Cost of Living Support Icon

Diwygio Goruchwylydd Safle Dynodedig (GSD)

Ym mhob eiddo sydd â thrwydded ar gyfer gwerthu alcohol, rhaid i ddeiliad trwydded personol gael ei benodi yn oruchwylydd safle dynodedig (GSD). Fel arfer, dyma fydd y person sydd â chyfrifoldeb bob dydd am redeg yr eiddo.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

Ffurflenni Cais

 

Y Broses Ymgeisio 

I wneud cais bydd angen i chi gyflwyno:

  • y drwydded safle neu, os nad yw hynny'n ymarferol, datganiad o'r rhesymau dros fethu â darparu'r
    drwydded
  • ffurflen gais berthnasol
  • ffi perthnasol (nid oes modd cael arian yn ôl am hwn)
  • ffurflen ganiatâd gan y GDS penodol i ddangos eu bod yn rhoi caniatâd i gymryd y rôl hwn.

Dim ond un GDS fydd yn berthnasol i bob trwydded safle.

 

  •  Hysbysiad Cais

    Rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i Brif Swyddog yr Heddlu'r ardal y mae'r safle ynddi ac i'r GSD dynodedig / Swydda Gartref (os oes un).  Os yn gwneud cais ar-lein drwy gyfrwng UK Welcomes neu Flexible Support For Business, yna Cyngor Bro Morgannwg sy’n gyfrifol am anfon y copïau perthnasol i’r awdurdodau cyfrifol.
     
    Mae gan Brif Swyddog yr Heddlu / Swydda Gartref 14 diwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y cânt wybod amdano, i ystyried y cais. Gallant un ai wrthwynebu dynodiad y goruchwylydd safle newydd os ydynt, mewn amgylchiadau eithriadol, o’r farn y byddai’r penodiad yn tanseilio'r amcan atal troseddau a nodir yn Neddf Trwyddedu 2003; neu os nad oes gwrthwynebiad i’r cais.
     
    Ni ddisgwylir iddo gymryd mwy na 21 diwrnod i benderfynu ar gais am newid GSD (os ni dderbynnir unrhyw wrthwynebiad), gan ddechrau gyda derbyn y gwaith papur cywir sydd ynghlwm wrth y cais (gan gynnwys prif swyddog yr heddlu / Swydda Gartref) a'r ffi cysylltiedig (gweler isod). Yn y sefyllfa hon, mae’n rhaid i’r awdurdod trwyddedu ganiatáu newid y GSD.


    Os caiff gwrthwynebiad ei dderbyn gan brif swyddog yr heddlu / Swydda Gartref, gwneir trefniadau i Is-Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor glywed y cais a rhoddir hysbysiad gwrthwynebu o fewn 20 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y cyfnod y mae gan brif swyddog yr heddlu hawl i roi hysbysiad.
     
    Mae manylion ynghylch dyddiad ac amser y gwrandawiad ynghyd â manylion y gweithdrefnau sydd i’w dilyn i gael eu hanfon at yr ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu / Swydda Gartref o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad y gwrandawiad.
     
    Rhaid i’r ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu roi gwybod i Gyngor Bro Morgannwg o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn dechrau’r gwrandawiad yn nodi:

    • a fyddant yn mynychu’r gwrandawiad yn bersonol
    • a fyddant yn cael eu cynrychioli gan rywun arall (er enghraifft, cyfreithiwr, cynghorydd, aelod Seneddol)
    • a ydynt yn credu nad oes angen gwrandawiad (os, er enghraifft fod cytundeb wedi ei sicrhau cyn y gwrandawiad ffurfiol)
    • Unrhyw gais i berson arall fynychu’r gwrandawiad, gan gynnwys sut y gallant fod o fudd i’r awdurdod trwyddedu o safbwynt y cais

     

  •  Penderfyniad

    Os caiff y cais ei gymeradwyo neu ei wrthod, bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi gwybod i'r ymgeisydd, y GSD arfaethedig a phrif swyddog yr heddlu / Swydda Gartref. 


    Pan fo gwrandawiad, rhaid i’r pwyllgor roi rhesymau clir a chyflawn dros ei benderfyniad ar y cais yn y pen draw.

     

    Os caiff y cais ei gymeradwyo, rhaid i’r hysbysiad nodi'r amser y bydd y diwygiad yn berthnasol.

  •  Gwrandawiad - pa gamau sydd ar gael i'r is-bwyllgor trwyddedu?

    Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal, oni bai bod yr awdurdod trwyddedu, yr ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu / Swydda Gartref (sy’n rhoi gwybod) yn cytuno drwy gyfryngu nad oes angen gwrandawiad. 


    Mae Deddf 2003 yn nodi bod rhaid i’r ymgeisydd wneud cais i’r unigolyn gymryd drosodd rôl y GSD yn syth, ac mewn achosion o'r fath, byddai'r mater yn ymwneud â ph'un ai a ddylid diswyddo'r person hwn ai peidio. Felly, rhaid i’r pwyllgor gyfyngu ar ei ystyriaeth o drosedd ac anrhefn a rhoi rhesymau cynhwysfawr dros ei benderfyniad. 


    Yn yr achos hwn, byddai’r pwyllgor yn gwrthod y cais pe bai’n ystyried bod digon o reswm; fel arall, byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo.

 

 

Cydsyniad Mud


Oes. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel bod eich cais wedi cael ei roi os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed. 
 
Y cyfnod targed yw 14 diwrnod calendr. 

Mae’n bosibl y bydd hyn yn cael ei ehangu er mwyn caniatáu gwrandawiad os bydd angen.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd


Mae’r Ddeddf hon yn galluogi i ddiwygiad y GSD ddechrau’n syth cyn gynted ag y mae’r awdurdod trwyddedu yn ei dderbyn, nes bydd yn cael ei bennu neu ei ddiddymu'n ffurfiol. Y rheswm dros hyn yw sicrhau nad oes unrhyw ymyrraeth i fusnes arferol yn yr eiddo. 


Ble bo’r goruchwylydd yn cael ei newid yn aml, gall deiliaid y drwydded safle gyflwyno'r ffurflen cyn nodi'r dyddiad pan fydd yr unigolyn newydd yn ei swydd a'r newid yn weithredol.
 
Rhaid i ddeiliad y drwydded safle gyflwyno cais.
 
Nodau ac amcanion trwyddedu
Mae’r ddeddfwriaeth (Deddf Trwyddedu 2003) yn rhoi ffocws clir ar bedwar nod statudol, y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw pan gaiff swyddogaethau trwyddedu eu rhoi ar waith.
Mae’r amodau fel a ganlyn:

  • atal troseddu ac anrhefn
  • diogelwch cyhoeddus
  • atal niwsans cyhoeddus
  • amddiffyn plant rhag niwed

Mae pob amcan yr un mor bwysig. Mae’n bwysig nodi nad oes yna unrhyw amcanion trwyddedu eraill, fel bod y pedwar amcan yma yn ystyriaethau hollbwysig drwy’r adeg.

 

Ffioedd

Rhaid cyflwyno cais wedi'i gwblhau gyda ffi o £23.00. Nid oes modd cael arian yn ôl am y ffi hwn.

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni os na ganiatawyd y cais

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Bydd unrhyw berson sy’n anfodlon ar beidio â chael trwydded yn gallu apelio i’r Llys Ynadon, a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau iddo ynghylch y drwydded neu ei amodau fel mae ei’n credu sy’n briodol.

     

    Proses Apelio

    Bydd gan yr ymgeisydd a phrif swyddog yr heddlu'r hawl i apelio i'r Llys Ynadon, ac mae'n rhaid cyflwyno'r apêl hon i'r llys o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad gwrthwynebu. 


    Y cyfnod hiraf posibl ar gyfer pennu ar ddiwygio'r GSD, os oes gwrandawiad yn mynd rhagddo, yw 77 o ddiwrnodiau'n olynol.

  •  Gwneud yn Iawn i Ddeiliaid Trwyddedau

    Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Bydd unrhyw berson sy’n anfodlon ar beidio â chael trwydded yn gallu apelio i’r Llys Ynadon, a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau iddo ynghylch y drwydded neu ei amodau.

  •  Cwyn Cwsmer

    Mewn achosion o gwyno, hoffem argymell y dylech gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda phrawf danfon. 
     
    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.    
     
    Os oes gennych gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â UK European Consumer Centre.

 

 

Rheoliadau a Chanllawiau