Cost of Living Support Icon

Sefydliadau Rhyw

Mae sefydliadau rhyw yn siopau rhyw, sinemâu rhyw a lleoliadau adloniant rhyw sy'n cynnig dawnsio glin, sioeau stripio a gweithgareddau dawnsio ar fyrddau ymysg eraill. 

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Y Broses Ymgeisio

I wneud cais i gymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded, mae angen i chi roi'r canlynol i ni:

  • Ffurflen gais wedi ei chwblhau
  • Ffi ymgeisio
  • Atodiad A – rhaid ei gwblhau a’i gyflwyno i bob rheolwr / rheolwr wrth gefn
  • Atodiad B – gwybodaeth am y dogfennau i’w cyflwyno, gofynion ar gyfer y cynllun gosod
  • Hysbyseb

    Dylai ymgeiswyr i gymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded hysbysebu eu cais mewn papur newydd lleol. Rhaid i'r hysbyseb hon gael ei chyhoeddi o fewn 7 diwrnod i ddyddiad y cais.
     
    Lle bo’r cais yn ymwneud â safle, dylai’r hysbyseb hefyd gael ei dangos am 21 diwrnod yn olynol yn dechrau gyda dyddiad y cais ar neu ger y safle ac mewn lleoliad lle gall y cyhoedd ei darllen yn hwylus. Gallai fod angen mwy nag un hysbyseb ar safleoedd neu adeiladau mawr sydd wedi’u lleoli i ffwrdd o’r brif dramwyfa, yn ôl disgresiwn y Cyngor. Rhaid i’r hysbyseb nodi’r safleoedd perthnasol.
     
    Rhaid i bob hysbysiad sy’n ymwneud â cherbyd, cynhwysydd neu stondin nodi’n benodol a chaiff ei ddefnyddio fel sefydliad rhyw.
     
    Dyletswydd i roi gwybod i’r heddlu
    Yn achos ceisiadau electronig:
    Caiff copi o’r cais i gymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded ei anfon gan yr awdurdod trwyddedu i Brif Swyddog yr Heddlu o fewn 7 diwrnod o dderbyn y cais.
     
    Mewn unrhyw achos arall:
    Ni ddylai’r ymgeisydd anfon copi o’r cais i gymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded i Brif Swyddog yr Heddlu fwy na 7 diwrnod ar ôl dyddiad y cais.

  •  Ymgynghoriad

    Ar ôl derbyn eich cais, gellir ymgynghori â’r Heddlu, yr Awdurdod Tân, Adran Gynllunio’r Cyngor, Iechyd yr Amgylchedd, Gwasanaethau Plant a Safonau Masnach.

     
    Yn ogystal, gall ymgynghoriad gael ei gynnal gyda chymdeithasau trigolion lleol, cynghorau plwyf, aelodau ward lleol ac, mewn rhai achosion, eiddo/preswylwyr cyfagos neu unrhyw berson perthnasol arall a ystyrir yn briodol gan Gyngor Bro Morgannwg.

  •  Gwrthwynebiadau

    Lle bo person am wrthwynebu cais i gymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded, dylai roi hysbysiad ysgrifenedig o'i wrthwynebiad i Gyngor Bro Morgannwg, gan nodi'r telerau cyffredinol a’r rhesymau dros wrthwynebu, o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y cais.
     
    Lle derbynnir gwrthwynebiadau, bydd Cyngor Bro Morgannwg, cyn ystyried y cais, yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o delerau cyffredinol y gwrthwynebiad i'r ymgeisydd.
     
    Ni fydd Cyngor Bro Morgannwg, heb ganiatâd y person sy’n gwneud y gwrthwynebiad, yn rhoi ei enw neu ei gyfeiriad i’r ymgeisydd.
     
    Wrth ystyried unrhyw gais i gymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan Brif Swyddog yr Heddlu, ac unrhyw wrthwynebiadau.

  •  Ystyriaethau

    Rhaid i geisiadau i gymeradwyo, trosglwyddo ac amrywio gael gwrandawiad gan Bwyllgor Trwyddedu'r Cyngor. Rhaid i geisiadau adnewyddu sy’n derbyn gwrthwynebiadau hefyd gael gwrandawiad gan y Pwyllgor Trwyddedu.
     
    Gall cais i gymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo Trwydded Sefydliad Rhyw gael ei wrthod yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

    • nid yw’r ymgeisydd yn addas i ddal y drwydded gan ei fod wedi cael ei euogfarnu o drosedd neu am unrhyw resymau eraill
    • os caiff y drwydded ei chymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo a bod y busnes y mae’n berthnasol iddo yn cael ei reoli neu ei gynnal er budd person, ac eithrio’r ymgeisydd, a fyddai’n cael ei wrthod o ran cymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded o’r fath pe bai’n cyflwyno’r cais ei hun

     

    Byddai cymeradwyo’r drwydded yn amhriodol, o ystyried:

    • cymeriad y lleoliad
    • defnydd o unrhyw safle yn y cyffiniau, neu
    • osodiad, cymeriad neu gyflwr y safle, y cerbyd, y cynhwysydd neu’r stondin sy’n ymwneud â’r cais
    • lefelau trosedd ac anrhefn yn yr ardal

     

  •  Gwrthod trwydded

    Lle bo Cyngor Bro Morgannwg yn gwrthod cymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded, bydd yn anfon datganiad at yr ymgeisydd yn cynnwys y rhesymau dros ei benderfyniad.

  •  Amrywio trwydded
    Gall deiliad trwydded wneud cais i amrywio telerau, amodau neu gyfyngiadau trwydded neu rai y mae’r drwydded yn ddarostyngedig iddynt. Gellir nodi hyn yn y cais.

 

 

Cydsyniad Mud


Na. Mae er budd i’r cyhoedd i’r awdurdod brosesu eich cais cyn ei ddyfarnu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.
 
Y cyfnod amser targed yw 28 diwrnod calendr.
Gall hyn gael ei ymestyn os caiff gwrthwynebiadau eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

  •  Yr Ymgeisydd
    • rhaid iddo fod yn 18 oed
    • ni ddylai fod wedi’i wahardd rhag dal trwydded sefydliad rhyw
    • rhaid iddo fod wedi bod yn breswylydd yn un o Wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd am o leiaf chwe mis cyn y cais neu, os yn gorff corfforaethol, wedi’i gorffori yn un o Wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd
    • ni ddylai fod wedi cael gwrthod cymeradwyo neu adnewyddu trwydded ar gyfer y safle dan sylw o fewn y 12 mis diwethaf oni bai bod y gwrthodiad wedi’i wrthdroi ar apêl.





  •  Sinema Rhyw

    Mae ‘sinema rhyw’ yn unrhyw safle, cerbyd, cynhwysydd neu stondin a ddefnyddir i raddau helaeth i arddangos lluniau sy’n symud, sydd:

    • yn ymwneud yn bennaf â phortreadu, neu sy'n delio â neu’n gysylltiedig â, neu sydd â'r bwriad o ysgogi neu annog gweithgarwch rhywiol; neu weithredoedd o rym neu atal sy'n gysylltiedig â gweithgarwch rhywiol; neu
    • yn ymwneud yn bennaf â phortreadu, neu'n sy'n delio â neu'n gysylltiedig ag organau cenhedlu neu swyddogaethau wrinol neu ysgarthol
    • Nid yw sinema rhyw yn cynnwys anedd-dŷ nad yw’r cyhoedd yn cael mynediad iddo

     

    Ni chaiff safle ond ei ystyried yn sinema rhyw:

    • oros yw wedi'i drwyddedu dan Adran 1 Deddf Sinemâu 1985 i’w ddefnyddio at ddiben y mae angen trwydded ar ei gyfer; neu
    • os caiff ei ddefnyddio ar gyfer arddangosfa y mae adran 6 y Ddeddf honno (arddangosfeydd anfasnachol penodol) yn berthnasol iddi a gyflwynir gan sefydliad eithriedig dan ystyr adran 6(6) y Ddeddf honno.

     

  •  Siop Ryw

    Ystyr 'siop ryw’ yw unrhyw safle, cerbyd, cynhwysydd neu stondin a ddefnyddir ar gyfer busnes sy’n cynnwys i raddau helaeth werthu, llogi, cyfnewid, benthyg neu arddangos:

    • eitemau rhyw
    • unrhyw bethau eraill y bwriedir eu defnyddio mewn cysylltiad â neu at y diben o ysgogi neu annog gweithgarwch rhywiol; neu weithredoedd o rym neu atal sy’n gysylltiedig â gweithgarwch rhywiol

     

    Ni chaiff unrhyw safle ond ei ystyried yn siop ryw gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i arddangos darluniau sy'n symud mewn unrhyw fodd.
     
    Mae trwydded siop ryw yn rhoi hawl i ddeiliad y drwydded werthu ffilmiau (gan gynnwys DVDs a fideos) a ddosberthir yn 18 gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC). Dim ond i oedolion ar safle siop ryw drwyddedig y dylid dosbarthu ffilmiau o’r fath.
    Mae’n drosedd gwerthu ffilmiau o’r fath o safleoedd didrwydded neu drwy archeb bost.

  •  Lleoliad Adloniant Rhyw

    Mae ‘lleoliad adloniant rhyw’ yn unrhyw safle lle darperir adloniant perthnasol o flaen cynulleidfa fyw er budd ariannol y trefnydd neu’r diddanwr.

  •  Adloniant Perthnasol

    Diffinnir hyn dan Atodlen 3 (fel y’i diwygiwyd gan adran 27 Deddf Heddlua a Throsedd 2009) fel unrhyw berfformiad byw neu arddangosiad byw o noethni y gellir ystyried yn rhesymol, waeth beth fo'r budd ariannol, ei fod yn cael ei ddarparu yn llwyr neu’n bennaf at y diben o gyffroi'n rhywiol unrhyw aelod o’r gynulleidfa, drwy eiriau neu ddulliau eraill.

  •  Eitem Rhyw

    Mae ‘eitem rhyw’ yn unrhyw beth a ddefnyddir mewn cysylltiad â neu at y diben o ysgogi neu annog gweithgarwch rhywiol neu weithredoedd o rym neu atal sy’n gysylltiedig â gweithgarwch rhywiol

 

 

Amodau

Efallai y bydd yr Awdurdod Trwyddedu neu’r Awdurdod Cyfrifol yn gosod amodau ychwanegol os oes angen.

 

Ffioedd

fees
MathFfi
Cymeradwyo £3,000
Adnewyddu £2,000
Trosglwyddo £2,000
Amrywio Dd/B

 

Gwybodaeth Ategol

Atodiad B - Dogfennau

Mae Atodiad B yn cynnwys rhestr o ddogfennau i ategu’r cais fel y nodir isod ynghyd â gofynion ar gyfer y cynllun gosod a’r dogfennau sydd eu hangen fel tystiolaeth o ran yr hysbysiad cyhoeddus a’r gwasanaeth. Dogfennau i’w cyflwyno gyda’r cais:

  • Cynllun o raddfa’r safle (1:1250)
  • Darluniau’n dangos y wedd flaen fel y mae ar hyn o bryd
  • Darluniau’n dangos y wedd flaen a gynigir, gan gynnwys arwyddion, hysbysebu ac arddangosfa ffenestr arfaethedig
  • Caniatâd cynllunio
  • Cynllun gosod i raddfa
  • Tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon
  • Os yw’r Ymgeisydd yn gwmni, copïau o Femorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni
  • Os yw’r Ymgeisydd yn bartneriaeth, copi ardystiedig o Weithred y Bartneriaeth
  • Copi o unrhyw drwyddedau eraill ar gyfer y safle, y cerbyd, y cynhwysydd neu’r stondin
  • Cod Ymarfer ar gyfer Perfformwyr
  • Rheolau i Gwsmeriaid
  • Polisi Lles Perfformwyr

 

Pa mor hir mae'r drwydded yn para?
Bydd trwydded mewn grym am flwyddyn neu gyfnod byrrach fel y nodir yn y drwydded yn ôl disgresiwn Cyngor Bro Morgannwg.
 
Lle bo cais wedi’i wneud i adnewyddu trwydded cyn y dyddiad dod i ben, ystyrir bod y drwydded mewn grym er bod y dyddiad wedi pasio tan fod y cais yn cael ei dynnu’n ôl neu fod Cyngor Bro Morgannwg yn dod i benderfyniad yn ei chylch.
 
Lle bo cais wedi’i wneud i drosglwyddo trwydded cyn y dyddiad dod i ben, ystyrir ei bod mewn grym, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol, tan fod y cais yn cael ei dynnu’n ôl neu y penderfynir arno er bod y dyddiad wedi pasio neu fod y person y caiff y drwydded ei throsglwyddo iddo yn bwriadu parhau â busnes y sefydliad rhyw.
 
Hawliau Mynediad
Lle bo gwarant yn cael ei chymeradwyo gan ynad heddwch, gall cwnstabl yr heddlu neu swyddog awdurdodedig awdurdod lleol, ar unrhyw adeg resymol, gael mynediad i ac archwilio unrhyw sefydliad rhyw y mae trwydded mewn grym ar ei gyfer gyda’r bwriad o ganfod troseddau amrywiol.
 
Trosglwyddo a chanslo trwyddedau
Os yw deiliad trwydded yn marw, bydd y drwydded yn cael ei throsglwyddo i’w gynrychiolwyr personol ac yn parhau’n weithredol, oni bai ei bod wedi’i dirymu yn flaenorol, hyd at ddiwedd cyfnod o dri mis ar ôl dyddiad y farwolaeth. Bydd yn dod i ben wedi hynny. 
 
Gall yr awdurdod priodol, o bryd i’w gilydd, ar gais y cynrychiolwyr hynny, ymestyn neu ymestyn ymhellach y cyfnod o dri mis os yw’r awdurdod yn fodlon bod angen gwneud hynny at y diben o ddirwyn-i-ben ystâd yr ymadawedig ac nad oes unrhyw amgylchiadau yn gwneud hynny'n annerbyniol.
 
Canslo
Gall Cyngor Bro Morgannwg, ar gais ysgrifenedig deiliad trwydded, ganslo’r drwydded.

 

Troseddau a Dirwyon

Bydd person sydd:

  • yn fwriadol yn defnyddio neu’n achosi neu’n caniatáu defnydd o unrhyw safle, cerbyd, cynhwysydd neu stondin, ac eithrio o dan ac yn unol â thelerau trwydded
  • fel deiliad trwydded sefydliad rhyw, yn cyflogi yn y busnes neu’r sefydliad unrhyw berson y mae’n gwybod ei fod wedi’i wahardd rhag dal trwydded o’r fath
  • fel deiliad trwydded neu wasanaethwr neu asiant deiliad trwydded, heb esgus rhesymol, yn fwriadol yn mynd yn groes i delerau, amodau neu gyfyngiadau a nodir yn y drwydded, neu’n caniatáu hynny
  • mewn cysylltiad â chais i gymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded, yn gwneud datganiad y mae’n gwybod neu’n credu ei fod yn ffug mewn unrhyw ffordd berthnasol, yn euog o drosedd
  • heb esgus rhesymol, yn caniatáu yn fwriadol i berson dan 18 oed gael mynediad i sefydliad
  • yn cyflogi person y mae’n gwybod ei fod dan 18 oed ym musnes y sefydliad

yn euog o drosedd sy’n ddarostyngedig, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy nag £20,000.

 

Bydd person sy’n methu ag arddangos copi o’r drwydded ac unrhyw amodau yn y safle yn euog o drosedd ac yn ddarostyngedig, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1000 ar hyn o bryd).
 
Bydd person sydd, heb esgus rhesymol, yn gwrthod caniatáu i gwnstabl neu swyddog awdurdodedig arfer pŵer mynediad dan warant, am bob gwrthodiad o'r fath yn ddarostyngedig, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd).
 
Lle bo trwydded yn cael ei dirymu, bydd y deiliad yn cael ei wahardd rhag dal neu gael trwydded ym Mro Morgannwg am gyfnod o 12 mis, yn dechrau ar ddyddiad y dirymiad.

 

Troseddau gan gyrff corfforaethol
Lle profir bod trosedd a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi’i chyflawni gyda chydsyniad neu oddefiad, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg yn y corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn capasiti o’r fath, bydd y person hwnnw ynghyd â’r corff corfforaethol yn euog o’r drosedd.
 
Lle bo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau o fewn ardal, bydd y sefyllfa uchod yn berthnasol i weithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaeth reoli fel petai'n gyfarwyddwr ar y corff corfforaethol.

 

Cwynion a Phrosesau Unioni Eraill

  •  Unioni Cais na Chymeradwywyd

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Hawl i apelio

    Yn amodol ar ddarpariaethau amrywiol o fewn Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, gall unrhyw berson sy’n gwrthwynebu:

    • penderfyniad i wrthod cymeradwyo, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded
    • unrhyw delerau, amodau neu gyfyngiadau trwydded neu benderfyniad i wrthod amrywio telerau, amodau neu gyfyngiadau o’r fath




    apelio i'r Llys Ynadon a all gyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel sy’n briodol. Dylai apeliadau gael eu cyflwyno o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am y gwrthodiad.

     

    Fodd bynnag, nid yw’r hawl i apelio yn berthnasol lle gwrthodwyd trwydded ar y sail:

    • bod nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal yn fwy na’r nifer y mae’r awdurdod yn ei ystyried yn briodol
    • y byddai cymeradwyo’r drwydded yn amhriodol o ystyried cymeriad yr ardal, natur safleoedd eraill yn yr ardal, neu’r safle ei hun





    y gall apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed gan y Llys Ynadon gael ei hapelio yn Llys y Goron, ond penderfyniad Llys y Goron sy’n derfynol.

  •  Deiliad Trwydded yn Unioni

    Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu yn y lle cyntaf:

     

    Ffôn: 01446 709105

    E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Hawl i apelio
    Yn amodol ar ddarpariaethau amrywiol o fewn Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, gall unrhyw berson sy’n gwrthwynebu:

    • penderfyniad i wrthod adnewyddu neu drosglwyddo trwydded
    • unrhyw delerau, amodau neu gyfyngiadau trwydded neu benderfyniad i wrthod amrywio telerau, amodau neu gyfyngiadau o’r fath
    • dirymiad trwydded






    apelio i'r Llys Ynadon a all gyflwyno cyfarwyddiadau ynghylch y drwydded neu ei hamodau fel sy’n briodol. Dylai apeliadau gael eu cyflwyno o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am y gwrthodiad.

     

    Fodd bynnag, nid yw’r hawl i apelio’n berthnasol lle gwrthodwyd trwydded ar y sail:

    • bod nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal yn fwy na’r nifer y mae’r awdurdod yn ei ystyried yn briodol
    • y byddai cymeradwyo’r drwydded yn amhriodol o ystyried cymeriad yr ardal, natur safleoedd eraill yn yr ardal neu’r safle ei hun

    .y gall apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed gan y Llys Ynadon gael ei hapelio yn Llys y Goron, ond penderfyniad Llys y Goron sy’n derfynol.

  •  Cwynion Cwsmeriaid

    Byddem yn argymell, os daw cwyn i law, y dylech gysylltu â'r masnachwr yn gyntaf, yn ddelfrydol ar ffurf llythyr gyda thystiolaeth gyflenwi. 

     

    Os nad yw hyn wedi gweithio, a’ch bod yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn gallu rhoi cyngor i chi. 

     

    Os cewch gŵyn o rywle arall yn Ewrop, cysylltwch â Chanolfan Cwsmeriaid Ewropeaidd y DU.