Cost of Living Support Icon

Trwyddedu Tacsis: Cerbydau

Er mwyn i gerbyd fod yn gerbyd sydd wedi’i drwyddedu rhaid cyflwyno ffurflen gais, dogfennau perthnasol a ffi i’r Adran Drwyddedu.  

  

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran:

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU 

 

Bydd rhaid i’r cerbyd gael ei brofi yn Nepo’r Alpau, Gwenfô, lle caiff ei brofi yn unol â'r amodau a safonau archwiliad safonol perthnasol.

 

Os ydych yn adnewyddu trwydded eich cerbyd gofalwch eich bod wedi cyflwyno cais ac yn bwcio prawf mewn da bryd cyn dyddiad y daw’r drwydded i ben (gellir profi cerbydau hyd at 10 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r drwydded i ben).

 

 

Ffioedd

 

fees and charges
CerbydauFfioedd Dadansoddiad o’r costau
Trwydded (blwyddyn)        £242  

Trwydded £230, Plât £12. Hefyd yn cynnwys trwydded Ffenestr, sticeri drws, plât cefn ac offer gosod plât.

Trwydded (6 mis)     £172    Trwydded £136, Plât £12. Hefyd yn cynnwys trwydded Ffenestr, sticeri drws, plât cefn ac offer gosod plât.
Adnewyddu (6 mis) £160   
Adnewyddu (4 mis)     £160  
Ail-brawf Cyntaf (dim MOT) £22.50   
Profion dilynol £45   
Canslo prawf cerbyd      £45   Cyn pen un diwrnod gwaith neu o ganlyniad i fethu â bod yn bresennol yn y prawf
Prawf yn dilyn hysbysiad gwahardd  £45  
Ad-daliad am blât    £10     Os cyflwynwyd cyn 01/09/10  neu £12 os cyflwynwyd ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny 

  

Troseddau a Chosbau

Mae'n drosedd i berson dorri unrhyw un o ddarpariaethau’r Adran, neu beidio â chydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth drwydded wedi’i chymeradwyo iddo dan yr Adran.

 

Cwynion

Er bod gyrwyr Cerbyd Hacni a Llogi Preifat a cherbydau’n sefyll profion a chael eu gwirio’n llym cyn iddynt gael trwydded, weithiau rydym yn derbyn cwynion gan y cyhoedd am y gwasanaeth tacsis.

 

I’n helpu i ymchwilio i gŵyn yn llawn mae angen gwybodaeth glir a chryno arnom ynghylch y digwyddiad. I’ch helpu chi, rydym wedi creu ffurflen y gallech fod am ei defnyddio. Os, ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, nad oes digon o dystiolaeth i erlyn gyrrwr trwyddedig gofynnir i chi gyflwyno datganiad tyst ac yna gallai fod angen i chi roi tystiolaeth yn y llys.

 

Ni chymerir camau gweithredu swyddogol bob tro gan ei bod yn dibynnu ar nifer o ffactorau; fodd bynnag, caiff pob digwyddiad ei archwilio’n ofalus a’i ystyried gan fod yr Awdurdod bob amser am wella’r gwasanaeth rydym yn ei roi i’r cyhoedd.

 

Cwblhewch y ffurflen hyd y gallwch gan roi’r manylion perthnasol. Caiff yr holl wybodaeth a roddwch ei thrin â chyfrinachedd llwyr.

 

Os yw Heddlu De Cymru yn ymdrin â digwyddiad, yn gyffredinol rhaid i Swyddogion Gorfodi Trwyddedu Cyngor Bro Morgannwg ddisgwyl nes y cwblheir yr ymchwiliad hwnnw cyn cymryd camau gweithredu neu gynnal ein hymchwiliad ein hun.

 

Fodd bynnag, diogelwch y cyhoedd fyddai'r ffactor o ran gwneud penderfyniad yn y pen draw. Os bydd swyddogion yn teimlo y byddai disgwyl tan ddiwedd ymchwiliad yr heddlu yn effeithio’n wael ar y cyhoedd, gall yr Adran Drwyddedu gymryd unrhyw gamau gweithredu priodol sy’n angenrheidiol yn ei barn hi a bydd yn gwneud felly. Gallai hyn gynnwys diarddel trwyddedau gyrru gyrwyr Cerbyd Hacni a Llogi Preifat ar unwaith.