Cost of Living Support Icon

Trwyddedau Hebryngyddion

Rheoleiddir cyflwyno trwyddedau hebrwng dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

 

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith bod plant sy'n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus, gwaith teledu, ffilm, gwaith fel modelau neu chwaraeon, dan drwydded gan yr awdurdod lleol, yn cael eu goruchwylio gan hebryngydd y mae’r cyngor wedi’i gymeradwyo, oni bai bod rhiant, gofalwr cyfreithiol neu, mewn amgylchiadau arbennig, athro yn gofalu amdanynt.

 

Mae prif ddyletswydd hebryngydd dros y plentyn yn ei ofal. Maent yn gyfrifol am ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo lles y plentyn, a rhaid iddynt beidio â chymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a fyddai'n ymyrryd â'u dyletswyddau.


Rhaid i hebryngyddion aros gyda'r plentyn bob amser a gallu gweld y plentyn pan fydd ar lwyfan, ar leoliad ffilmio neu'n perfformio. Bydd yr union ddyletswyddau tra mae’r plentyn yn y man perfformio neu'n gwneud y gweithgaredd yn amrywio yn dibynnu ar fath y perfformiad neu weithgaredd. Fodd bynnag, y prif ddyletswyddau yw sicrhau bod y plentyn/plant yn cael eu goruchwylio’n briodol pan nad ydynt yn perfformio, a’u bod yn cael prydau bwyd digonol, gorffwys a gweithgareddau hamdden  Rhaid i hebryngyddion sicrhau y trefnir cyfleusterau newid addas gan y cwmni neu’r lleoliadau, ac ystafelloedd newid ar wahân ar gyfer bechgyn a merched hŷn na phump oed


Gall hebryngydd oruchwylio hyd at 12 o blant.  Fodd bynnag, oherwydd gofynion y perfformiad, neu oedrannau, rhyw neu anghenion arbennig y plant, gall yr Awdurdod Lleol benderfynu mai dim ond ar gyfer nifer lai o blant y gall hebryngydd fod yn gyfrifol am sicrhau eu diogelwch.  

 

Mae proses gofrestru'r hebryngydd ym Mro Morgannwg yn cynnwys y canlynol:

 

Cofrestru fel hebryngydd

Rhaid gwneud cais am Drwydded Hebryngydd i'r Awdurdod Lleol yr ydych yn byw ynddo. 

Mae ffurflenni cais ar gael ar gais gan ciee@valeofglamorgan.gov.uk neu i'w lawrlwytho o'r dudalen we hon.

 

I ddod yn hebryngydd, bydd angen y canlynol arnoch:

  1. Cwblhau ffurflen gais
  2. Hyfforddi (h.y. eich bod wedi cwblhau'r hyfforddiant wyneb yn wyneb â Chaerdydd (maent yn cynnig rhaglen dreigl o ddyddiadau hyfforddi drwy gydol y flwyddyn).
  3. Os ydych gwnaethoch chi’r hyfforddiant o’r blaen ond mae hynny dros 3 blynedd yn ôl, mae angen i chi gwblhau'r cwrs gloywi ar-lein 'Hyfforddiant diogelu plant mewn adloniant ar gyfer hebryngyddion' a gynigir gan yr NSPCC (bydd yn rhaid i chi anfon copi o'r dystysgrif pan fyddwch wedi'i chwblhau).
  4. Eich bod wedi pasio gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer gweithio gyda phlant (bydd yn rhaid i chi anfon copi o'r dystysgrif).
  5. Bod wedi darparu dau eirda yn cadarnhau eich addasrwydd ar gyfer y swydd hon.
  6. Bod wedi talu'r ffioedd cysylltiedig.
  7. Hefyd bydd disgwyl i chi ddod i gyfweliad fel rhan o’r broses ymgeisio.

Ar ôl ei gyhoeddi, bydd eich trwydded a'ch bathodyn adnabod yn ddilys am 3 blynedd neu hyd nes y daw eich hyfforddiant / tystysgrif GDG i ben os yw'r naill neu'r llall yn gynt nag ymhen 3 blynedd. 

 

 

Rheoliadau a Dogfennau Canllaw:

 

 

 

Ceir rhagor o wybodaeth am fod yn hebryngydd yn y 'Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Cyflogaeth Plant a Phlant mewn Adloniant'

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mr. G.Horler, Swyddog Gweinyddol, yr Adran Gynhwysiant.