Cost of Living Support Icon

Trwydded bridio cŵn

Mae angen i unrhyw un sy’n cadw sefydliad bridio ar gyfer cŵn ddal trwydded dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU 

 

Lawrlwythwch yr holl ddogfennau isod waeth p’un ai gwneud cais am drwydded gyntaf ynteu adnewyddu rydych chi

  

 

Y Broses Ymgeisio

Mae angen trwydded waeth p’un ai yw’r gweithgarwch er elw masnachol ai peidio.

 

Er mwyn cael trwydded, rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais yn gyntaf ynghyd â Chynllun  Gwella a Chyfoethogi a Chynllun Cymdeithasoli yn ogystal ag adroddiad gan Law-filfeddyg sy’n cadarnhau bod y geist a’r cŵn bridio yn addas i’w defnyddio mewn sefydliad bridio.  Dylid anfon y rhain ynghyd â’r ffi ofynnol i’r adran drwyddedu. 

 

Mae’n bosibl y byddwch am gael cyngor gan eich milfeddyg eich hun neu berson arall cymwys wrth gwblhau’r rhaglenni hyn. Fel arall, gallai’r cysylltiadau isod eich helpu i gwblhau’r rhaglenni.

 

Caiff pob safle newydd ei archwilio gan Ymarferydd Milfeddygol cymeradwy’r Cyngor, a fydd yn codi ffi ychwanegol a gan swyddog yr Awdurdod, i sicrhau bod y llety yn addas; mae’r trefniadau ar gyfer sicrhau bod cŵn yn cael digon o fwyd, diod a deunydd gwely ac amserlen ar gyfer ymweld ac ymarfer cŵn fel sy’n addas. Mae’n rhaid hefyd bod mesurau rhagofalu boddhaol er mwyn atal a rheoli lledu afiechydon ymhlith cŵn ac y caiff cŵn eu diogelu mewn achos tân neu argyfwng arall.

 

Bydd gofyn am Adroddiad Iechyd a Lles gyda cheisiadau am adnewyddu, wedi eu cwblhau gan yr ymarferwr milfeddygol. Rhaid i ddyddiad yr adroddiad hwn fod nid mwy na 3 mis cyn dyddiad cychwyn y drwydded.

 

Caniatâd dealledig

Na. Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid i'r awdurdod brosesu'ch cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

 

Yr amser targed yw 90 diwrnod calendr. 

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwyster

Mae’r rheoliadau’n nodi bod angen Trwydded Bridio Cŵn pan yw person yn cadw 3 neu ragor o eist bridio ac yn:

  • Bridio 3 neu ragor o dorllwythi cŵn bach mewn unrhyw gyfnod 12 mis NEU
  • Yn hysbysebu 3 neu ragor o dorllwythi cŵn bach mewn unrhyw gyfnod 12 mis NEU
  • Yn cyflenwi 3 neu ragor o dorllwythi cŵn bach mewn unrhyw gyfnod 12 mis NEU
  • Yn hysbysebu busnes bridio neu werthu cŵn bach o’r safleoedd hynny.

Diffinnir gast fridio fel gast sydd dros 6 mis oed ac sydd heb ei dirywio.

 

 

Ffioedd

Cais am drwydded: £236.00

 

Bydd yr holl gostau sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar y cais am drwydded neu unrhyw gostau milfeddygol a gaiff Cyngor Bro Morgannwg yn ystod cyfnod y drwydded yn cael eu codi ar ddeiliad y drwydded.

 

Cwynion a Chamau Unioni arall

 

  • Unioni Ceisiadau a Fethodd

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

    Ffôn: 01446 709105

    e-bost: trwyddedu@bromorgannwg.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded apelio i'r Llys Ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel y gwêl yn briodol.

  • Deiliad Trwydded yn Unioni 

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

    Ffôn: 01446 709105

    e-bost: trwyddedu@bromorgannwg.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded apelio i'r Llys Ynadon a all roi pa bynnag gyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel y gwêl yn briodol.

  • Cwyn Cwsmer 

    Mewn achosion o gwyno, hoffem argymell mai rhyngoch chi a’r masnachwr y dylai’r pwynt cyswllt cyntaf gael ei gynnal, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf darparu. 

     

    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.    

     

     

 

Rheoliadau a Chanllawiau

 

 

Os oes gennych chi bryderon ynghylch lles anifeiliaid mewn sefydliad bridio neu rydych yn credu bod person yn bridio heb drwydded, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar:

 

  • Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir