Cost of Living Support Icon

Priodas a Phartneriaethau Sifil

Mae angen trwydded er mwyn cysegru Priodasau Sifil a ffurfio Partneriaethau Sifil, a seremonïau anstatudol eraill fel y’u cyflwynir.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Ardal: 

Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

Mae angen trwydded er mwyn cysegru Priodasau Sifil a ffurfio Partneriaethau Sifil, a seremonïau anstatudol eraill fel y’u cyflwynir.

  •  Gwybodaeth wrth Ymgeisio

    Wrth wneud cais am drwydded dylai’r sawl sy’n gwneud cais gyflwyno:

    • Ffurflen gais wedi ei chwblhau
    • Y Ffi berthnasol Noder nad oes modd ad-dalu’r ffi yma.
    • Asesiadau risg tân cyfredol a thystysgrifau os yw ar gael
    • Pedwar copi o gynllun y lleoliad sy’n nodi’n glir yr ystafell(oedd) lle caiff priodasau eu cysegru os rhoddir caniatâd Nodwch ar y cynllun yr ystafell sydd i’w defnyddio gan y Cofrestrydd ar gyfer holi cyn-priodi

     

    Gwybodaeth ychwanegol i’w chyflwyno:
    Dylai’r ymgeisydd roi unrhyw wybodaeth ychwanegol allasai yn rhesymol fod ei angen ar yr Awdurdod Lleol er mwyn dod i benderfyniad ar y cais, gallai hyn gynnwys:

    • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
    • Trwyddedau perthnasol eraill e.e. a gyhoeddwyd dan y Ddeddf Drwyddedu ar gyfer alcohol ayb
    • Prawf o hawl i wneud cais os nad yr ymgeisydd yw perchennog y safle
  •  Wedi i chi gyflwyno’ch cais

    Cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi derbyn y cais, bydd yr Awdurdod Lleol yn trefnu bod y cais a’r cynllun ar gael i aelodau’r cyhoedd ei archwilio ar oriau rhesymol yn ystod diwrnod gwaith a hynny hyd nes y caiff penderfyniad ei wneud neu y tynnir y cais yn ôl. 
     
    Bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried unrhyw hysbysiad o wrthwynebiad sy’n codi o’r ymgynghoriad cyhoeddus.
     
    Bydd yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu at yr Ymgeisydd ac unrhyw berson a nododd eu gwrthwynebiad i’r penderfyniad ac unrhyw amodau a roddwyd ar y drwydded.
     
    Bydd Cynrychiolydd y Swyddog Priodol, neu ei gynrychiolydd, yn archwilio priodoldeb y safle.
     
    Os caiff y drwydded ei chaniatáu bydd yn ddilys am dair blynedd.

  •  Adnewyddu'r Caniatâd

    Gall deiliad wneud cais i adnewyddu’r caniatâd pan fo rhwng chwech a deuddeg mis gan y drwydded i redeg. Bydd cais i adnewyddu yn y cyfnod hwn yn ymestyn hyd y caniatâd presennol hyd nes y gwneir penderfyniad terfynol ar y cais. Bydd adnewyddiad yn rhedeg o ddyddiad terfyn y caniatâd presennol.
     
    Gall Ymgeisydd sy’n anfodlon â phenderfyniad i wrthod caniatâd neu i ychwanegu amodau ac eithrio’r rhai a nodwyd – Atodlen 2 y Rheoliadau Priodas (Safleoedd Cymeradwy) 1995, ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw.
    Rhaid cynnwys y ffi briodol gyda’r cais i adolygu
     
    Gall Awdurdod Lleol ddiddymu caniatâd os yw’n fodlon, wedi ystyried unrhyw sylwadau gan y deiliad, bod defnydd neu seilwaith y safle wedi newid fel na ellir cydymffurfio ag unrhyw un o’r gofynion safonol lleol neu bod y deiliad wedi methu â chydymffurfio ag un neu ragor o’r gofynion safonol lleol a atodwyd i’r caniatâd. 
     
    Mae’n bosibl y gall Y Cofrestrydd Cyffredinol gyfarwyddo’r Awdurdod Lleol i ddiddymu caniatâd os, yn ei dyb ef ac wedi ystyried unrhyw sylwadau gan y deiliad, bod torri wedi bod ar y gyfraith yn ymwneud â phriodasau ar y safle cymeradwy.
     
    Pan fo caniatâd wedi ei ddiddymu, mae’r rheoliadau yn mynnu bod y  cyn-ddeiliad yn hysbysu unrhyw barau sydd wedi trefnu priodi ar y safle.
     
    Bydd yr Awdurdod Lleol yn hysbysu’r Ymgeisydd ar ganlyniad yr adolygiad.

 

 

Cydsyniad Mud

Oes. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel bod eich hysbysiad wedi cael ei roi os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.
 
Y cyfnod targed yw 35 diwrnod calendr. Mae’n bosibl y bydd hyn yn cael ei ymestyn er mwyn caniatáu gwrandawiad os bydd angen.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Mae Rheoliadau (Safleoedd Cymeradwy) Priodasau 1995 yn caniatáu i briodasau ddigwydd yn rheolaidd mewn gwestyau, cartrefi bonedd, neuaddau dinesig a safleoedd tebyg heb gyfaddawdu ar egwyddorion sylfaenol cyfraith briodas Lloegr a bwriad y Senedd i gadw natur gysegredig y digwyddiad.
 

Mae seremoniau priodas a phartneriaeth sifil awyr agored yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu cyfreithloni.

Bydd modd cynnal seremoniau yn yr awyr agored yn llawn neu o dan strwythur dan orchudd rhannol o fewn ffin

lleoliad sydd a thrwydded seremoniau sifil. 

Gall perchennog neu ymddiriedolwr safle gwblhau cais i’r safle gael ei gymeradwyo fel lle i gynnal priodasau yno.

 

Amodau

  •  Rhestr Amodau

    1. Rhaid i ddeiliad y caniatâd sicrhau bod yna unigolyn wedi ei bennu sydd â chyfrifoldeb dros gydymffurfio â’r amodau hyn (“y person cyfrifol”) a bod swydd y person, ei statws o ran cyfrifoldeb o safbwynt y safle, neu ffactorau eraill (ei “gymhwyster”), yn dynodi ei fod mewn sefyllfa i gydymffurfio â’r amodau hyn.
     
    2. Bydd y person cyfrifol neu, yn ei absenoldeb, dirprwy cymwys addas wedi ei benodi ganddo, ar gael ar y safle am o leiaf awr cyn a thrwy gydol pob un elfen o’r digwyddiad.
     
    3. Rhaid i’r deiliad hysbysu’r awdurdod -
     (a) o’i enw a’i gyfeiriad yn union wedi iddo ddod yn ddeiliad caniatâd dan reol 7(2); a
     (b) o enw, cyfeiriad a chymhwyster y person cyfrifol yn syth wedi i berson cyfrifol newydd gael ei benodi.
     
    4. Rhaid i’r deiliad hysbysu’r awdurdod yn syth o unrhyw newid i unrhyw un o’r canlynol -
     (a) gosodiad y safle, fel y dangoswyd yn y cynllun a gyflwynwyd gyda’r cais a gymeradwywyd, neu yn y defnydd a wneir o’r safle;
     (b) enw neu gyfeiriad llawn y safle cymeradwy;
     (c) disgrifiad o’r ystafell neu ystafelloedd lle mae’r digwyddiadau i ddigwydd;
     (d) enw a chyfeiriad deiliad y caniatâd; a 
     (e) enw, cyfeiriad neu gymhwyster y person cyfrifol
     
    5. Rhaid i’r safle cymeradwy fod ar gael i’w archwilio ar bob adeg resymol gan yr awdurdod.
     
    6. Rhaid dangos hysbysiad addas ger pob mynedfa gyhoeddus i’r safle awr cyn y digwyddiad yn nodi fod y safle wedi ei gymeradwyo ar gyfer y digwyddiad gan nodi a rhoi cyfarwyddiadau i’r ystafell lle mae’r digwyddiad i gael ei gynnal.
     
    7. Ni cheir gwerthu na bwyta bwyd na diod yn yr ystafell lle mae’r digwyddiadau i gael eu cynnal am awr cyn nac yn ystod y digwyddiadau hynny.
     
    8. Rhaid i’r holl ddigwyddiadau gael eu cynnal mewn ystafell a nodwyd fel un a oedd i'w defnyddio i'r perwyl hwnnw ar y cynllun a gyflwynwyd gyda'r cais a gymeradwywyd.
     
    9. Rhaid i’r ystafell lle mae’r digwyddiadau i ddigwydd fod ar wahân i unrhyw weithgaredd arall ar y safle ar adeg y digwyddiad.
     
    10. Rhaid i gynnwys a threfniadau’r digwyddiad gael eu cymeradwyo rhag blaen gan gofrestrydd arolygol y rhanbarth, neu awdurdod cofrestru’r ardal, pa un bynnag y bo, lle mae’r safle wedi ei leoli.
     
    11. —
    Ni fydd natur grefyddol i’r digwyddiadau gaiff eu cynnal ar safle cymeradwy.
    Yn benodol, ni fydd y digwyddiadau yn -
     cynnwys detholiadau o wasanaeth crefyddol awdurdodedig neu o destunau crefyddol sanctaidd;
     cael eu harwain gan weinidog yr efengyl neu arweinydd crefyddol arall;
     cynnwys defod neu gyfres o ddefodau crefyddol;
     cynnwys emynau neu lafarganu crefyddol arall; neu
     unrhyw ffurf ar addoliad.
    Ond gall y digwyddiadau gynnwys darlleniadau, caneuon neu gerddoriaeth sy’n cynnwys cyfeiriad achlysurol at dduw neu dduwdod mewn cyd-destun hanfodol anghrefyddol.
    I’r diben hwn caiff unrhyw ddeunydd gaiff ei ddefnyddio i agor y digwyddiad, mewn unrhyw egwyl rhwng rhannau o’r digwyddiad neu wrth gloi’r digwyddiad, ei drin fel rhan o’r digwyddiadau.
     
    12. Rhaid caniatáu mynediad cyhoeddus di-dâl i’r digwyddiadau mewn unrhyw safle cymeradwy.
     
    13. Gall unrhyw gyfeiriad at gymeradwyaeth y safle ar unrhyw arwydd neu hysbysiad, neu ar unrhyw lythyrau neu gyhoeddiad, neu mewn unrhyw hysbyseb nodi bod y safle wedi ei chymeradwyo gan yr awdurdod fel lleoliad ar gyfer priodas yn unol ag isadran 26(1)(bb) Deddf 1949 ac ar ffurfio partneriaethau sifil dan isadran 6(3A)(a) Deddf 2004 ond ni fydd yn nodi neu awgrymu unrhyw argymhelliad ynghylch y safle neu ei adnoddau gan yr awdurdod, Y Cofrestrydd Cyffredinol neu unrhyw swyddogion neu gyflogeion o’r naill neu’r llall.
     
    14. Os bydd newid i enw’r safle cymeradwy yn digwydd wedi cyhoeddi’r dystysgrif briodas neu ddogfen partneriaeth sifil ond cyn y digwyddiadau, bydd enw blaenorol y safle cymeradwy fel y’u cofnodwyd yn y dystysgrif briodas neu’r ddogfen bartneriaeth sifil yn parhau’n ddilys am y cyfnod ar gyfer dibenion y digwyddiadau.
     
    Caiff yr amodau canlynol eu hatodi i’r caniatâd gan y Cyngor ac mae’n bosibl y caiff amodau pellach eu hatodi yn ôl yr angen.
     
    15. Bydd y person(au) cyfrifol yn y lleoliad cymeradwy yn sicrhau bod dau le parcio wedi eu nodi’n glir wedi eu cadw at ddefnydd y Swyddogion Cofrestru.
     
    16. Darperir bwrdd ac 1 gadair i’w defnyddio gan y Cofrestrydd Arolygol a’r Cofrestrydd yn yr ystafell(oedd) a gymeradwywyd.
     
    17. Darperir seddau yn yr ystafelloedd cymeradwy ar gyfer mwyafrif y bobl a fydd yn mynychu’r briodas neu seremoni partneriaeth sifil.
     
    18. Mae uchafswm nifer y bobl a ganiateir ym mhob ystafell fel a ganlyn:- (caiff y nifer ei roi pan gaiff y cais ei ganiatáu).

 

 

Ffioedd

Ffi cais £1180

Ffi am wneud cais yw hwn felly ni cheir ad-daliad unwaith y gwneir cais a’i gyflwyno.

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni os na Ganiatawyd y Cais

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Bydd unrhyw berson sy’n anfodlon ar beidio â chael trwydded yn gallu apelio i’r Llys Ynadon, Magistrates Courts  all roi cyfarwyddiadau iddo ynghylch y drwydded neu ei amodau fel y cred sy’n briodol.

  •  Gwneud yn Iawn i Ddeiliaid Trwyddedau

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Bydd unrhyw berson sy’n anfodlon ag amodau a roddwyd ar drwydded yn gallu apelio i’r Llys Ynadon, Magistrates Courts  a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau iddo ynghylch y drwydded neu ei amodau fel y cred sy’n briodol.
     
    Gall Awdurdod Lleol ddiddymu caniatâd os yw’n fodlon, wedi ystyried unrhyw sylwadau gan y deiliad, bod defnydd neu seilwaith y safle wedi newid fel na ellir cydymffurfio ag unrhyw un o’r gofynion safonol lleol neu fod y deiliad wedi methu â chydymffurfio ag un neu ragor o’r gofynion safonol lleol a atodwyd i’r caniatâd. 
     
    Mae’n bosib y gall Y Cofrestrydd Cyffredinol gyfarwyddo’r Awdurdod Lleol i ddiddymu caniatâd os, yn ei dyb ef ac wedi ystyried unrhyw sylwadau gan y deiliad, bod torri wedi bod ar y gyfraith yn ymwneud â phriodasau ar y safle cymeradwy.
     
    Pan fo caniatâd wedi ei ddiddymu, mae’r rheoliadau yn mynnu bod y  cyn-ddeiliad yn hysbysu unrhyw barau sydd wedi trefnu i briodi ar y safle.
     
    Bydd yr Awdurdod Lleol yn hysbysu’r Ymgeisydd ar ganlyniad yr adolygiad.

  •  Cwyn Cwsmer

    Mewn achosion o gwyno, hoffem argymell y dylech gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf danfon.
     
    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.    
     
    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â UK European Consumer Centre.

  •  Proses Apelio

    Gall Ymgeisydd ofyn am adolygiad gan yr Awdurdod Lleol o’i benderfyniad i wrthod atodi amodau lleol, gwrthod adnewyddu caniatâd neu i ddiddymu caniatâd. 
     
    Rhaid i’r adolygiad gael ei gwblhau gan Swyddog, pwyllgor neu is-bwyllgor gwahanol i’r un a wnaeth y penderfyniad yr apelir yn ei erbyn. Gall y panel adolygu gadarnhau'r penderfyniad, ei ddileu neu ei amrywio a gosod amodau newydd neu rai pellach.
     
    Gall yr Awdurdod Lleol hawlio tâl pellach am adolygu ei benderfyniad i beidio rhoi caniatâd, i atodi amodau neu i wrthod adnewyddu caniatâd. Nid yw cyfarwyddyd gan Y Cofrestrydd Cyffredinol i ddileu caniatâd yn agored i adolygiad gan yr Awdurdod Lleol.

 

 

Rheoliadau a Chanllawiau

Rheoliadau

 

Cofrestr Gyhoeddus

Caiff manylion safleoedd a gymeradwyir ei ddal gan yr Awdurdod Lleol er mwyn i’r cyhoedd allu ei archwilio. Caiff y manylion hyn eu copïo i Gofrestrydd Arolygol y rhanbarth lle y lleolir y safle ac i’r Cofrestrydd Cyffredinol a fydd o bryd i’w gilydd yn dosbarthu manylion i’r holl Gofrestryddion Arolygol.

 

Canllawiau