Cost of Living Support Icon

Eiddo Gamblo

Yn sgil Deddf Gamblo 2005, crëwyd cyfundrefn o reoliadau trwyddedu ar gyfer gamblo masnachol yn y wlad hon. Ymhlith newidiadau eraill, rhoddodd y Ddeddf gyfrifoldebau estynedig i awdurdodau lleol dros drwyddedu eiddo ar gyfer gamblo.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Y Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

Application Process

  • Caniatáu, Amrywio, Datganiad Dros Dro

    I wneud cais am drwydded eiddo, mae'n rhaid i chi gyflwyno:

    - ffurflen gais ragnodedig

    - cynllun o'r eiddo

    - y ffi ymgeisio berthnasol

    - ac unrhyw wybodaeth neu ddogfennau eraill y gofynnir amdanynt

    Ni chaiff ffioedd ymgeisio eu had-dalu os bydd cais yn cael ei dynnu'n ôl neu ei wrthod.

     

    Mae'n ofynnol i ymgeiswyr anfon rhybudd o'u cais ar y ffurflen a ragnodir i'r holl awdurdodau cyfrifol cyn pen 7 diwrnod ar ôl i'r Awdurdod Trwyddedu dderbyn ei gopi.

       

    Yn ogystal â hynny, mae'n ofynnol i unrhyw un sy'n ymgeisio am drwydded, i amrywio trwydded, neu am ddatganiad dros dro, hysbysebu'r cais drwy'r dulliau canlynol:

    -  arddangos rhybudd o'r cais ar yr eiddo am 28 diwrnod yn olynol gan ddechrau ar y diwrnod pan gyflwynir y cais i'r awdurdod trwyddedu, a

    - chyhoeddi'r rhybudd o'r cais mewn papur newydd lleol cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno'r cais i'r awdurdod trwyddedu.

     

    Mae'n rhaid i'r rhybuddion fod ar y ffurf a ragnodir.

     

    Cynhelir cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod ar gyfer ceisiadau, gan ddechrau ar y diwrnod pan gyflwynir y cais i'r awdurdod trwyddedu,

     

    Bydd ffi flynyddol gyntaf yn daladwy 30 diwrnod ar ôl dyddiad caniatáu'r drwydded  (nid yw hyn yn berthnasol wrth amrywio neu wneud cais am ddatganiad dros dro)

  • Trosglwyddo

    Er mwyn gwneud cais, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i ddechrau:

    - ffurflen gais berthnasol

    - y ffi ragnodedig

    - datganiad ysgrifenedig gan ddeilydd cyfredol y drwydded yn cydsynio i'w throsglwyddo

    - y drwydded sydd i'w throsglwyddo neu ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau pam nad yw'r drwydded wreiddiol ar gael, a chais am gyhoeddi copi o'r drwydded

    - cynllun o'r eiddo

     

    Ni chaiff ffioedd ymgeisio eu had-dalu os bydd cais yn cael ei dynnu'n ôl neu ei wrthod.

     

    Mae'n ofynnol i ymgeiswyr anfon rhybudd o'u cais ar y ffurflen ragnodedig i'r holl awdurdodau cyfrifol perthnasol cyn pen 7 diwrnod ar ôl i'r Awdurdod Trwyddedu dderbyn ei gopi yntau.

     

    Dyma'r pedwar awdurdod cyfrifol sy'n berthnasol wrth wneud cais i drosglwyddo:

    - Y Comisiwn Gamblo

    - Prif Swyddog yr Heddlu

    - Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

    - Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

     

    Nid oes unrhyw ofyniad i hysbysebu mewn papur newydd neu ar yr eiddo wrth wneud cais i drosglwyddo. Os na chaiff Awdurdodau Cyfrifol eu hysbysu'n briodol, bydd hynny'n achosi oedi cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â'ch cais.

     

    Cynhelir cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod ar gyfer ceisiadau, gan ddechrau ar y diwrnod pan gyflwynir y cais i'r awdurdod trwyddedu.

     

    Awdurdod dros dro

    Mae rhan tri o'r ffurflen gais yn galluogi'r ymgeisydd i wneud cais i gael ei drin fel deilydd y drwydded yn ystod y cyfnod ymgeisio. Bydd hyn yn caniatáu i eiddo sefydledig barhau i weithredu o dan awdurdod y drwydded eiddo tra bo'r cais dan ystyriaeth. Fodd bynnag, nid yw'r ymgeisydd wedi'i esgusodi o unrhyw ofyniad arall o dan y Ddeddf wrth ddefnyddio'r ddarpariaeth hon, fel yr angen i ddal Trwydded Weithredu ddilys. Bydd yr adran hon yn dod i rym pan fydd y cais yn dod i law'r awdurdod trwyddedu, ac yn dod i ben ar ôl i'r awdurdod wneud penderfyniad ynglŷn â'r cais.

 

Cefndir a Meini Prawf Cymhwystra

An applicant for a premises licence must:

  • Mae'n rhaid i'r sawl sy'n ymgeisio am drwydded eiddo:
  • fod yn 18 oed neu'n hŷn, os yw'n gwneud cais ar ei ben ei hun
  • cael awdurdod i wneud cais, os yw'n ymgeisio ar ran cwmni neu bartneriaeth
  • cael hawl i feddiannu'r eiddo, a
  • dal trwydded Weithredu (neu fod wedi gwneud cais am y drwydded honno) oddi wrth y Comisiwn Gamblo ar gyfer y gweithgarwch gamblo dan sylw (onid yw'r cais yn gysylltiedig â thrac, lle nad y meddiannydd, o bosib, fydd yn cynnig y ddarpariaeth gamblo ei hun)
  • Natur y drwydded

    Trwydded eiddo yw trwydded sy'n rhoi awdurdod i ddefnyddio eiddo i'r dibenion canlynol:

    - gweithredu casino (trwydded eiddo casino)

    - darparu cyfleusterau ar gyfer chwarae bingo (trwydded eiddo bingo)

    - darparu peiriannau gemau Categori B (trwydded eiddo canolfan gemau oedolion)

    - darparu peiriannau gemau Categori C (trwydded eiddo canolfan adloniant i deuluoedd)

    - darparu cyfleusterau ar gyfer betio, p'un a wneir hynny er mwyn gwneud neu dderbyn betiau, neu drwy weithredu fel canolwr ar gyfer betiau, neu drwy ddarparu cyfleusterau eraill ar gyfer gwneud neu dderbyn betiau (trwydded eiddo betio)

  

Amodau

Mae'r holl drwyddedau eiddo yn ddarostyngedig i amodau gorfodol ac, mewn rhai achosion, i amodau diofyn, sy'n cyfyngu ar yr oriau gweithredu o dan y drwydded.

 

Ni cheir amrywio amodau gorfodol na'u dileu o'r drwydded. Fodd bynnag, caniateir gwneud cais i amrywio neu gael gwared â'r amodau diofyn.

 

Dylech hefyd gyfeirio at Reoliadau Deddf Gamblo 2005 (Amodau Gorfodol a Diofyn) (Cymru a Lloegr) 2007 i weld manylion yr amodau gorfodol a diofyn sy'n berthnasol i drwyddedau amrywiol.

 

  • Amodau Gorfodol sydd ynghlwm wrth bob trwydded eiddo

    (1) Bydd yr amodau a nodir ym mharagraffau (2), (3) a (4) ynghlwm wrth bob trwydded eiddo.

     

    (2) Caiff crynodeb o delerau ac amodau'r drwydded eiddo a gyflwynir o dan adran 164(1)(c) o Ddeddf 2005 eu harddangos mewn lle amlwg ar yr eiddo.

     

    (3) Bydd cynllun yr eiddo yn cael ei gadw yn unol â'r cynllun.

     

    (4) Ni ddefnyddir yr eiddo i:

    (a) werthu tocynnau mewn loteri preifat neu loteri cwsmeriaid, na

    (b) gwerthu tocynnau ar gyfer unrhyw loteri arall lle bydd gwerthu tocynnau ar gyfer y loteri hwnnw wedi'i wahardd ar yr eiddo.

     

  • Amodau gorfodol sydd ynghlwm wrth drwyddedau eiddo Canolfan Gemau Oedolion

    1. Bydd rhybudd yn datgan na chaiff unrhyw un dan 18 oed fynediad i'r eiddo wedi'i arddangos mewn lle amlwg wrth bob mynedfa i'r eiddo.

     

    2. Ni chaiff unrhyw gwsmer fynediad i'r eiddo yn uniongyrchol o unrhyw eiddo arall yr effeithir arno gan drwydded a roddwyd  o dan Ran 8 o'r Ddeddf, neu hawlen a gyhoeddwyd o dan Atodlen 10, 12 neu 13 o'r Ddeddf.

     

    3. Bydd unrhyw beiriant codi arian a ddarperir i'w ddefnyddio ar yr eiddo wedi'i leoli mewn man a fydd yn golygu bod yn rhaid i unrhyw gwsmer sy'n dymuno ei ddefnyddio roi'r gorau i gamblo ar unrhyw beiriant gamblo er mwyn gwneud hynny.

     

    4. (1) Ni chaniateir yfed alcohol ar yr eiddo ar unrhyw bryd tra bo'r cyfleusterau gamblo yn cael eu darparu ar yr eiddo.

    (2) Bydd yn rhaid gosod rhybudd ac arno'r amod yn is-baragraff (1) mewn lle amlwg wrth bob mynedfa i'r eiddo.

     

  • Amodau gorfodol sydd ynghlwm wrth drwyddedau eiddo Canolfan Adloniant i Deuluoedd

    1. Ni chaiff unrhyw gwsmer fynediad uniongyrchol i'r eiddo o unrhyw eiddo arall os bydd un o'r trwyddedau eiddo a ganlyn yn effeithio ar yr eiddo hwnnw-

       (a) trwydded eiddo casino;

       (b) trwydded eiddo canolfan gemau i oedolion

       (c) trwydded eiddo betio ac eithrio trwydded eiddo trac

     

    2. Bydd unrhyw beiriant codi arian a ddarperir i'w ddefnyddio ar yr eiddo wedi'i leoli mewn man a fydd yn golygu bod yn rhaid i unrhyw gwsmer sy'n dymuno ei ddefnyddio roi'r gorau i gamblo ar unrhyw beiriant gamblo er mwyn gwneud hynny.

     

    3. (1) Os bydd peiriannau gemau Categori C yn cael eu darparu i'w defnyddio ar yr eiddo, bydd unrhyw ardal o'r eiddo sydd yn cynnwys y peiriannau hynny-

      (a) wedi'i gwahanu oddi wrth weddill yr eiddo gan rwystr ffisegol sydd yn ffordd effeithiol o atal mynediad, ac eithrio mynedfa sydd wedi'i dylunio i'r diben dan sylw;

      (b) wedi'i goruchwylio ar bob achlysur er mwyn sicrhau na fydd plant neu bobl ifanc, na'r naill na'r llall, yn cael mynediad i'r ardal; a

      (c) wedi'i threfnu mewn ffordd sy'n caniatáu i'r sawl a grybwyllir yn is-baragraff (2) weld pob rhan o'r ardal.

    (2) Wrth gyfeirio oruchwyliaeth yn y paragraff hwn, yr hyn a olygir yw'r dulliau canlynol-

      (a) un neu fwy o bobl y mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau nad yw plant neu bobl ifanc, na'r naill na'r llall, yn cael mynediad i'r ardal; neu

      (b)  teledu cylch cyfyng a gaiff ei fonitro gan un neu fwy o unigolion y mae eu

    cyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau nad yw plant neu bobl ifanc, na'r naill na'r naill yn cael mynediad i'r ardal.

    (3) Bydd yn rhaid gosod rhybudd mewn man amlwg wrth y fynedfa i unrhyw ardal o'r eiddo lle darperir peiriannau gemau Categori C sy'n nodi na chaiff unrhyw un dan 18 oed fynediad i'r ardal.

     

    4. (1) Ni chaniateir yfed alcohol ar yr eiddo ar unrhyw bryd tra bo'r cyfleusterau gamblo yn cael eu darparu ar yr eiddo.

        (2) Bydd yn rhaid gosod rhybudd ac arno'r amod yn is-baragraff (1) mewn lle amlwg wrth bob mynedfa i'r eiddo.

  • Amodau gorfodol sydd ynghlwm wrth drwyddedau eiddo betio (ac eithrio trwyddedau eiddo trac)

    1. Bydd rhybudd yn datgan na chaiff unrhyw un dan 18 oed fynediad i'r eiddo wedi'i arddangos mewn lle amlwg wrth bob mynedfa i'r eiddo.

     

    2. (1) Caniateir mynediad i'r eiddo o stryd neu o eiddo arall a chanddo drwydded eiddo betio

        (2) Heb amharu ar is-baragraff (1), ni chaniateir unrhyw fynediad uniongyrchol rhwng yr eiddo ac eiddo arall a ddefnyddir ar gyfer manwerthu nwyddau neu wasanaethau.

     

    3. Yn amodol ar unrhyw ganiatâd yn rhinwedd Deddf 2005, neu unrhyw weithred yn unol â pharagraffau 4, 5, 6 a 7 isod, ni cheir defnyddio'r eiddo i unrhyw ddiben arall ar wahân i ddarparu cyfleusterau ar gyfer betio.

     

    4. Bydd unrhyw beiriant codi arian a ddarperir i'w ddefnyddio ar yr eiddo wedi'i leoli mewn man a fydd yn golygu bod yn rhaid i unrhyw gwsmer sy'n dymuno ei ddefnyddio roi'r gorau i gamblo er mwyn gwneud hynny.

     

    5. Ni cheir defnyddio unrhyw gyfarpar i greu gwybodaeth eu unrhyw ddeunydd arall sydd ar gael ar ffurf sain neu ddelweddau gweledol ar yr eiddo, ar wahân i gyfarpar a ddefnyddir i'r dibenion a ganlyn-

    (a) cyfleu gwybodaeth am ddigwyddiadau chwaraeon, neu sylwebaeth ar ddigwyddiadau chwaraeon, gan gynnwys-

     (i) gwybodaeth sy'n gysylltiedig â betio ar ddigwyddiad o'r fath; a

     (ii) unrhyw fater neu wybodaeth arall, gan gynnwys hysbyseb, a geir yn sgil y digwyddiad hwnnw;

    (b) cyfleu gwybodaeth ynghylch betio ar unrhyw ddigwyddiadau (gan gynnwys canlyniad y digwyddiad) y gallai trafodion fod yn cael/wedi cael eu gweithredu ar yr eiddo yn gysylltiedig â hwy.

     

    6. Ni chaniateir gwerthu na chynnig unrhyw gyhoeddiadau i'w gwerthu ar yr eiddo, ar wahân i gyfnodolion rasio neu gyhoeddiadau betio arbenigol.

     

    7. Ni chaniateir darparu cerddoriaeth, dawnsio nac unrhyw adloniant arall ar yr eiddo, ar wahân i adloniant a ddarperir yn unol â pharagraff 5.

     

    8. (4 .- (1) Ni chaniateir yfed alcohol ar yr eiddo ar unrhyw bryd tra bo'r cyfleusterau gamblo yn cael eu darparu ar yr eiddo.

         (2) Bydd yn rhaid gosod rhybudd ac arno'r amod yn is-baragraff (1) mewn lle amlwg wrth bob mynedfa i'r eiddo.

     

    9. Bydd yn rhaid gosod rhybudd sy'n nodi'r telerau y gwahoddir cwsmeriaid i fetio ar yr eiddo yn unol â hwy

    mewn man amlwg ar yr eiddo lle na chyfyngir ar fynediad cwsmeriaid.

  • Amodau diofyn sydd ynghlwm wrth drwyddedau eiddo betio (ac eithrio mewn perthynas â thraciau)

    Ni chaniateir darparu unrhyw gyfleusterau ar gyfer gamblo ar yr eiddo rhwng 10pm a 7am ar y diwrnod dilynol.

  • Amodau gorfodol sydd ynghlwm wrth drwyddedau eiddo bingo

    1. Bydd rhybudd yn datgan na chaiff unrhyw un dan 18 oed chwarae bingo ar yr eiddo wedi'i arddangos mewn lle amlwg wrth bob mynedfa i'r eiddo.

     

    2. Ni chaiff unrhyw gwsmer fynediad uniongyrchol i'r eiddo o unrhyw eiddo arall os bydd un o'r mathau canlynol o ganiatâd yn effeithio ar yr eiddo hwnnw–

      (a) trwydded eiddo casino; .

      (b) trwydded eiddo canolfan gemau i oedolion .

      (c) trwydded eiddo betio (ac eithrio trwydded eiddo trac)

     

    3. (1) Bydd y paragraff hwn yn berthnasol os bydd deilydd y drwydded yn caniatáu i blant a phobl ifanc, neu'r ddau, gael mynediad i'r eiddo, a bod peiriannau gemau Categori B neu C yn cael eu darparu i'w defnyddio ar yr eiddo.

          (2) Os bydd peiriannau gemau Categori B neu C yn cael eu darparu i'w defnyddio ar yr eiddo, bydd unrhyw ardal o'r eiddo sydd yn cynnwys y peiriannau hynny–

          (a) wedi'i gwahanu oddi wrth weddill yr eiddo gan rwystr ffisegol sydd yn ffordd effeithiol o atal mynediad, ac eithrio mynedfa sydd wedi'i dylunio i'r diben dan sylw; .

          (b) wedi'i goruchwylio ar bob achlysur er mwyn sicrhau na fydd plant neu bobl ifanc, na'r naill a'r llall, yn cael mynediad i'r ardal; ac

    (c) wedi'i threfnu fel bod modd goruchwylio pob rhan o'r ardal.

    (3) Wrth gyfeirio oruchwyliaeth yn is-baragraff (2), yr hyn a olygir yw'r dulliau canlynol–

    (a) un neu fwy o bobl y mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau nad yw plant neu bobl ifanc, na'r naill a'r llall, yn cael mynediad i'r ardal; neu .

    (b) teledu cylch cyfyng wedi'i fonitro gan un neu fwy o bobl y mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau nad yw plant neu bobl ifanc, na'r naill a'r llall, yn cael mynediad i'r ardal.

        (4) Bydd yn rhaid gosod rhybudd mewn lle amlwg wrth y fynedfa i unrhyw ardal o'r eiddo lle darperir peiriannau gemau Categori B neu C i'w defnyddio sy'n nodi na chaiff unrhyw un dan 18 fynediad i'r ardal.

     

    4. (1) Os codir tâl am fynediad i'r eiddo, bydd yn rhaid arddangos rhybudd o'r tâl hwnnw mewn man amlwg wrth y brif fynedfa i'r eiddo.

    (2) Os codir unrhyw dâl arall yn gysylltiedig â gemau, bydd yn rhaid gosod rhybudd ac arno'r wybodaeth yn is-baragraff (3)  wrth y brif fan lle mae'n rhaid cyflwyno'r taliad hwnnw.

    (3) Bydd yn rhaid i'r rhybudd yn is-baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth ganlynol-

    (a) cost (mewn arian) pob cerdyn gêm (neu gyfres o gardiau gêm) sydd yn daladwy gan unigolyn yn gysylltiedig â gêm o bingo; .

    (b) mewn perthynas â phob cerdyn gêm (neu gyfres o gardiau gêm) y cyfeirir ato/atynt yn is-baragraff (b), y swm a godir drwy ffi cyfranogi er mwyn cael hawl i gymryd rhan yn y gêm honno; ac

    (c) datganiad i'r perwyl y gall yr holl ffi cyfranogi, neu gyfran ohoni, gael ei hildio yn ôl disgresiwn y sawl sy'n codi'r ffi honno

    (4) Ceir arddangos y rhybudd ar ffurf electronig.

    (5) Yn y paragraff hwn, yr hyn a olygir wrth gyfeirio at "gerdyn gêm" yw dyfais sy'n rhoi cyfle i unigolyn ennill un neu fwy o wobrau yn gysylltiedig â gêm o bingo.

    (6) Nid yw cyfeiriad yn y paragraff hwn am godi tâl yn gysylltiedig â gemau yn cynnwys y swm a delir am gyfle i ennill un neu fwy o wobrau wrth chwarae gêm, y mae adran 288 o'r Ddeddf (ystyr "gemau gwobr") yn berthnasol iddo.

     

    5. Bydd yn rhaid darparu rheolau pob math o gêm sydd ar gael i'w chwarae ar yr eiddo (ac eithrio'r gemau a chwaraeir ar beiriannau gemau) i gwsmeriaid ar yr eiddo, a gellir bodloni'r gofyniad hwn drwy-

    (a) arddangos arwydd sy'n nodi'r rheolau; .

    (b) darparu taflenni neu ddeunydd arall ysgrifenedig ac arnynt y rheolau ar bob bwrdd; neu

    (c) dangos canllaw clyweledol i'r rheolau cyn cychwyn unrhyw gêm bingo.

     

    6. Bydd unrhyw beiriant codi arian a ddarperir i'w ddefnyddio ar yr eiddo wedi'i leoli mewn man a fydd yn golygu bod yn rhaid i unrhyw gwsmer sy'n dymuno ei ddefnyddio roi'r gorau i gamblo er mwyn gwneud hynny.

  • Amodau diofyn sydd ynghlwm wrth drwyddedau eiddo bingo

    1. (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaniateir darparu unrhyw gyfleusterau ar gyfer gamblo ar yr eiddo rhwng hanner nos a 9am ar unrhyw ddydd.

     

    (2) Ni fydd yr amod yn is-baragraff (1) yn berthnasol wrth ddarparu peiriannau chwarae i'w defnyddio.

 

Ffioedd

Sylwch fod y ffi flynyddol gyntaf yn daladwy 30 diwrnod ar ôl dyddiad caniatáu'r drwydded, ac yn flynyddol ar ddyddiad caniatáu'r grant wedi hynny.

 

Fees for licensing
Cais Canolfan Gemau i OedolionFfi

Ffi Ymgeisio

£1,200

Cais Lle Cyflwynwyd Datganiad Dros Dro yn Flaenorol

£675

Annual FeeFfi Flynyddol

£1,000

Ffi Cais Trosglwyddo

£400

Ffi Cais Amrywio

£750

Ffi Cais am Ddatganiad Dros Dro

£1,250

Ffi Cais Ailsefydlu

£700

Ffurflen Newid Amgylchiadau

£50

Ffi Dyblygu Trwydded

£25

 

Fees
Cais Canolfan Adloniant i’r Teulu Ffi

Ffi Ymgeisio

£750

Cais Lle Cyflwynwyd Datganiad Dros Dro yn Flaenorol

£675

Ffi Flynyddol

£750

Ffi Cais Trosglwyddo

£400

Ffi Cais Amrywio

£750

Ffi Cais am Ddatganiad Dros Dro

£750

Ffi Cais Ailsefydlu

£700

Ffurflen Newid Amgylchiadau

£50

Ffi Dyblygu Trwydded 

£25

 

Fees
Cais am Drwydded Eiddo Betio (Arall)Ffi

Ffi Ymgeisio

£1,200

Cais Lle Cyflwynwyd Datganiad Dros Dro yn Flaenorol

£675

Ffi Flynyddol

£600

Ffi Cais Trosglwyddo

£400

Ffi Cais Amrywio

£1,050

Ffi Cais am Ddatganiad Dros Dro

£1,250

Ffi Cais Adfer

£700

Ffurflen Newid Amgylchiadau

£50

Ffi Dyblygu Trwydded

£25

 

Fees
Eiddo Bingo  Math o GaisFee

Ffi Ymgeisio

£2,100

Cais Lle Cyflwynwyd Datganiad Dros Dro yn Flaenorol

£675

Ffi Flynyddol

£1,000

Ffi Cais Trosglwyddo

£400

Ffi Cais Amrywio

£1,300

Ffi Cais am Ddatganiad Dros Dro

£2,100

Ffi Cais Adfer

£700

Ffurflen Newid Amgylchiadau

£50

Ffi Dyblygu Trwydded

£25

 

Talu

Gallwch dalu eich ffi flynyddol / trosglwyddo / amrywio / copi o drwydded drwy'r dulliau canlynol:

 

  • Gyda cherdyn drwy ffonio 01446 709105

 

Wyneb yn wyneb yn y Swyddfeydd Dinesig drwy dalu gydag arian parod neu gerdyn:

Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Sylwer: Os ydych yn talu â cherdyn, dyfynnwch enw'r Eiddo, rhif y drwydded a'r Cod Costau 402084 73191