Cost of Living Support Icon

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN)

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn caniatáu i unigolion gynnal gweithgareddau trwyddedadwy (ee gwerthu neu gyflenwi alcohol, adloniant wedi'i reoleiddio neu luniaeth hwyr y nos) ar sail dros dro.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

Gellir defnyddio TENs at ddibenion lluniaeth hwyr y nos, alcohol ac adloniant.

  

Sylwer: Bu newidiadau diweddar i adloniant rheoledig ac i beth sydd angen ei drwyddedu. Felly, os gwelwch yn dda, cysylltwch â'r Awdurdod Trwyddedu yn y lle cyntaf os ydych yn trefnu adloniant rheoledig yn unig i sicrhau bod TEN yn berthnasol i’ch digwyddiad. Bydd angen i chi sicrhau TEN pryd bynnag y byddwch yn ymgeisio ar gyfer gwerthu alcohol.

 

 

Y Broses Ymgeisio

Mae'n rhaid i'r defnyddiwr eiddo anfon:

  • o leiaf un copi o'r hysbysiad am ddigwyddiad dros dro (TEN) ynghyd â'r ffi berthnasol i'r awdurdod trwyddedu
  • un copi i Brif Swyddog yr Heddlu
  •  un copi i'r Tîm Iechyd yr Amgylchedd

Mae angen cyflwyno TEN safonol o leiaf ddeng niwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad. Bydd angen cyflwyno TEN hwyr rhwng 9 a 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Nid yw'r dyddiau yn cynnwys diwrnod y digwyddiad na’r diwrnod pryd y bydd yr awdurdod yn derbyn y cais.  

Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i gyflwyno TEN a gallwch roi uchafswm o bum TEN y flwyddyn (gall 2 ohonynt fod yn "hwyr"). Os ydych yn ddeiliad trwydded bersonol, gallwch roi uchafswm o 50 TEN y flwyddyn (gall 10 ohonynt fod yn "hwyr").

 

Rhaid i'ch digwyddiad ymwneud â dim mwy na 499 o bobl ar unrhyw un adeg ac yn para am ddim mwy na 168 awr (7 diwrnod) gyda lleiafswm o 24 awr rhwng digwyddiadau. Gall eiddo dderbyn hyd at 15 o ddigwyddiadau bob blwyddyn galendr.

 

 

Sawl gwaith y gellir rhoi hysbysiad digwyddiad dros dro mewn perthynas ag unrhyw fangre benodol 15 gwaith fesul blwyddyn galendr.

Uchafswm hyd gyfanredol y cyfnodau a gwmpesir gan hysbysiadau digwyddiad dros dro mewn unrhyw fangre unigol 21 diwrnod.

 

Mae diwrnod gwaith yn golygu unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr.

 

Os ydych yn ymgeisio ar-lein drwy UK Welcomes neu drwy Gymorth Hyblyg i Fusnes yna bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am anfon y copi perthnasol at Brif Swyddog yr Heddlu a'r Tîm Iechyd yr Amgylchedd.

 

Bydd TEN hwyr, a gyflwynir llai na phum niwrnod cyn y digwyddiad y mae'n berthnasol iddo, yn cael ei ddychwelyd fel un di-rym ac ni fydd y gweithgareddau perthnasol yn cael eu hawdurdodi.

 

Os byddwch yn cyflwyno TEN hwyr mae’n bosib wedyn na fydd eich digwyddiad yn gallu cymryd lle petai’r awdurdod trwyddedu yn derbyn hysbysiad o wrthwynebiad i'r TEN hwyr. Mae'n ofynnol i'r Awdurdod Trwyddedu gyflwyno gwrth-hysbysiad o leiaf 24 awr cyn y digwyddiad ac ni fydd y digwyddiad wedyn yn cael ei ganiatáu.

  •  Gwrthwynebiadau
    Rhaid cyflwyno hysbysiad gwrthwynebu’r heddlu a thîm iechyd yr amgylchedd cyn diwedd y trydydd diwrnod gwaith yn dilyn y diwrnod pryd y cawsant yr hysbysiad digwyddiad dros dro. Gallant wrthwynebu'r hysbysiad digwyddiad dros dro ar sail unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu.

     

    Os oes gwrthwynebiad gan naill ai'r heddlu neu’r tîm iechyd yr amgylchedd i TEN hwyr, ni fydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen. Dan yr amgylchiadau hyn, nid oes cyfle i wrandawiad nac i ddefnyddio’r amodau presennol.

     

    Gallai achosion o'r fath godi oherwydd pryderon am raddfa, lleoliad, amseriad y digwyddiad neu oherwydd pryderon am niwsans cyhoeddus. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, lle (er enghraifft) cyflenwir alcohol i ffwrdd o safleoedd trwyddedig mewn bar dros dro o dan reolaeth deiliad trwydded bersonol, (er enghraifft, mewn priodasau neu ddigwyddiadau cymdeithasol neu chwaraeon bach) ni ddylai hyn arwain at ddefnyddio'r pwerau hyn.

     

    Mae pob un o'r heddlu a’r tîm iechyd yr amgylchedd (fel person awdurdodedig) gyda’r awdurdod o dan adrannau 109 (5) a (6) Deddf 2003 i ofyn i ddefnyddiwr yr eiddo ddangos y TEN i bwrpas ei  archwilio. Os nad yw'r heddlu'n ymyrryd pan fo TEN yn cael ei gyflwyno, byddant yn dal i allu defnyddio eu pwerau cau o dan Ran 8 Deddf 2003 petaent yn rhagweld anhrefn neu niwsans sŵn.

     

    Os bydd yr heddlu neu'r tîm iechyd yr amgylchedd yn credu bod caniatáu i'r safle gael ei ddefnyddio yn unol â'r TEN yn tanseilio'r amcanion trwyddedu, yna bydd raid iddynt gyflwyno i'r defnyddiwr eiddo ac i'r awdurdod trwyddedu hysbysiad gwrthwynebu.

     

    Gall yr heddlu neu'r awdurdod lleol sy’n gweithredu ar swyddogaethau iechyd yr amgylchedd gysylltu â defnyddiwr y safle i drafod eu gwrthwynebiadau a cheisio dod i gytundeb a fydd yn caniatáu i'r gweithgareddau trwyddedadwy arfaethedig fynd ymlaen. Mae modd addasu’r TEN. Os nad oes cytundeb, rhaid i'r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad i ystyried yr hysbysiad.

  •  Gwrth-hysbysiad
    Os eir y tu draw i derfynau a ganiateir, bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn gwrthod y cais trwy gyflwyno  Gwrth-hysbysiad i ddefnyddiwr y safle, a bydd copi ohono hefyd yn cael ei anfon at Brif Swyddog yr Heddlu.

     

    Pan fo TEN safonol wedi’i gyflwyno, rhaid i'r awdurdod trwyddedu ystyried unrhyw wrthwynebiad mewn gwrandawiad cyn cyflwyno gwrth-hysbysiad.

  •  Gwrandawiad Pwyllgor
    Os bydd yr awdurdod trwyddedu yn derbyn hysbysiad o wrthwynebiad gan yr heddlu neu gan dîm iechyd yr amgylchedd – hysbysiad nad yw'n cael ei dynnu'n ôl - rhaid iddo (yn achos TEN safonol yn unig) gynnal gwrandawiad i ystyried y gwrthwynebiad (oni bai bod pob parti yn cytuno bod hyn yn ddiangen).

     

    Gall y pwyllgor trwyddedu benderfynu caniatáu i'r gweithgareddau trwyddedadwy  fynd yn eu blaenau fel y nodwyd yn yr hysbysiad. Os yw'r hysbysiad yn gysylltiedig â gweithgareddau trwyddedadwy mewn eiddo trwyddedig, gall yr awdurdod trwyddedu hefyd osod un neu fwy o amodau’r drwydded bresennol ar y TEN (i'r graddau nad yw amodau o'r fath yn anghyson â'r digwyddiad) os yw o'r farn bod hyn yn briodol i bwrpas hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

     

    Os yw'r awdurdod yn penderfynu gosod amodau, rhaid iddo roi hysbysiad i ddefnyddiwr yr eiddo sy'n cynnwys datganiad o amodau ( "hysbysiad (datganiad o amodau)"), a darparu copi i bob parti perthnasol.

     

    Fel arall, gall benderfynu y byddai'r digwyddiad yn tanseilio'r amcanion trwyddedu ac na ddylai ddigwydd. Os felly, mae'n rhaid i'r awdurdod trwyddedu gyflwyno gwrth-hysbysiad.

  •  Addasu hysbysiad yn dilyn gwrthwynebiad
    Ar unrhyw adeg cyn cynnal neu beidio cael gwrandawiad, gall Prif Swyddog yr Heddlu a / neu’r Tîm Iechyd yr Amgylchedd, gyda chytundeb y defnyddiwr safle, addasu’r rhybudd digwyddiad dros dro drwy ddiwygio’r rhybudd a ddychwelir i'r defnyddiwr safle. Felly mae'r hysbysiad gwrthwynebu yn cael ei dynnu’n ôl o’r adeg pryd y diwygir yr hysbysiad digwyddiad dros dro. 
  •  Amnewid Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
    Pan fo hysbysiad digwyddiad dros dro a chydnabyddedig dan adran 102 yn cael ei golli, ei ddwyn, ei ddifrodi neu ei ddinistrio, gall y defnyddiwr eiddo ofyn i'r awdurdod trwyddedu a oedd yn cydnabod yr hysbysiad (neu, os oes mwy nag un awdurdod o'r fath, unrhyw un ohonynt) am gopi o’r hysbysiad.

     

    Ni fydd modd cyflwyno cais dan yr adran hon ar ôl mis wedi diwedd cyfnod y digwyddiad a nodwyd yn yr hysbysiad.

     

    Gyda’r cais bydd raid amgáu’r ffi £10.50.

     

    Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn derbyn cais o dan yr adran hon, rhaid iddo gyflwyno i ddefnyddiwr yr eiddo gopi o'r hysbysiad (wedi’i ardystio gan yr awdurdod fel copi cywir) os yw’n fodlon-

     

    (a) bod yr hysbysiad wedi’i golli, ei ddwyn, ei ddifrodi neu ei ddinistrio, ac

    (b) os cafodd ei golli neu ei ddwyn, bod defnyddiwr y safle wedi dweud am y colli neu’r dwyn wrth yr heddlu.

     

    Rhaid i'r copi a roddwyd o dan adran 110 fod yn gopi o'r hysbysiad fel yr oedd yn union cyn iddo gael ei golli, ei ddwyn, ei ddifrodi neu ei ddinistrio.

     

    Mae'r Ddeddf Trwyddedu yn berthnasol mewn perthynas â chopi a roddir o dan adran 110 fel yr oedd yn berthnasol mewn perthynas â’r hysbysiad gwreiddiol.

 

 

 

Caniatâd Dealledig

Ie. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu yn union fel pe byddai eich trwydded wedi’i  chaniatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd cyfnod cyrraedd y targed.

 

Mae'r amser targed yn 24 awr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwyso

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed i gyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN).

Mae person sy'n gyfrifol am ddigwyddiad dros dro yn gallu cyflwyno nifer gyfyngedig yn unig o hysbysiadau digwyddiad dros dro:

  • 50 gwaith y flwyddyn galendr ar gyfer deiliad trwydded bersonol
  • 5 gwaith y flwyddyn galendr ar gyfer deiliad trwydded nad yw'n bersonol

Ni cheir defnyddio’r un safle ar fwy na 15 achlysur mewn unrhyw flwyddyn galendr, ac maent yn gyfyngedig i gyfanswm 21 diwrnod, waeth faint o weithiau y cafodd y safle ei ddefnyddio. 

 

Rhaid cyflwyno TEN safonol o leiaf ddeng niwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad. Nid yw'r dyddiau yn cynnwys diwrnod y digwyddiad na’r diwrnod pryd y mae'r awdurdod yn derbyn y cais.  Byddai'n well gan yr Awdurdod Trwyddedu dderbyn ceisiadau 21 diwrnod cyn y digwyddiad ond ddim yn gynharach na 6 mis ynghynt.

 

Rhaid cyflwyno TEN hwyr rhwng 9 a 5 diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad. Nid yw'r dyddiau yn cynnwys diwrnod y digwyddiad na’r diwrnod pryd y mae'r awdurdod yn derbyn y cais.  

 

Y cyfnod amser hwyaf i ddigwyddiad dros dro yw 168 awr (7 diwrnod).

 

Rhaid sicrhau bod o leiaf 24 awr rhwng digwyddiadau ar yr un safle.

 

Ni chaiff uchafswm nifer y bobl sy'n mynychu ar unrhyw un adeg fod yn fwy na 499.

 

Dan unrhyw amgylchiadau eraill, bydd raid wrth drwydded eiddo neu dystysgrif adeilad clwb dros gyfnod y digwyddiad dan sylw.

  

Amodau

  •  Tynnu hysbysiad yn ôl
    (1) Gellir tynnu hysbysiad digwyddiad dros dro yn ôl pan fo defnyddiwr yr eiddo yn rhoi i'r awdurdod trwyddedu perthnasol hysbysiad i'r perwyl hwnnw o leiaf 24 awr cyn dechrau cyfnod y digwyddiad a nodir yn yr hysbysiad digwyddiad dros dro. 
  •  Dyletswydd i gadw a dangos hysbysiad digwyddiad dros dro
    (1) Mae'r adran hon yn berthnasol pryd bynnag mae eiddo'n cael ei ddefnyddio ar gyfer un neu fwy o weithgareddau trwyddedadwy sydd neu yr honnir eu bod yn weithgareddau dros dro a ganiateir dan ddarpariaethau’r Rhan hon.

     

    (2) Rhaid i ddefnyddiwr yr eiddo naill ai-

    (a) sicrhau bod copi o'r hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei arddangos yn amlwg yn yr eiddo, neu

    (b) fodloni gofynion isadran (3).

     

    (3) Mae gofynion yr isadran hon yn mynnu bod defnyddiwr yr eiddo

    (a) yn sicrhau bod yr hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei gadw yn yr eiddo -

    (I) dan ei ofalaeth ef neu

    (Ii) yng ngofalaeth person sy'n bresennol ac yn gweithio yn yr eiddo ac yn un y mae defnyddiwr yr eiddo wedi ei enwebu at ddibenion yr adran hon, a

    (b) pan fo'r hysbysiad digwyddiad dros dro yng ngofalaeth person sydd wedi'i enwebu fel hyn, sicrhau bod hysbysiad yn nodi'r ffaith hon a swyddogaeth y person hwnnw yn cael ei arddangos yn amlwg yn yr eiddo.

     

    (4) Mae defnyddiwr yr eiddo’n cyflawni trosedd os ydyw’n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag isadran (2).

     

    (5) Os -

    (a) nad yw'r hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei arddangos fel y crybwyllir yn isadran (2), a

    (b) nad oes unrhyw hysbysiad yn cael ei arddangos fel y crybwyllir hynny yn is-adran (3) (b),

    yna gall cwnstabl neu swyddog ag awdurdod fynnu bod y defnyddiwr eiddo yn dangos yr hysbysiad digwyddiad dros dro i bwrpas ei archwilio.

     

    (6) Pan fo hysbysiad yn cael ei arddangos fel y crybwyllir hynny yn isadran (3) (b), yna gall cwnstabl neu swyddog ag awdurdod fynnu bod y person a nodir yn yr hysbysiad hwnnw yn dangos yr hysbysiad digwyddiad dros dro i bwrpas ei archwilio.

     

    (7) Bydd raid i swyddog ag awdurdod sy'n defnyddio’r pŵer a roddir dan is-adran (5) neu (6), os gofynnir iddo, ddangos tystiolaeth yn brawf o’r awdurdod sydd ganddo i ddefnyddio’r pŵer.

     

    (8) Mae person yn cyflawni trosedd pan fo’n methu, heb esgus rhesymol, â dangos hysbysiad digwyddiad dros dro yn unol â gofyniad dan is-adran (5) neu (6).

     

    (9) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr adran hon yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy hyd at lefel 2 ar y raddfa safonol.

     

    (10) Yn yr adran hon ystyr "swyddog ag awdurdod" yw’r ystyr sydd yn adran 108(5).

 

 

Ffioedd

Gyda chais wedi'i gwblhau rhaid wrth ffi o £21.00.

 

Mae'r ffi hon yn ffi gwneud cais, ac felly nid oes modd ei had-dalu.

 

Codir ffi o £10.50 am geisiadau am gopi o'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro.

 

Tramgwyddau a Chosbau               

1) Mae'r adran hon yn berthnasol pryd bynnag mae eiddo'n cael ei ddefnyddio ar gyfer un neu fwy o weithgareddau trwyddedadwy sydd neu yr honnir eu bod yn weithgareddau dros dro a ganiateir dan ddarpariaethau’r Rhan hon.

 

(2) Rhaid i ddefnyddiwr yr eiddo naill ai-

(a) sicrhau bod copi o'r hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei arddangos yn amlwg yn yr eiddo, neu

(b) fodloni gofynion is-adran (3).

 

(3) Mae gofynion yr is-adran hon yn mynnu bod defnyddiwr yr eiddo

(a) yn sicrhau bod yr hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei gadw yn yr eiddo -

(i) dan ei ofalaeth ef neu

 

(ii) yng ngofalaeth person sy'n bresennol ac yn gweithio yn yr eiddo ac yn un y mae defnyddiwr yr eiddo wedi ei enwebu at ddibenion yr adran hon, a

 

(b) pan fo'r hysbysiad digwyddiad dros dro yng ngofalaeth person sydd wedi'i enwebu fel hyn, sicrhau bod hysbysiad yn nodi'r ffaith hon a swyddogaeth y person hwnnw yn cael ei arddangos yn amlwg yn yr eiddo.

 

(4) Mae defnyddiwr yr eiddo’n cyflawni trosedd os ydyw’n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag is-adran (2).

 

(5) Os -

(a) nad yw'r hysbysiad digwyddiad dros dro yn cael ei arddangos fel y crybwyllir yn is-adran (2), a

(b) nad oes unrhyw hysbysiad yn cael ei arddangos fel y crybwyllir hynny yn is-adran (3) (b),

 

yna gall cwnstabl neu swyddog ag awdurdod fynnu bod y defnyddiwr eiddo yn dangos yr hysbysiad digwyddiad dros dro i bwrpas ei archwilio.

 

(6) Pan fo hysbysiad yn cael ei arddangos fel y crybwyllir hynny yn is-adran (3) (b), yna gall cwnstabl neu swyddog ag awdurdod fynnu bod y person a nodir yn yr hysbysiad hwnnw yn dangos yr hysbysiad digwyddiad dros dro i bwrpas ei archwilio.

 

(7) Bydd raid i swyddog ag awdurdod sy'n defnyddio’r pŵer a roddir dan is-adran (5) neu (6), os gofynnir iddo, ddangos tystiolaeth yn brawf o’r awdurdod sydd ganddo i ddefnyddio’r pŵer.

 

(8) Mae person yn cyflawni trosedd pan fo’n methu, heb esgus rhesymol, â dangos hysbysiad digwyddiad dros dro yn unol â gofyniad dan is-adran (5) neu (6).

 

(9) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr adran hon yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy hyd at lefel 2 ar y raddfa safonol.

 

(10) Yn yr adran hon ystyr "swyddog ag awdurdod" yw’r ystyr sydd yn adran 108(5).

 

Cwynion ac Iawn Arall

 

Iawn pan fo Cais yn Methu: Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Os cyflwynir gwrth-hysbysiad yng nghyswllt hysbysiad gwrthwynebu gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid cyflwyno apeliadau i’r Llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod. Nid oes modd cyflwyno apêl ddim hwyrach na phum niwrnod gwaith o ddiwrnod y digwyddiad a gynlluniwyd.

 

Iawn i Ddeiliad Trwydded: Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Cwynion Defnyddwyr: Edrychwch ar ein cwynion defnyddwyr.

 

Iawn Arall: Os yw awdurdod trwyddedu yn penderfynu peidio â chyflwyno gwrth-hysbysiad mewn perthynas â hysbysiad gwrthwynebu yna gall prif swyddog yr heddlu apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid cyflwyno apeliadau yn y Llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod. Nid oes modd cyflwyno apêl ddim hwyrach na phum niwrnod gwaith o ddiwrnod y digwyddiad a gynlluniwyd.