Cost of Living Support Icon

Hysbysiad Awdurdod Dros Dro

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn creu trefniadau arbennig er mwyn parhau â chaniatadau dan drwydded safle pan fo deiliad trwydded yn marw’n sydyn neu’n dod yn fethdalwr neu’n sâl oherwydd salwch meddwl.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

  •  Y Broses

    Mae’r amgylchiadau hyn yn codi pan fo trwydded safle wedi dod i ben oherwydd marwolaeth, methiant neu ansolfedd deiliad y drwydded. Gallwch hysbysu'r awdurdod trwyddedu o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r drwydded ddod i ben ynghyd â’r ffi perthnasol. Nid oes modd ad-dalu’r ffi hwn. Dylai Prif Swyddog yr Heddlu gael copi o hwn hefyd, Swydda Gartref.

     

    •  Prawf o hawl i fyw a gweithio – Gweler y nodiadau canllaw am ragor o wybodaeth


    Os rydych yn gwneud cais ar-lein drwy UKWelcomes neu Flexible Support for Business, Cyngor Bro Morgannwg sy’n gyfrifol am anfon copi ymlaen at Brif Swyddog yr Heddlu, Swydda Gartref.


    Ni fyddai'r drwydded safle yn ddilys nes y derbynnir hysbysiad o'r fath a byddai ymgymryd â gweithgareddau trwyddedadwy yn ystod y cyfnod hwnnw yn anghyfreithlon. Bydd gweithgareddau o’r fath yn drosedd fel gweithgaredd trwyddedadwy anawdurdodedig, ac mae modd honni bod hyn yn 'diwydrwydd dyladwy’. Gall hyn fod yn berthnasol pan fydd rheolwr safle penodol yn gwbl anymwybodol am gyfnod o amser bod deiliad y drwydded safle wedi marw.


    Cyn gynted ag y bydd hysbysiad awdurdod dros dro wedi’i gyflwyno o fewn y cyfnod 28 diwrnod, gall y busnes barhau ag unrhyw weithgareddau trwyddedadwy a ganiateir yn y drwydded safle. 


    Dim ond person sydd â buddiant penodol yn y safle gall gyflwyno hysbysiad dros dro, neu berson sy'n gysylltiedig â chyn-ddeiliad y drwydded (fel arfer cynrychiolwr personol cyn-deiliad y drwydded neu berson sydd ag atwrneiaeth ar ei ran neu ymarferydd ansolfedd y person os ydyw wedi dod yn fethdalwr).


    Nod cyflwyno’r hysbysiad yw i adfer y drwydded eiddo fel mai’r person sy’n cyflwyno’r hysbysiad yw deiliad y drwydded ac felly bydd modd i weithgareddau trwyddedadwy ddigwydd yn y safle yn ddibynnol ar gais neu drosglwyddiad ffurfiol.


    Tri mis yw’r cyfnod mwyaf y gall hysbysiad awdurdod dros dro fod ar waith.

    Ni fydd yr hysbysiad awdurdod dros dro yn berthnasol oni bai bod prif swyddog yr heddlu wedi derbyn copi o’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod 28 diwrnod cychwynnol. O fewn 48 awr o dderbyn y copi, ac os yw'r heddlu'n credu y byddai methu â chanslo'r awdurdod dros dro mewn amgylchiadau eithriadol yn tanseilio'r amcan atal troseddu, gall yr heddlu gyflwyno hysbysiad yn sgil hynny i'r awdurdod trwyddedu. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd rhaid i'r awdurdod trwyddedu gynnal gwrandawiad i ystyried yr hysbysiad gwrthwynebu os yw'n penderfynu ei bod hi'n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn hyrwyddo'r amcan atal troseddu.


    Bydd yr awdurdod trwyddedu'n ymwybodol o pa mor frys yw'r sefyllfa a'r ffaith bod angen ystyried y gwrthwynebiad yn gyflym.

  •  Trosglwyddo

    Dylid nodi os yw trwydded safle yn dod i ben (oherwydd marwolaeth, analluedd neu ansolfedd deiliad y drwydded ac ati) neu os yw’n annilys, ond nid oes hysbysiad awdurdod dros dro yn cael ei gyflwyno, gall person cymwys wneud cais i drosglwyddo’r drwydded safle o fewn 28 diwrnod o'r cyfnod y daw y drwydded i ben. Bydd y drwydded yn cael ei throsglwyddo’n syth yn ddibynnol ar benderfyniad y cais. Golyga hyn y bydd y drwydded yn ôl yn ddilys ar ôl i’r awdurdod trwyddedu dderbyn cais i'w throsglwyddo. Rhaid i’r person sy’n gwneud cais am drosglwyddiad anfon copi o’r cais at brif swyddog yr heddlu.

  •  Cais am drwydded safle

    Os nad yw hysbysiad awdurdod dros dro yn cael ei dderbyn o fewn 28 diwrnod o’r drwydded yn dod i ben na chais am drosglwyddiad fel y nodir uchod, bydd y drwydded yn annilys. Bydd trwydded safle pellach yn cael ei chyflwyno yn dilyn cais newydd am drwydded safle.

 

 

Cydsyniad Mud

Oes. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel bod eich hysbysiad wedi cael ei roi os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.
 
Y cyfnod targed yw 30 diwrnod calendr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Mewn amgylchiadau arferol, byddai’r drwydded yn dod i ben mewn sefyllfaoedd o’r fath. Fodd bynnag, efallai y bydd cyfnod o amser pan nad oes modd ymdrin ag ystâd y person sydd wedi marw neu cyn y mae modd penodi derbynnydd-gweinyddwr.
 
Gall hyn gael effaith niweidiol ar bobl sydd â buddiant yn y safle, megis y perchennog, y prydlesydd neu gyflogeion sy’n gweithio yn y safle dan sylw; a gallai darfu'n ddiangen ar gynlluniau cwsmeriaid.


Felly, mae’r Ddeddf yn sicrhau bod modd adfer y drwydded mewn cyfnod o amser penodol dan amgylchiadau penodol.

 

Ffioedd

£23.00 yw’r ffi ar gyfer hysbysiad awdurdod dros dro. Nid oes modd ad-dalu’r ffi.

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni Cais nas Cyneradwywyd

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon am iddo beidio â chael trwydded apelio i'r Llys Ynadon a fydd yn cyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

  •  Gwneud yn Iawn i Ddeiliad Trwydded
    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Gall unrhyw berson sy’n anfodlon ar unrhyw amodau sy’n berthnasol i drwydded apelio i'r Llys Ynadon a fydd yn cyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau.

  •  Cwyn Cwsmer
    Byddem wastad yn argymell, os daw cwyn i law, y dylech gysylltu â'r masnachwr yn gyntaf, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda thystiolaeth iddo gael ei dderbyn. 
     
    Os nad yw hynny wedi gweithio ac rydych yn byw yn y DU, bydd Consumer Direct yn gallu rhoi cyngor i chi.     
     
    Os cewch gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â Chanolfan Cwsmeriaid Ewropeaidd y DU.

 

 

Rheoliadau a Chanllawiau

Rheoliadau