Cost of Living Support Icon

Safle Clwb: Mân Amrywiad

Gall deiliaid trwyddedau Safle Clwb wneud cais am 'fân amrywiadau' i'w trwyddedau mewn achosion penodol. Er enghraifft, mae'n bosibl gwneud mân newidiadau i drefn safle neu ychwanegu rhai gweithgareddau at drwydded e.e. adloniant a reoleiddir, ar yr amod nad yw'r amrywiad yn cael effaith andwyol ar unrhyw un o'r amcanion trwyddedu.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

 

Proses Ymgeisio 

Rhaid gwneud cais am fân amrywiad i awdurdod trwyddedu’r ardal y lleolir y safle ynddi.

I wneud cais rhaid i chi gyflwyno:

  • y ffi ofynnol

  • ffurflen gais berthnasol

  • cynllun o’r safle

 

Dan y broses hon, rhaid gwneud y cais ar y ffurflen ragnodedig a bydd angen i'r ymgeisydd arddangos hysbysiad yn y safle.

 

Ceir hysbysiad enghreifftiol ac arweiniad ar fformat yr hysbysiad dan y wybodaeth ategol.

 

Mae gan Bartïon â Diddordeb 10 diwrnod gwaith o'r diwrnod y daw'r cais i law'r awdurdod i gyflwyno sylwadau.

 

Rhaid penderfynu ar y cais ar ôl i'r deg diwrnod gwaith ddod i ben ond fan bellaf o fewn 15 diwrnod gwaith, gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r awdurdod dderbyn y cais. Nid oes hawl i gael gwrandawiad dan y broses mân amrywiadau. Rhaid i'r Awdurdod ystyried unrhyw sylwadau perthnasol wrth ddod i benderfyniad.

 

Cydsyniad Mud

Na. Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn ei ganiatáu.

 

Y cyfnod targed yw 15 diwrnod gwaith.

 

Mae gan bartïon â diddordeb 10 diwrnod gwaith o'r diwrnod ‘cychwynnol’, hynny yw, y diwrnod ar ôl i’r awdurdod trwyddedu dderbyn y cais, i wneud sylwadau.

 

Felly, rhaid i Gyngor Bro Morgannwg aros nes bod y cyfnod hwn wedi mynd heibio cyn penderfynu ar y cais, ond rhaid iddo wneud hynny o fewn 15 diwrnod gwaith fan bellaf, gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r cais ddod i law, gan naill ai:

  • caniatáu'r amrywiad bach

  • gwrthod y cais

 

Os nad ydym yn ymateb i ymgeisydd o fewn 15 diwrnod gwaith, caiff y cais ei drin fel un a wrthodwyd a byddwn yn dychwelyd y ffi i'r ymgeisydd ar unwaith. Fodd bynnag, os yw’r ymgeisydd yn cytuno, gallwn drin y cais heb gael penderfyniad fel cais newydd gan ddefnyddio'r ffi a gyflwynwyd yn wreiddiol.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwysedd  

Yr amcanion trwyddedu:

  • atal trosedd ac anrhefn

  • diogelwch y cyhoedd

  • atal niwsans cyhoeddus

  • gwarchod plant rhag niwed

 

Mae pob amcan yr un mor bwysig â’r llall. Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw amcanion trwyddedu eraill, fel bod y pedwar amcan hwn o’r pwys mwyaf bob amser.

 

Ni cheir defnyddio gweithdrefn mân amrywiadau i:

  • amrywio'n sylweddol y safle y mae'n ymwneud ag ef

  • newid y goruchwylydd safle dynodedig

  • dechrau gwerthu neu gyflenwi alcohol

  • awdurdodi cyflenwi alcohol ar unrhyw adeg rhwng 11.00 pm a 7.00 am

  • awdurdodi cynnydd yn faint o amser yn ystod unrhyw ddiwrnod y gellir ei bennu i werthu neu gyflenwi alcohol

  • estyn y cyfnod y bydd trwydded ar waith

 

Ffioedd

Dylid cyflwyno ceisiadau gyda’r ffi £89.00. Ni ellir ad-dalu’r ffi hon.

 

Gwybodaeth Ategol 

Rhaid i’r hysbysiad  a gaiff ei arddangos yn y safle:

  • fod ar bapur maint A4 neu fwy

  • bod ar bapur gwyn gyda’r ysgrifen wedi’i hargraffu'n ddarllenadwy mewn inc du neu wedi'i theipio mewn du

  • cynnwys pennawd mewn ffont o faint 32 neu fwy

  • cynnwys geiriad ffont maint 16 neu fwy yng ngweddill yr hysbysiad

 

Ar gyfer ceisiadau am fân amrywiadau i drwyddedau, mae angen i'r ymgeisydd arddangos hysbysiad yn y safle am gyfnod o ddim llai na deg diwrnod gwaith. Mae'r cyfnod hwn yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y rhoddwyd y cais i Gyngor Bro Morgannwg. Ym mhob achos, rhaid i'r hysbysiad gael ei arddangos mewn man amlwg yn y safle y mae'r cais yn ymwneud ag ef lle gellir ei ddarllen yn gyfleus o’r tu allan i’r safle.

 

Os yw maint safle’n fwy na hanner can metr sgwâr, rhaid arddangos hysbysiad pellach o’r un fath sy’n destun yr un gofynion bob hanner can metr ar hyd perimedr allanol y safle sy'n ffinio ag unrhyw briffordd.