Cost of Living Support Icon

Trwydded Safle: Newid Enw a Chyfeiriad

Rhaid i ddeiliad trwydded safle, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol, roi gwybod i'r awdurdod trwyddedu am unrhyw newid o ran eu henw neu gyfeiriad. 

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Ardal:

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

Wrth roi gwybod am newid o ran enw neu gyfeiriad rhaid anfon y ffurflen berthnasol, y ffi ofynnol (ffi ymgeisio na ad-delir) a’r drwydded safle (neu’r rhan briodol o’r drwydded), neu, os nad yw hynny’n ymarferol, datganiad o'r rhesymau am fethu â chyflwyno’r drwydded (neu ran ohoni).

 

Caiff y drwydded (neu ran ohoni) ei diweddaru a’i dychwelyd i'r deiliad ar gyfer ei harddangos / cyfeirio ati. 

 

Cydsyniad Mud

Ie. Mae hyn yn golygu yr ystyrir bod eich cais wedi’i gwblhau a bod ein cofnodion wedi’u diweddaru yn unol â hynny os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Y cyfnod targed yw 14 diwrnod calendr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid i ddeiliad trwydded safle, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol, roi gwybod i'r awdurdod trwyddedu perthnasol am unrhyw newid:  

  • I’w henw neu gyfeiriad 
  • Oni bai bod y goruchwyliwr safle dynodedig eisoes wedi rhoi gwybod i’r awdurdod, enw neu gyfeiriad y goruchwyliwr hwnnw 

Lle nad y goruchwyliwr safle dynodedig dan drwydded safle yw deiliad y drwydded, gallai roi gwybod i’r awdurdod trwyddedu perthnasol am unrhyw newid o ran ei enw neu gyfeiriad.

 

Pan fo’r goruchwyliwr safle dynodedig yn rhoi hysbysiad dan isadran, rhaid iddo, cyn gynted ag sy’n ymarferol rhesymol, roi copi o’r hysbysiad hwnnw i ddeiliad y drwydded safle. 

 

Ffioedd

Mae ffi o £10.50 sy’n daladwy gyda’r hysbysiad i newid enw neu gyfeiriad.

 

Ni ellir ad-dalu'r ffi hon.

 

Troseddau a Chosbau

Mae person yn troseddu os ydyw'n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â’r gofynion.

 

Bydd person sy’n euog o drosedd o’r fath yn atebol dan gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

 

Cwynion a Chamau Unioni Eraill

Unioni Cais nas Cymeradwywyd: Yn y lle cyntaf cysylltwch â’r Awdurdod Lleol.

 

Gwneud yn Iawn i Ddeiliad Trwydded: Yn y lle cyntaf cysylltwch â’r Awdurdod Lleol.

 

Cwyn Cwsmer: Gweler ein gweithdrefn gwyno i gwsmeriaid.

 

Rheoliadau a Chanllawiau