fan cyhoeddus

    Byddai angen trwydded gasglu stryd ar wahân gennym i gasglu yn y modd hwn. Felly rhaid i chi beidio â chasglu arian o dŷ i dŷ neu o dafarn i dafarn (h.y. yn y stryd).

  •  Gwerthu nwyddau o ddrws i ddrws

    Rhaid i chi beidio â dweud wrth y cyhoedd o gwbl y defnyddir unrhyw ran o’r enillion at ddiben elusennol (ni waeth pa mor fach yw’r swm) gan y bydd angen trwydded arnoch gennym fel arall. Dylech gadarnhau gyda’r Heddlu a oes angen Tystysgrif Pedler arnoch.

  •  Tuniau casglu sefydlog

    Nid oes angen trwydded i adael tun neu ddysgl casglu sefydlog mewn tŷ neu weithle.

 

 

Ffioedd

Nid oes ffioedd i’w talu ar gyfer y broses hon ar hyn o bryd.

 

Gwybodaeth Ategol

 

Cyfrifoldeb hyrwyddwyr a chasglwyr

Bwriad yr adran ganlynol yw crynhoi prif ofynion Rheoliadau Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1947 ac nid y gyfraith yw hi, edrychwch ar y Rheoliadau i gael y testun llawn.

 

Personau addas a phriodol yn gweithredu fel casglwyr

Bydd pob hyrwyddwr casgliad yn arfer diwydrwydd i sicrhau bod personau wedi’u hawdurdodi i weithredu fel casglwyr at ddibenion y casgliadau yn bersonau addas a phriodol, ac i sicrhau bod y personau hynny yn cydymffurfio â darpariaethau Rheoliadau Casgliadau Tŷ i Dŷ 194.

 

Cyfyngiad oedran

Ni chaiff unrhyw berson dan 16 oed ei awdurdodi i weithredu fel casglwr arian.

 

Tystysgrifau awdurdod, bathodynnau, blychau casglu a llyfrau derbynneb.

Rhaid i hyrwyddwr y casgliad sicrhau bod yr holl gasglwyr yn cael y canlynol:

  • Tystysgrif awdurdod benodol, sydd wedi’i llofnodi gan neu ar ran prif hyrwyddwr y casgliad
  • Bathodyn penodol, sy’n nodi diben y casgliad
  • Os yw arian i gael ei gasglu, blwch casglu neu lyfr derbynneb wedi’i nodi’n glir
  • at ddiben y casglu a rhif gwahaniaethu 

Yn ogystal, rhaid i hyrwyddwyr/casglwyr gydymffurfio â’r canlynol

  • rhaid i’r hyrwyddwr gadw rhestr o enwau a chyfeiriadau pob casglwr a nodi rhif gwahaniaethu pob blwch/llyfr derbynneb a roddir i bob casglwr
  • bydd y casglwr yn llofnodi ei dystysgrif awdurdod/bathodyn a'u dangos i unrhyw Swyddog Heddlu i'w harchwilio
  • bydd y casglwr yn gwisgo'r bathodyn wrth gasglu
  • bydd y casglwr yn dychwelyd y dystysgrif a’r bathodyn i'r hyrwyddwr ar gais
  • rhaid i’r casglwr beidio ag aflonyddu neu blagio deiliad tŷ a rhaid iddo adael pan ofynnir iddo wneud felly
  • rhaid i’r casglwr sicrhau y caiff yr holl arian a dderbynnir ei roi yn y blwch casglu
  • Os yw’n casglu gyda llyfr derbynneb, rhaid i’r casglwr gwblhau derbynneb gan nodi’r arian wedi’i dderbyn, ei llofnodi a’i rhoi i ddeiliad y tŷ
  • bydd y casglwr yn dychwelyd unrhyw flychau casglu (gyda'r sêl heb ei thorri) a/neu lyfrau derbynneb pan fo'r hyrwyddwr yn gofyn amdanynt
  • rhaid i’r hyrwyddwr sicrhau bod blychau casglu, pan gânt eu dychwelyd, yn cael eu hagor yn ei bresenoldeb
  • ni fydd casglwr yn plagio unrhyw berson mewn modd a fydd yn ei aflonyddu, neu aros wrth ddrws unrhyw dŷ os bydd unrhyw feddiannydd yn gofyn iddo adael

 

Troseddau a Chosbau

Mae’n drosedd hybu neu wneud casgliad o dŷ i dŷ at ddiben elusennol heb i’r hyrwyddwr gael trwydded yn gyntaf gan yr Awdurdod Lleol yn yr ardal y bydd y casgliad.

 

Gall unrhyw berson sy’n euog o drosedd yn ymwneud â hybu casgliad elusennol heb drwydded gael carchar am gyfnod nad yw’n hirach na chwech mis neu ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

 

Gall unrhyw berson sy’n euog o drosedd yn ymwneud â gweithredu fel casglwr ar gyfer casgliad elusennol heb ei drwyddedu, ar gollfarn ddiannod, yn achos yr euogfarn gyntaf, gael dirwy nad yw’n fwy na £25, neu yn achos yr ail euogfarn neu un ddilynol, gael carchar am gyfnod nad yw’n hirach na thri mis neu ddirwy nad yw’n fwy na £50, neu’r ddau.

 

Gall unrhyw berson sy’n euog o drosedd o ran methu â chydymffurfio â darpariaethau Rheoliadau Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1947 gael, ar gollfarn ddiannod, ddirwy nad yw’n fwy na lefel 1 ar y raddfa safonol.

 

Bydd unrhyw berson, mewn cysylltiad ag unrhyw gasgliad at ddiben elusennol, sy’n arddangos neu ddefnyddio bathodyn neu dystysgrif awdurdod, nad yw’n fathodyn neu dystysgrif sydd ganddo at ddibenion yr apêl neu unrhyw fathodyn neu ddyfais, neu unrhyw dystysgrif neu ddogfen arall, sy’n debyg iawn i fathodyn penodol neu dystysgrif awdurdod penodol er mwyn twyllo, yn euog o drosedd a gall, ar gollfarn ddiannod, gael carchar am gyfnod nad yw’n hirach na chwe mis neu ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

 

Gall unrhyw berson sy’n euog o drosedd o ran methu â datgan i gwnstabl yr heddlu ei enw a’i gyfeiriad ac i lofnodi ei enw fod yn agored, ar gollfarn ddiannod, i gael dirwy nad yw’n fwy na lefel 1 ar y raddfa safonol.

 

Os yw unrhyw berson, wrth roi unrhyw wybodaeth, yn gwneud yn ymwybodol ac yn  fyrbwyll ddatganiad camarweiniol, bydd yn euog o drosedd a gall, ar gollfarn ddiannod, gael carchar am gyfnod nad yw’n hirach na chwe mis neu ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

 

Pan brofir bod trosedd dan Ddeddf Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1939 wedi’i chyflawni gan gorfforaeth gyda chaniatâd neu gefnogaeth unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu unrhyw swyddog arall y gorfforaeth neu o ganlyniad i esgeulustod y rhain o ran eu dyletswyddau, ystyrir ei fod/bod ef/hi, yn ogystal â'r gorfforaeth, yn euog o’r trosedd hwnnw a gellir rhoi'r gyfraith arno/arni a chaiff ei gosbi/chosbi yn unol â hynny. 

 

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni Cais nas Cymeradwywyd

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn01446 709105

    Email: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw un sydd â chwyn oherwydd gwrthodiad i gael trwydded apelio i Lys yr Ynadon a all roi’r fath gyfarwyddiadau ynglŷn â’r drwydded neu ei amodau ag y gwêl yn briodol.

  •  Gwneud yn Iawn i Ddeiliaid Trwydded
    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon ar unrhyw amodau sy’n berthnasol i drwydded apelio i Lys yr Ynadon a fydd yn cyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel y gwêl yn briodol.

  •  Cwyn Defnyddiwr
    Byddem wastad yn argymell, os daw cwyn i law, y dylech gysylltu â'r masnachwr yn gyntaf, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda thystiolaeth iddi gael ei derbyn. 

     

    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi. 

     

    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â'r UK European Consumer Centre.