Cost of Living Support Icon

Deddf Gamblo: Eiddo Trwyddedig Alcohol

Mae Deddf Gamblo 2005 yn creu system o reoliadau trwyddedu ar gyfer hapchwarae masnachol yn y wlad hon. Ymhlith newidiadau eraill, mae’r rhoi cyfrifoldebau estynedig i awdurdodau lleol ynghylch trwyddedu eiddo ar gyfer gamblo.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Mae gan dafarndai ac eiddo trwyddedig alcohol arall yr hawl awtomatig i gael dau beiriant hapchwarae categori C neu D.

 

Am dri neu fwy o beiriannau, byddwch angen trwydded peiriannau hapchwarae. Mae'r drwydded yn awdurdodi defnyddio peiriannau Categori C a D yn unig.

 

Ffurflenni Cais

Hysbysiad o hawl awtomatig

(dau beiriant neu lai): 

Trwydded Eiddo Trwyddedig Alcohol 

(tri pheiriant neu fwy):

Y Broses Ymgeisio

  • Hawl Awtomatig i wneud peiriannau hapchwarae ar gael (hyd at 2 beiriant hapchwarae)

    Rhaid i ddeiliad y drwydded roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod trwyddedu a thalu'r ffi a ragnodwyd.

    Os yw'r drwydded eiddo yn cael ei throsglwyddo o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, mae'r hawl awtomatig yn cael ei ganslo, a bydd angen i ddeiliad trwydded newydd yr eiddo roi hysbysiad ysgrifenedig a thalu'r ffi a ragnodwyd os ydynt yn dymuno parhau i gynnig peiriannau hapchwarae ar yr eiddo.

  • Trwyddedau Peiriannau Hapchwarae (3 neu fwy o beiriannau hapchwarae) 

    Rhaid i ddeiliad y drwydded roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod trwyddedu a thalu'r ffi a ragnodwyd.

    Nid yw'r drwydded yn dod i ben, ond mae ffi flynyddol yn daladwy. 

     

    Rhaid talu’r ffi flynyddol gyntaf o fewn 30 diwrnod o roi’r drwydded, ac wedi hynny cyn pen blwydd rhoi’r drwydded. Bydd methiant i dalu'r ffi flynyddol yn arwain at ddiddymu’r drwydded.

    Rhaid i'r drwydded gael ei chadw yn yr eiddo y mae'n perthyn iddo, a gall yr awdurdod ganslo'r drwydded os nad yw hyn yn cael ei dalu.

     

    Nid oes darpariaethau adnewyddu ar gyfer y dosbarth hwn o drwydded oherwydd bod y trwyddedau hyn yn amhenodol. 

  •  Trosglwyddiad
    Os yw'r drwydded eiddo yn cael ei throsglwyddo o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, gall y deiliaid eiddo newydd wneud cais am drosglwyddo’r Drwydded Peiriant Hapchwarae drwy gwblhau adrannau perthnasol y ffurflen gais, gan ddychwelyd y drwydded gyfredol a thalu'r ffi a ragnodwyd.
  • Amrywio’r nifer o beirannau
    Os bydd y deiliad trwydded yn dymuno amrywio'r nifer neu gategori o beiriannau a gynigir ganddo, yna mae'n rhaid iddo lenwi adrannau perthnasol y ffurflen gais, dychwelyd y drwydded bresennol a thalu'r ffi a ragnodwyd.

    Bydd y drwydded yn peidio â bod yn effeithiol os yw'r deiliad yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o ildio’r drwydded, neu os nad yw trwydded yr eiddo ag effaith mwyach, neu os yw'r deiliad trwydded yn peidio â bod yn ddeiliad y drwydded eiddo.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwyster

  • Hawl awtomatig i ddau beiriant (hysbysiad)

    Mae adran 282 o Ddeddf Gamblo 2005 yn rhoi hawl awtomatig i hyd at ddau beiriant hapchwarae Categori C neu D gael eu defnyddio mewn eiddo trwyddedig alcohol.

     

    Er mwyn manteisio ar yr hawl hon, rhaid i’r person sy'n dal trwydded arwerthu roi hysbysiad i'r Bwrdd Trwyddedu o’i fwriad i wneud peiriannau hapchwarae ar gael i'w defnyddio ac mae'n rhaid talu'r ffi a ragnodwyd.

  • Trwyddedau Peiriannau Hapchwarae Eiddo Trwyddedig

    Gall yr Awdurdod Trwyddedu hefyd roi trwyddedau peiriannau hapchwarae eiddo trwyddedig ar gyfer unrhyw nifer o beiriannau categori C neu D mewn eiddo trwyddedig (ac eithrio adeiladau allwerthu). Pan fo’r drwydded yn awdurdodi gwneud ar gael o nifer benodol o beiriannau hapchwarae, bydd hyn yn cymryd lle ac nid yn ychwanegol at, unrhyw hawl awtomatig.

     

    Mae gan dafarndai ac eiddo trwyddedig alcohol arall yr hawl awtomatig i gael dau beiriant hapchwarae categori C neu D. Am dri neu fwy o beiriannau, byddwch angen trwydded peiriannau hapchwarae. Mae'r drwydded yn awdurdodi defnyddio peiriannau Categori C a D yn unig.

     

    Noder: Pan fo’r drwydded peiriannau hapchwarae yn awdurdodi gwneud ar gael nifer benodol o beiriannau hapchwarae mewn eiddo penodol, bydd hyn yn cymryd lle, ac nid yn ychwanegol at, unrhyw hawl awtomatig i ddau beiriant.

  •  Alcohol gyda bwyd

    Mae'n bwysig nodi bod y broses hon yn berthnasol i eiddo gyda thrwydded alcohol ar y safle Deddf Trwyddedu 2003, sy'n gweini alcohol heb yr angen iddo gyd-fynd â bwyd.

     

    Bydd tafarndai, tai bwyta neu westai yn gallu hysbysu/gwneud cais am drwydded - ond dim ond os oes ganddynt far. Ni fydd gwestai a thai bwyta sydd ond yn gweini alcohol gyda bwyd yn unig yn gallu darparu peiriannau hapchwarae ar yr eiddo.

     

    Rhaid i ddeiliaid trwyddedau peiriannau hapchwarae eiddo trwyddedig alcohol gydymffurfio ag Amodau Trwydded a Chod Ymarfer y Comisiwn Gamblo, sydd wedi eu llunio gan y Comisiwn Gamblo ar leoliad a gweithrediad peiriannau.

  

Ffioedd

 

Ffioedd

Math o drwydded

Ffi

Hysbysiad o hawl awtomatig (2 beiriant neu lai)

£50

Rhoi trwydded (3 pheiriant neu fwy)

£150

Ffi flynyddol am drwydded

£50

Newid enw ar drwydded

£25

Copi o drwydded

£15

Amrywio trwydded

£100

Trosglwyddo trwydded

£25

 

Taliad

Cewch dalu eich ffi flynyddol / trosglwyddiad / amrywiad / copi o drwydded:

  • Gyda cherdyn 01446 709105

 

Yn bersonol yn y Swyddfeydd Dinesig gan ddefnyddio arian neu gerdyn talu:

Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Noder: Os ydych yn talu drwy gerdyn dyfynnwch enw’r Eiddo, Rhif cyfeirnod y drwydded, a’r Côd Cost 402084 73191