Cost of Living Support Icon

Tystysgrifau Safle Clwb

Cyflwynir tystysgrif safle clwb i awdurdodi defnyddio’r safle ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy, sef cyflenwi alcohol a darparu adloniant a reoleiddir.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU 


Mae clybiau yn sefydliadau sy’n galluogi pobl i ddod ynghyd at ddibenion cymdeithasol, chwaraeon neu wleidyddol penodol a phrynu swmp o alcohol fel aelodau'r sefydliad i'w gyflenwi yn y clwb. Yn gyffredinol mae’r rhain yn cynnwys clybiau gwleidyddol, y Lleng Brenhinol Prydeinig, clybiau gweithwyr a chlybiau cymdeithasol a chwaraeon.

Yn dechnegol mae’r clwb ond yn gwerthu alcohol i westeion. Pan fo aelodau yn prynu alcohol, nid yw alcohol yn cael ei werthu (gan fod yr aelod yn berchen ar ran o'r cyflenwad alcohol ac mae'r arian sy'n newid dwylo dros y bar ond yn fodd i sicrhau ecwiti i aelodau).

   

Ffurflenni Cais

 

Ymgeisiwch ar-lein

Amodau

Amodau Gorfodol

Nid yw tystysgrif safle clwb yn awdurdodi gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle, oni bai ei fod hefyd yn awdurdodi gwerthu alcohol i aelod o’r clwb i’w yfed ar y safle hwnnw.  Rhaid i dystysgrif safle clwb sy’n awdurdodi gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle gynnwys yr amodau canlynol:

 

 - Yr amod cyntaf yw: rhaid i’r cyflenwad gael ei wneud ar adeg pan mae’r safle ar agor ar gyfer gwerthu alcohol, yn unol â thystysgrif safle’r clwb, i aelodau’r clwb i’w yfed ar y safle.

 

 - Yr ail amod yw bod unrhyw alcohol sy’n cael ei werthu i’w yfed oddi ar y safle, mewn cynhwysydd wedi’i selio.

 

 - Y drydedd amod yw bod unrhyw gyflenwad o alcohol i’w yfed oddi ar y safle, yn cael ei werthu i aelod o’r clwb ei hun.

 

Troseddau a Dirwyon

  • Methiant i roi gwybod am newid enw neu amrywio rheolau’r clwb
  • Methiant i roi gwybod am newid cyfeiriad cofrestredig y clwb
  • Methiant i gyflwyno Tystysgrif Safle’r Clwb i’w ddiwygio, o fewn 14 diwrnod i gais gan yr Awdurdod Trwyddedu
  • Dyletswydd i gadw, arddangos a chyflwyno tystysgrif safle’r clwb ar y safle
  • Archwiliad o’r safle cyn i’r clwb dderbyn tystysgrif safle
  • Methiant i ddangos trwydded bersonol i werthu neu awdurdodi gwerthiant alcohol, i Swyddog Awdurdodedig tra ar y safle
  • Caniatáu gweithgareddau trwyddedig nad ydyn nhw wedi cael eu hawdurdodi
  • Manwerthu alcohol heb awdurdod

  • Bod ag alcohol yn eich meddiant gyda’r bwriad o’i werthu neu ei gyflenwi, heb awdurdod
  • Caniatáu ymddygiad afreolus ar safle trwyddedig
  • Gwerthu neu gyflenwi alcohol i unigolyn sy’n feddw
  • Prynu alcohol i unigolyn sy’n feddw
  • Methiant i adael safle trwyddedig yn dilyn cais gan Swyddog yr Heddlu neu Swyddog wedi’i Awdurdodi
  • Cadw nwyddau wedi’u mewnforio’n anghyfreithlon ar y safle dan sylw
  • Caniatáu plant dan 16 heb oedolyn ar y safle dan sylw pan fo alcohol ar gael
  • Gwerthu neu gyflenwi alcohol i blant o dan 18
  • Caniatáu i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi i blant o dan 18
  • Gwerthu neu gyflenwi losin liqueur i blant o dan 16
  • Prynu neu gyflenwi alcohol gan blant o dan 18 neu ar eu rhan
  • Alcohol yn cael ei yfed gan blant o dan 18 ar y safle dan sylw, neu ganiatáu iddo ddigwydd 
  • Cludo, neu ganiatáu eraill i gludo alcohol i blant o dan 18
  • Anfon plentyn o dan 18 i brynu alcohol i’w yfed
  • Caniatáu i blant o dan 18 i werthu neu gyflenwi alcohol i blant eraill
  • Gwerthu alcohol mewn cerbyd sy’n symud, neu ohono
  • Gwneud datganiad ffug mewn cysylltiad â chais am drwydded