Cost of Living Support Icon

Tatŵs, Tyllu’r Croen ac Electrolysis

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n ymarfer nodwyddo neu'n tatŵio, lliwio’r croen yn lled-barhaol (micro liwio), tyllu clustiau neu’r corff neu electrolysis gofrestru’r bobl a’r lle cysylltiedig.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio


Er mwyn cofrestru (person neu safle), mae’n rhaid cyflwyno ffurflen gais a’r ffi berthnasol.
 
Ni ddylid defnyddio’r safle tan ceir tystysgrif cofrestru safle.
 
Yn dilyn cofrestru, bydd archwiliad o’r safle. Bydd archwilydd yn sicrhau bod y safle’n cydymffurfio â gofynion is-ddeddfau Bro Morgannwg yn ogystal â sicrhau y bodlonir gofynion iechyd a diogelwch. Bydd yr archwilydd yn fodlon cynnig unrhyw gyngor neu roi cymorth os nad ydych yn sicr sut mae bodloni'r gofynion.
  
Ni ddylai person weithredu tan mae wedi derbyn ei dystysgrif cofrestru personol.
 
Os cyflwynir tystysgrif cofrestru i chi neu i'ch safle, bydd yn ddilys am byth ac ni fydd angen i chi ei hadnewyddu ar unrhyw adeg.
 
Mae’n rhaid gwneud cais i newid manylion y caniatâd gyda’r ffi berthnasol.
 
Mae’n ofynnol i berson ddweud wrth yr Awdurdod Trwyddedu ym mha safle cofrestredig y mae'n gweithio.

 

Cydsyniad Dealledig


Rhif Mae er budd y cyhoedd i’r awdurdod brosesu eich cais cyn ei ddyfarnu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.
 
Y cyfnod targed yw 28 diwrnod calendr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 Rhan VIII yn mynnu y dylid cofrestru’r mathau canlynol o dyllu’r croen gyda’r Cyngor.

  • Nodwyddo
  • Tatŵio
  • Lliwio’r croen yn lled-barhaol
  • Tyllu cosmetig
  • Electrolysis

Mae'n ofynnol dan y ddeddf bod y person sy’n ymarfer a’r safle ill dau wedi eu cofrestru er y diben hynny. Does dim grymoedd i wrthod cofrestru, ond rheolir yr ymarfer trwy fynnu cydymffurfiaeth ag is-ddeddfau ym mhob achos.
 
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd sicrhau bod y gweithdrefnau a’r cyfleusterau’n ddiogel, yn hylan, yn atal lledaenu afiechydon ac yn cydymffurfio’n llawn â’r dyletswydd gofal cyffredinol sy’n ofynnol gan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac Ati 1974.
 
Mae hi’n anghyfreithlon tyllu clustiau, tatŵio, nodwyddo, lliwio'r croen yn lled-barhaol neu wneud electrolysis oni bai fod y cofrestriad wedi ei gymeradwyo'n llawn.

 

Amodau

Darllenwch is-ddeddfau Cyngor Bro Morgannwg a'r dudalen gwybodaeth bellach.

 

Mae hi’n anghyfreithlon tyllu clustiau, tatŵio, nodwyddo, lliwio'r croen yn lled-barhaol neu wneud electrolysis oni bai fod y cofrestriad wedi ei gymeradwyo'n llawn.
 
Mae Deddf Tatŵio Pobl Ifanc Dan Oed 1969 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i unrhyw un datŵio ar berson sydd dan 18 oed.
 
O 1 Chwefror 2019 mae tyllu rhannau personol o gyrff unigolion dan 18 mlwydd oed wedi’i wahardd yng Nghymru.  Roedd Rhan 5 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 hefyd yn ei gwneud yn drosedd i ‘wneud trefniadau’ i dyllu rhannau personol o gorff plentyn neu berson ifanc dan 18 mlwydd oed yng Nghymru. 


Mae tyllu rhan bersonol o’r corff yn cynnwys tyllu’r tafod, y frest ac organau rhywiol. 
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ddilyn y dolenni canlynol:

 

 

 

 

Ffioedd

Cofrestru’r Safle - £132.00
 
Cofrestru Personol - £66.00
 
Newid Cofrestriad Personol neu Safle - £12.00

 

Gwybod

Safle

  • Mae’n rhaid cadw unrhyw arwyneb mewn unrhyw ran o’r safle yn lân ac mewn cyflwr gweithio
  • Mae’n rhaid cadw holl ddodrefn a ffitiadau yn yr ardal driniaeth yn lân ac mewn cyflwr da
  • Mae’n rhaid i arwynebau byrddau, gwelyau, seddau a.y.b. a ddefnyddir yn yr ardal driniaeth fod yn esmwyth ac yn anhydraidd a chael eu sychu’n aml gydag diheintydd a’u gorchuddio gan haen o bapur untro a’i newidir wedi pob cleient.
  • Mae’n rhaid arddangos arwydd ‘Dim Ysmygu’ yn amlwg.

 

Glendid Gweithredwyr

  • Dylai unrhyw wisg y mae’r gweithredwr yn ei gwisgo fod yn lân a chyflawn.
  • Dylai dwylo ac ewinedd y gweithredwr fod yn lân
  • Dylai unrhyw doriad i’r croen, anaf, briw neu gasgliad fod wedi ei orchuddio gyda gorchudd meddygol sy’n dal dŵr
  • Ni ddylai’r gweithredwr ysmygu nac yfed yn yr ardal driniaeth
  • Dylai’r gweithredwr yn unig ddefnyddio ei gyfleusterau ymolchi a dylai fod yno ddŵr poeth ac oer sy'n llifo, sebon (neu lanhawr cyfatebol) a brws ewinedd.

 

Offer
Dylai unrhyw nodwydd, offeryn metel neu unrhyw eitem arall o offer a ddefnyddir mewn triniaeth fod mewn cyflwr aseptig a dylid ei gadw’n aseptig tan ei ddefnyddio. Os na ddefnyddir eitemau wedi eu sterileiddio o flaen llaw, dylai bod cyfleusterau priodol ar gael er mwyn sterileiddio.

 

Nid yw cofrestriad personol gan Gyngor Bro Morgannwg yn ei ganiatáu i weithio ond o safle cofrestredig ym Mro Morgannwg.

 

Cwynion a Phrosesau Gwneud yn Iawn Eraill

  •  Gwneud yn Iawn am Geisiadau a Fethodd

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

  •  Gwneud yn Iawn i Ddeiliaid Trwyddedau

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

  •  Cwyn Cwsmer

    Mewn achosion o gwyno, hoffem argymell y dylech gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf dosbarth. 

     

    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.   

     

    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â UK European Consumer Centre.

 

 

Rheoliadau a Chanllawiau

Rheoliadau

 

Cofrestr Gyhoeddus

 

Canllawiau

 

HSE  NHS advice