Cost of Living Support Icon

Hysbysiad o Fuddiant mewn Safle

Rhaid i berson (sy’n cynnwys busnes neu gwmni) â buddiant eiddo mewn unrhyw safle yn ardal yr awdurdod trwyddedu hysbysu eu buddiant i’r awdurdod.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Ardal: 

Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Cydsyniad Mud

Mae hyn yn golygu yr ystyrir eich hysbysiad yn gyflawn os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

 

Y cyfnod targed yw 14 diwrnod calendr.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd

Gall person (sy’n cynnwys busnes neu gwmni) â buddiant eiddo mewn unrhyw safle yn ardal yr awdurdod trwyddedu hysbysu eu buddiant i’r awdurdod drwy gyflwyno'r ffurflen berthnasol a’r ffi berthnasol.

 

Ymhlith y sawl a all fanteisio ar y trefniant hwn mae:

  • y rhydd-ddeiliad
  • y lesddeiliad
  • morgeisai cyfreithiol yr eiddo
  • person sy’n byw yn yr eiddo
  • unrhyw berson arall fel y rhagnodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol

Mae cofrestru’n ddewisol ac felly nid yw’n ofyniad cyfreithiol.

 

Bydd yr hysbysiad ar waith am 12 mis, ond mae modd cyflwyno un newydd bob blwyddyn.

 

Tra ei fod ar waith, os gwnaed unrhyw newid i’r safle i’r gofrestr gyhoeddus trwyddedu rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu’r person a gofrestrodd fuddiant o’r mater y mae’r newid yn ymwneud ag ef.

Caiff y person hefyd wybod am eu hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth a gofnodir ar y gofrestr.

Mewn achosion sy’n ymwneud â hysbysiadau dros dro, bydd yr awdurdod trwyddedu’n sicrhau bod gohebiaeth o’r fath yn cael ei delio â hi’n brydlon.

Ffioedd

Y ffi flynyddol (ail hysbysiad) i hawl rhydd-ddeiliaid ac ati i gael gwybod am faterion trwyddedu yw £21.00.

 

Ni ellir ad-dalu'r ffi hon.

 Rheoliadau a Chanllawiau